bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Hebrews 1
Hebrews 1
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 2 →
1
Ar ol mewn llawer rhan ac mewn llawer modd gynt lefaru o Dduw wrth y tadau, yn y prophwydi, yn niwedd y dyddiau hyn llefarodd wrthym yn Ei Fab,
2
yr Hwn a osododd Efe yn etifedd pob peth, trwy’r Hwn hefyd y gwnaeth Efe y bydoedd;
3
yr Hwn, ac Efe yn ddisgleirdeb Ei ogoniant Ef, ac yn wir lun Ei hupostasis, ac yn cynnal pob peth â gair Ei allu, wedi gwneuthur glanhad pechodau, a eisteddodd ar ddeheulaw y Mawredd yn yr uchelion,
4
wedi myned yn gymmaint gwell na’r angylion ag yr etifeddodd enw mwy rhagorol na hwy,
5
canys wrth ba un o’r angylion y dywedodd Efe erioed, “Fy Mab ydwyt ti; Myfi heddyw a’th genhedlais?” a thrachefn, “Myfi fyddaf Iddo yn Dad, Ac Efe fydd i Mi yn Fab?”
6
A phan drachefn y dug Efe y Cyntaf-anedig i’r byd, dywedyd y mae, “Ac Ef addoled holl angylion Duw.”
7
Ac o ran yr angylion y dywaid, “Yr Hwn sy’n gwneuthur yn genhadon Iddo y gwyntoedd; Ac yn weinidogion Iddo, y tân fflamllyd;”
8
ond o ran y Mab, “Dy orseddfaingc, O Dduw, yn oes oesoedd y mae, A theyrn-wialen uniondeb yw teyrn-wialen Dy deyrnas.
9
Ceraist gyfiawnder, a chaseaist anghyfraith; Gan hyny yr enneiniodd Duw Di, Dy Dduw, Ag olew gorfoledd, tu hwnt i’th gyfeillion.”
10
Ac, “Tydi yn y dechreuad, Arglwydd, y ddaear a sylfaenaist, A gwaith Dy ddwylaw yw’r nefoedd;
11
Hwy a ddarfyddant, ond Tydi wyt yn parhau; A’r oll o honynt, fel dilledyn a heneiddiant,
12
Ac fel mantell y plygi hwynt; Fel cochl, a newidir hwynt; Ond Tydi yr un ydwyt, A’th flynyddoedd ni phallant.”
13
Ond wrth ba un o’r angylion y dywedodd Efe erioed, “Eistedd ar fy neheu-law Hyd oni osodwyf dy elynion yn droed-faingc dy draed?”
14
Onid yw’r oll o honynt yn ysprydion gwasanaethgar, yn cael eu danfon i wasanaethu er mwyn y rhai sydd ar fedr etifeddu iachawdwriaeth?
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13