bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
1 Corinthians 11
1 Corinthians 11
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 12 →
1
Efelychwyr byddwch i mi, fel yr wyf finnau hefyd i Grist.
2
Ac eich canmol yr wyf, gan mai ymhob peth fy nghofio yr ydych; ac, fel y traddodais i chwi, y traddodiadau eu cadw yr ydych.
3
Ond ewyllysiaf i chwi wybod mai i bob dyn, y pen yw Crist; a phen y wraig yw’r gŵr; a phen Crist yw Duw.
4
Pob dyn yn gweddïo, neu yn prophwydo, a chanddo beth am ei ben,
5
cywilyddio ei ben y mae; a phob gwraig yn gweddïo, neu yn prophwydo, heb orchudd am ei phen, cywilyddio ei phen y mae, canys yr un, a’r un peth, yw a phe ei heilliesid hi.
6
Canys os heb orchudd y mae gwraig, cneifier hi hefyd; ond os cywilyddus i wraig ei chneifio neu ei heillio, bydded a gorchudd am dani.
7
Canys dyn yn wir ni ddylai fod a pheth am ei ben, gan mai delw a gogoniant Duw yw; ond y wraig, gogoniant y dyn yw;
8
canys nid yw dyn o wraig, eithr y wraig o ddyn;
9
ac ni chrewyd dyn er mwyn y wraig, eithr gwraig er mwyn y dyn.
10
O herwydd hyn dylai’r wraig fod ag arwydd awdurdod ar ei phen o achos yr angylion.
11
Er hyny, nid yw na gwraig heb ddyn, na dyn heb wraig yn yr Arglwydd,
12
canys yr un wedd ag y mae’ r wraig o’r dyn, felly hefyd y mae’ r dyn trwy’r wraig; a phob peth o Dduw.
13
Ynoch chwi eich hunain bernwch, Ai gweddus yw i wraig heb orchudd am dani weddïo Duw?
14
Onid yw hyd yn oed naturiaeth ei hun yn eich dysgu chwi, os bydd dyn yn wallt-laes, mai dianrhydedd yw iddo;
15
ond os gwraig fydd wallt-laes, gogoniant yw iddi, canys ei gwallt a roddwyd yn lle gorchudd iddi.
16
Ond os ymddengys neb yn gynhenus, nid oes genym ni y fath arfer, na chan eglwysi Duw.
17
Ond pan hyn a orchymynaf, nid wyf yn eich canmol, canys nid er gwell, eithr er gwaeth y deuwch ynghyd;
18
canys yn gyntaf, pan ddeloch ynghyd, clywaf mai yn yr eglwys y mae sismau yn eich plith, a rhyw faint y credaf hyn,
19
canys rhaid hefyd fod sectau yn eich plith, fel y bo i’r rhai cymmeradwy fyned yn amlwg yn eich plith.
20
Wrth ddyfod o honoch, gan hyny, ynghyd, nid yw i fwytta swpper yr Arglwydd,
21
canys pob un sy’n cymmeryd ei swpper ei hun o flaen arall, yn y bwytta; ac un sydd a newyn arno, ac arall yn feddw.
22
Onid oes tai genych i’r bwytta ac yfed ynddynt? Ai eglwys Dduw a ddirmygwch, a chywilyddio y rhai nad oes ganddynt? Pa beth a ddywedaf wrthych? A ganmolaf fi chwi yn y peth hwn? Ni’ch canmolaf Canys myfi a dderbyniais gan yr Arglwydd,
23
yr hyn a draddodais hefyd i chwi, y bu i’r Arglwydd Iesu yn y nos y traddodwyd Ef, gymmeryd bara;
24
ac, wedi diolch o Hono, torrodd, a dywedodd, Hwn, yn wir, yw Fy nghorph I, yr hwn sydd eroch: Hyn gwnewch er cof am Danaf Fi.
25
Yr un modd hefyd y cwppan, ar ol swpperu, gan ddywedyd, Y cwppan hwn, y cyfammod newydd yw yn Fy ngwaed I. Hyn gwnewch, cynnifer gwaith ag yr yfoch, er cof am Danaf Fi.
26
Canys cynnifer gwaith ag y bwyttaoch y bara hwn, ac y cwppan a yfoch, marwolaeth yr Arglwydd a fynegwch hyd oni ddelo.
27
Felly, pwy bynnag a fwyttao y bara hwn, neu a yfo gwppan yr Arglwydd, mewn modd annheilwng, dyledwr fydd i gorph a gwaed yr Arglwydd.
28
A phrofed dyn ef ei hun; ac felly o’r bara hwn bwyttaed, ac o’r cwppan hwn yfed; canys yr hwn sy’n bwytta ac yn yfed,
29
barnedigaeth iddo ei hun y mae efe yn ei bwytta ac yn ei hyfed, pan na wahan-farno’r corph.
30
O achos hyn y mae yn eich plith lawer yn weiniaid ac yn llesg, a huno y mae llawer.
31
Ond pe gwahan-farnem ein hunain, ni’n bernid.
32
Ond wrth gael ein barnu gan yr Arglwydd, yr ydym yn cael ein ceryddu, rhag, ynghyda’r byd, ein condemnio.
33
Gan hyny, fy mrodyr, pan ddeloch ynghyd i fwytta, arhoswch eich gilydd.
34
Os bydd neb a newyn arno, yn ei dŷ bwyttaed, fel nad er barnedigaeth y deloch ynghyd. Ond y pethau eraill, pan ddelwyf, a drefnaf.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16