bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
1 Corinthians 3
1 Corinthians 3
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 4 →
1
Ac myfi, frodyr, ni allwn lefaru wrthych fel rhai ysprydol, eithr fel rhai cnawdol, fel babanod yng Nghrist.
2
A llaeth y diodais chwi, nid bwyd a roddais, canys ni allech etto ei dderbyn;
3
eithr hyd yn oed yr awrhon ni ellwch, canys etto cnawdol ydych, canys lle y mae yn eich plith eiddigedd a chynnen, onid cnawdol ydych, ac yn ol dyn yr ydych yn rhodio?
4
Canys pan ddywaid neb, Myfi wyf o Paul; ac arall, Myfi wyf o Apolos, onid dynion ydych?
5
Pa beth, gan hyny, yw Apolos? A pha beth yw Paul? Gweinidogion, trwy y rhai y credasoch, ac fel y bu i’r Arglwydd roi i bob un.
6
Myfi a blennais; Apolos a ddyfrhaodd; eithr Duw a roddes y cynnydd.
7
Felly, nid yw’r hwn sy’n plannu yn ddim, nac yr hwn sy’n dyfrhau, eithr yr Hwn sy’n rhoddi’r cynnydd, sef Duw.
8
Ac yr hwn sy’n plannu a’r hwn sy’n dyfrhau, un peth ydynt; a phob un a dderbyn ei wobr ei hun yn ol ei lafur ei hun;
9
canys cydweithwyr Duw ydym; amaethyddiaeth Duw, adeiladaeth Duw ydych.
10
Yn ol gras Duw yr hwn a roddwyd i mi, fel pen-saer doeth y sylfaen a roddais, ac arall sy’n adeiladu arno; a bydded i bob un edrych pa wedd y mae yn adeiladu arno;
11
canys sylfaen arall nid oes neb fedr ei osod heblaw yr hwn a osodwyd, yr hwn yw Iesu Grist.
12
Ac os yw neb yn adeiladu ar y sylfaen, aur, arian, meini gwerthfawr, coed,
13
gwair, sofl, gwaith pob un a wneir yn amlwg, canys y dydd a’i heglura, canys â thân y datguddir ef; a gwaith pob un, o ba fath y mae, y tân a’i prawf.
14
Os gwaith neb a erys, yr hwn a adeiladodd efe, gwobr a dderbyn efe;
15
os gwaith neb a losgir, colled a gaiff efe; ond efe ei hun a achubir, ond felly fel trwy dân.
16
Oni wyddoch mai teml Dduw ydych, a bod Yspryd Duw yn trigo ynoch?
17
Os teml Dduw a ddistrywia dyn, hwnw a ddistrywia Duw; canys teml Dduw, sanctaidd yw, yr hon ydych chwi.
18
Na fydded i neb dwyllo ei hun. Os yw neb yn meddwl ei fod yn ddoeth yn eich plith yn y byd hwn, aed yn ffol fel yr elo yn ddoeth;
19
canys doethineb y byd hwn, ffolineb yw gyda Duw, canys ysgrifenwyd, “Yr Hwn sy’n dal y doethion yn eu callineb.”
20
Ac etto, “Iehofah a ŵyr feddyliau’r doethion, eu bod yn ofer.”
21
Felly na fydded i neb ymffrostio mewn dynion; canys pob peth, yr eiddoch chwi ydynt;
22
pa un bynnag ai Paul, ai Apolos, ai Cephas, ai’r byd, ai bywyd, ai angau, ai pethau presennol, ai pethau i ddyfod; yr oll ydynt eiddoch chwi,
23
a chwithau yn eiddo Crist, a Christ yn eiddo Duw.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16