bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Hebrews 2
Hebrews 2
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 3 →
1
O herwydd hyn y mae rhaid rhoddi o honom ystyriaeth yn fwy rhagorol i’r pethau a glybuwyd, rhag un amser ein troi ymaith;
2
canys os y gair a lefarwyd trwy angylion a wnaed yn ddiymmod, a phob troseddiad ac anufudd-dod a dderbyniodd gyfiawn daledigaeth,
3
pa fodd y diangwn ni, ar ol bod yn ddiofal o iachawdwriaeth mor fawr, yr hon wedi cael yn y dechreuad ei llefaru trwy’r Arglwydd, gan y rhai a glywsant y’i sicrhawyd i ni,
4
Duw yn cyd-dystiolaethu ag arwyddion a rhyfeddodau ac amryw wyrthiau a chyfranniadau yr Yspryd Glân yn ol Ei ewyllys Ef?
5
Canys nid i angylion y darostyngodd Efe y byd ar fedr dyfod,
6
am yr hwn yr ydym yn llefaru, ond tystiolaethodd rhyw un mewn rhyw le, gan ddywedyd, “Pa beth yw dyn, am i Ti ei gofio, Neu fab dyn, am i Ti ymweled ag ef?
7
Rhyw ychydig llai y gwnaethost ef nag angylion; A gogoniant ac anrhydedd y coronaist ef, A gosodaist ef ar weithredoedd Dy ddwylaw:
8
Pob peth a ddarostyngaist tan ei draed.” Canys yn “Y darostwng pob peth iddo,” nid oedd dim a adawodd Efe heb ei ddarostwng iddo: ond yn awr nid ydym etto yn gweled mai iddo ef y mae pob peth wedi ei ddarostwng.
9
Ond yr Hwn a “wnaed rhyw ychydig llai nag angylion” a welwn, yr Iesu, o herwydd dioddef marwolaeth, wedi Ei goroni â gogoniant ac anrhydedd, fel trwy ras Duw tros bob dyn yr archwaethai farwolaeth,
10
canys gweddai Iddo Ef, o herwydd yr Hwn y mae pob peth, a thrwy’r Hwn y mae pob peth, gan ddyfod â llawer o feibion i ogoniant, berffeithio Tywysydd eu hiachawdwriaeth trwy ddioddefiadau;
11
canys yr Hwn sydd yn sancteiddio, a’r rhai yn cael eu sancteiddo, o Un y maent oll; am ba achos nid oes Arno gywilydd eu galw yn
12
frodyr, gan ddywedyd, “Mynegaf Dy enw i’m brodyr, Ynghanol y gynnulleidfa y’th folaf:”
13
a thrachefn, “Myfi fyddaf yn ymddiried Ynddo:” a thrachefn, “Wele, Myfi a’r plant a roddes Duw i Mi.”
14
Gan hyny, gan fod y plant yn gyfrannogion o gig a gwaed, Efe hefyd yn y cyffelyb fodd a gymmerth ran o’r un pethau, fel trwy farwolaeth y diddymai yr hwn oedd a chanddo allu marwolaeth, hyny yw, diafol;
15
ac y rhyddhaai hwynt y rhai trwy ofn marwolaeth oeddynt trwy eu holl fywyd yn ddeiliaid caethiwed:
16
canys yn wir nid angylion y mae Efe yn eu cynnorthwyo, eithr had Abraham y mae Efe yn ei gynnorthwyo:
17
am ba achos y dylai ym mhob peth Ei wneud yn gyffelyb i’w frodyr, fel y byddai yn Arch-offeiriad trugarog a ffyddlawn yn y pethau tuag at Dduw,
18
i wneuthur cymmod am bechodau’r bobl: canys yn yr hyn y dioddefodd Efe Ei hun gan gael Ei demtio, abl yw i gymhorth y rhai sy’n cael eu temtio.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13