bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
1 Corinthians 14
1 Corinthians 14
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 15 →
1
Dilynwch gariad, ond chwenychwch yr ysprydol bethau, ond mwyaf, y bo i chwi brophwydo;
2
canys yr hwn sy’n llefaru â thafod, nid wrth ddynion y llefara, eithr wrth Dduw, canys nid oes neb yn deall; ond yn yr yspryd y llefara ddirgeledigaethau.
3
Ond yr hwn sy’n prophwydo, wrth ddynion y llefara adeiladaeth a diddanwch a chysur.
4
Yr hwn sy’n llefaru â thafod, ef ei hun a adeilada efe; ond yr hwn sy’n prophwydo, yr eglwys a adeilada efe.
5
Ac ewyllysiwn i’r oll o honoch lefaru â thafodau; ond yn fwy i chwi brophwydo; a mwy yw ’r hwn sy’n prophwydo na’r hwn sy’n llefaru â thafodau, oddieithr cyfieithu o hono fel y bo i’r eglwys dderbyn adeiladaeth.
6
Ac yn awr, frodyr, os deuaf attoch gan lefaru â thafodau, pa lesad a wnaf i chwi, os nad wrthych y llefaraf naill ai trwy weledigaeth, neu trwy wybodaeth, neu trwy brophwydoliaeth, neu trwy ddysgad?
7
Beth bynnag, y pethau heb fywyd, yn rhoddi sain, pa un bynnag ai pibell, ai telyn, os gwahaniaeth yn y seiniau na roddant, pa wedd y gwybyddir yr hyn a genir â’r bibell neu ar y delyn?
8
Ac os sain aneglur y bydd yr udgorn yn ei roi, pwy a ymbarottoa i ryfel?
9
Felly chwithau hefyd â’r tafod, os nad ymadrodd dealladwy a roddwch, pa wedd y gwybyddir yr hyn a leferir, canys i’r awyr y byddwch yn llefaru?
10
Cymmaint ysgatfydd, o rywogaethau lleisiau sydd yn y byd, ac nid oes un rhywogaeth yn aflafar.
11
Os, gan hyny, na wn rym y llais, byddaf i’r hwn sy’n llefaru, yn farbariad; a’r hwn sy’n llefaru fydd i minnau yn farbariad.
12
Felly chwithau hefyd, gan mai awyddus ydych i ddoniau ysprydol, er adeiladaeth yr eglwys, ceisiwch fod ag helaethder genych.
13
Gan hyny, yr hwn sy’n llefaru â thafod, gweddïed y bo iddo gyfieithu;
14
canys os gweddïaf â thafod, fy yspryd a weddïa, ond fy neall sydd yn ddiffrwyth.
15
Pa beth, gan hyny, sydd? Gweddïaf â’r yspryd, a gweddïaf â’r meddwl hefyd: canaf â’r yspryd, a chanaf â’r meddwl hefyd.
16
Canys os bendithi â’ r yspryd, pa wedd y bydd i’r hwn sy’n cyflawni lle’r anghyfarwydd ddweud yr Amen ar dy ddodiad diolch di, pan na ŵyr pa beth yr wyt yn ei ddywedyd?
17
Canys tydi yn wir, da y diolchi, eithr y llall nid adeiledir.
18
Diolch yr wyf i Dduw, mwy na’r oll o honoch y llefaraf â thafodau;
19
eithr yn yr eglwys ewyllysiwn lefaru pum gair â’m deall, fel y dysgwyf eraill hefyd, rhagor myrddiynau o eiriau â thafod.
20
Fy mrodyr, na fyddwch blant mewn deall; eithr mewn drygioni byddwch fabanod, ond mewn deall byddwch berffaith.
21
Yn y Gyfraith yr ysgrifenwyd, “Trwy rai estronieithus, ac â gwefusau estroniaid, y llefaraf wrth y bobl hyn, ac hyd yn oed felly, ni’m gwrandawant, medd yr Arglwydd.”
22
Felly tafodau, er arwydd y maent, nid i’r rhai sy’n credu, eithr i’r rhai digred; ond prophwydoliaeth, nid i’r rhai digred, ond i’r rhai sy’n credu.
23
Gan hyny, os daw yr eglwys oll ynghyd, a phawb a lefarant â thafodau, a dyfod i mewn o rai anghyfarwydd neu ddigred, oni ddywedant mai allan o’ch pwyll yr ydych?
24
Ond os pawb a brophwydant, a dyfod i mewn o ryw un digred neu anghyfarwydd, argyhoeddir ef gan bawb, bernir ef gan bawb, dirgelion ei galon a ant yn amlwg;
25
ac felly, wedi syrthio ar ei wyneb, yr addola Dduw gan fynegi, Yn wir, Duw sydd yn eich plith.
26
Pa beth, gan hyny, sydd, frodyr? Pan ddeloch ynghyd, pob un sydd â psalm ganddo, â dysgad ganddo, â datguddiad ganddo, â thafod ganddo, â chyfieithiad ganddo.
27
Bydded i bob peth ei wneuthur er adeiladaeth. Os â thafod y bydd neb yn llefaru, bob yn ddau, neu o’r mwyaf bob yn dri, bydded, a hyny ar gylch, a bydded i un gyfieithu;
28
ond os na fydd cyfieithydd, tawed yn yr eglwys; ac wrtho ei hun llefared, ac wrth Dduw.
29
Ond y prophwydi, bydded i ddau neu dri lefaru, ac i’r lleill wahan-farnu.
30
Ond os i un arall y datguddier yn ei eistedd, bydded i’r cyntaf dewi;
31
canys bob yn un y gellwch oll brophwydo, fel y bo i bawb ddysgu a phawb eu diddanu;
32
ac ysprydoedd y prophwydi, i’r prophwydi y darostyngir hwynt;
33
canys nid yw Duw yn Dduw annhrefn, eithr yn Dduw heddwch, fel yn holl eglwysi’r saint.
34
Y gwragedd, yn yr eglwysi tawont, canys ni chaniatteir iddynt lefaru, eithr darostynger hwynt, fel y mae’r Gyfraith hefyd yn dywedyd:
35
ond os dysgu rhyw beth a ewyllysiant, gartref â’u gwŷr eu hunain ymofynont, canys cywilyddus yw i wraig lefaru yn yr eglwys.
36
Ai oddiwrthych chwi y bu i air Duw ddyfod allan; neu attoch chwi yn unig y daeth?
37
Os tybia neb ei fod yn brophwyd neu yn ysprydol, cydnabydded y pethau yr wyf yn eu hysgrifenu attoch mai gorchymyn yr Arglwydd ydynt;
38
ond os yw neb heb wybod, heb wybod y bo.
39
Felly, fy mrodyr, dymunwch brophwydo; a llefaru â thafodau na warherddwch;
40
ond bydded i bob peth ei wneud yn weddaidd ac mewn trefn.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16