bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Hebrews 13
Hebrews 13
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
1
Bydded i frawdgarwch barhau. O lettygarwch na fyddwch anghofus,
2
canys trwyddi, rhai yn ddiarwybod a lettyasant angylion.
3
Cofiwch y rhai mewn rhwymau, megis wedi eich rhwymo gyda hwynt; ac y rhai a ddrygir, megis yn bod eich hunain hefyd yn y corph.
4
Anrhydeddus fydded priodas, gyda phawb, a’r gwely yn ddihalog; canys putteinwyr a godinebwyr a farna Duw.
5
Diariangar fydded eich tuedd; yn cael eich digoni â’r hyn sydd genych; canys Efe a ddywedodd, “Tydi, ni’th roddaf i fynu; ac â thydi nid ymadawaf ddim,”
6
fel yn hyderus y dywedom ni, “Iehofah sydd i mi yn gynnorthwywr; Pa beth a wna dyn i mi?”
7
Cofiwch eich blaenoriaid, y rhai a lefarasant wrthych Air Duw; a chan fyfyrio ar ddiwedd eu hymarweddiad, efelychwch eu ffydd.
8
Iesu Grist, ddoe a heddyw yr un yw,
9
ac yn dragywydd. Gan ddysgadau amrywiol a dieithr na’ch cam-ddyger ymaith, canys da yw â gras y sefydler y galon, nid â bwydydd, y rhai ni lesawyd y rhai a rodient ynddynt.
10
Y mae genym allor o’r hon nid oes awdurdod i fwytta gan y rhai sy’n gwasanaethu’r tabernacl;
11
canys yr anifeiliaid, y rhai y dygir eu gwaed i mewn am bechod, i’r cyssegr, gan yr arch-offeiriaid, eu cyrph a losgir tu allan i’r gwersyll:
12
o herwydd paham, Iesu hefyd, fel â’i waed Ei hun y sancteiddiai’r bobl, tu allan i’r porth y dioddefodd.
13
Gan hyny, awn allan Atto Ef tu allan i’r gwersyll, a’i waradwydd Ef yn cael ei ddwyn genym;
14
canys nid oes genym yma ddinas barhaus, eithr yr hon sydd ar ddyfod yr ym yn ei cheisio.
15
Trwyddo Ef, gan hyny, offrymmwn aberth moliant yn wastadol i Dduw, hyny yw, ffrwyth gwefusau yn cyffesu i’w enw Ef.
16
A chymmwynasgarwch a chyfrannu nac anghofiwch, canys â chyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw.
17
Ufuddhewch i’ch blaenoriaid, ac ymddarostyngwch iddynt, canys hwy sy’n gwylio dros eich eneidiau, fel ar fedr rhoddi cyfrif, fel gyda llawenydd y gwnelont hyn ac nid gan alaru, canys difudd i chwi yw hyn.
18
Gweddïwch yn ein cylch, canys perswadir ni mai cydwybod dda sydd genym, ym mhob peth yn ewyllysio ymddwyn yn dda:
19
ond yn helaethach yr wyf yn eich cynghori i wneuthur hyn, fel yn gynt yr adferer fi i chwi.
20
A Duw’r heddwch, yr Hwn a ddug drachefn o feirw Fugail Mawr y defaid gyda gwaed y cyfammod tragywyddol,
21
sef ein Harglwydd Iesu, a’ch perffeithio ym mhob peth da, er gwneuthur Ei ewyllys, gan wneuthur o Hono ynom yr hyn a ryngo fodd yn Ei olwg, trwy Iesu Grist; i’r Hwn y bo’r gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
22
A chynghoraf chwi, frodyr, goddefwch air y cynghor; canys ar fyr eiriau hefyd yr ysgrifenais attoch.
23
Gwybyddwch fod ein brawd Timothëus wedi ei ollwng yn rhydd; ynghyda’r hwn, os ar fyrder y daw, y gwelaf chwi.
24
Annerchwch eich holl flaenoriaid, a’r holl saint. Eich annerch y mae y rhai o’r Ital.
25
Gras fyddo gyda’r oll o honoch. Amen.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13