bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
1 Corinthians 4
1 Corinthians 4
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 5 →
1
Felly cyfrifed dyn nyni megis gweinidogion Crist, a disdeiniaid dirgeledigaethau Duw.
2
Yma, ym mhellach, y gofynir yn y disdeiniaid mai ffyddlawn y ceir neb.
3
Ond genyf fi peth o’r lleiaf yw fy marnu genych chwi, neu gan farn ddynol.
4
Eithr nid wyf yn barnu mi fy hun, canys nid oes dim a wn yn fy erbyn fy hun; eithr nid gan hyn y’m cyfiawnhawyd; ond yr Hwn sydd yn fy marnu, yr Arglwydd yw.
5
Felly, cyn yr amser na fernwch ddim, hyd oni ddelo’r Arglwydd, yr Hwn a ddwg i’r goleuni guddiedig bethau y tywyllwch, ac a amlyga gynghorau y calonnau; ac yna ei fawl fydd i bob dyn oddiwrth Dduw.
6
A’r pethau hyn, frodyr, a droais mewn ffigr attaf fy hun ac Apolos, er eich mwyn, fel ynom ni y dysgoch beidio a myned tu hwnt i’r pethau a ysgrifenwyd, fel na bo i’r naill ymchwyddo dros y llall, yn erbyn y llall.
7
Canys pwy sydd yn dy wneuthur di yn wahanol? A pha beth sydd genyt na dderbyniaist? Ac os derbyniaist hefyd, paham yr ymffrosti, fel pe bait heb dderbyn?
8
Eisoes y’ch diwallwyd; eisoes goludog ydych; hebddom ni y teyrnasasoch. Ac O na baech yn teyrnasu, fel y byddai i ninnau hefyd gyd-deyrnasu gyda chwi!
9
Canys tybiaf y bu i Dduw ein dangos ni, yr apostolion, yn ddiweddaf, megis wedi ein bwrw i angau, canys gwnaethpwyd ni yn ddrych i’r byd, ac i angylion, ac i ddynion.
10
Nyni, ffyliaid ydym er mwyn Crist, a chwithau yn ddoethion yng Nghrist; nyni yn weiniaid, a chwithau yn gryfion; chwychwi yn ogoneddus, a ninnau yn ddianrhydedd.
11
Hyd yr awrhon newyn sydd arnom a syched, a noethion ydym, ac yn cael ein cernodio, ac heb drigfa sefydlog genym;
12
ac yn llafurio gan weithio â’n dwylaw ein hunain; pan yn cael ein gwatwar, bendithio yr ydym;
13
pan yn cael ein herlid, dioddef yr ydym; pan yn cael ein cablu, attolygu yr ydym; fel budreddi’r byd y’n gwnaed, a sorod pob peth hyd yn hyn.
14
Nid gan eich gwaradwyddo yr wyf yn ysgrifenu y pethau hyn; eithr megis fy mhlant anwyl, eich cynghori yr wyf;
15
canys er i ddeng mil o hyfforddwyr fod genych yng Nghrist, er hyny, nid llawer o dadau sydd, canys yn Iesu Grist,
16
trwy’r efengyl, myfi a’ch cenhedlais; attolygaf i chwi, gan hyny, byddwch efelychwyr i mi.
17
O achos hyn y danfonais attoch Timothëus, yr hwn yw fy mab anwyl a ffyddlawn yn yr Arglwydd, yr hwn a ddwg ar gof i chwi fy ffyrdd y sydd yng Nghrist, y modd ymhob man, ymhob eglwys, yr wyf yn dysgu.
18
Fel pe bawn i ddim yn dyfod attoch, yr ymchwyddodd rhai;
19
ond deuaf ar fyrder attoch, os yr Arglwydd a’i myn; a gwybyddaf nid ymadrodd y rhai sy wedi chwyddo,
20
eithr eu gallu, canys nid mewn ymadrodd y mae teyrnas Dduw, eithr mewn gallu.
21
Pa beth a ewyllysiwch? Ai â gwialen i mi ddyfod attoch; neu mewn cariad ac yspryd addfwyn?
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16