bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Hebrews 4
Hebrews 4
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 5 →
1
Ofnwn, gan hyny, rhag ysgatfydd, tra aros y mae addewid o fyned i mewn i’w orphwysfa Ef, ymddangos o neb o honoch i fod ar ol;
2
canys yr ydym a’r newyddion da genym fel hwythau; eithr ni leshaodd y gair a glybuwyd, iddynt hwy heb eu cyd-gymmysgu mewn ffydd â’r rhai a’i clywsant:
3
canys myned i mewn i’r “Orphwysfa” yr ydym ni y rhai a gredasom, fel y dywedodd Efe, “Fel y tyngais yn Fy llid, Ni ddeuant i mewn i’m gorphwysfa,” ac er hyny y gweithredoedd wedi eu gwneuthur er’s seiliad y byd;
4
canys dywedodd mewn rhyw fan am y seithfed dydd fel hyn, “A gorphwysodd Duw ar y seithfed dydd oddiwrth Ei holl weithredoedd,”
5
ac yn y fan hon trachefn “Ni ddeuant i mewn i’m gorphwysfa.”
6
Gan hyny, gan fod etto yn ol fod rhai i fyned i mewn iddi, ac na fu i’r rhai a gawsant y newyddion da o’r blaen,
7
fyned i mewn o herwydd anufudd-dod, trachefn y penna Efe ryw ddydd, gan ddywedyd, “Heddyw,” yn Dafydd, ar ol cymmaint o amser, fel y rhag-ddywedwyd, “Heddyw, os Ei lais a glywoch, Na chaledwch eich calonnau;”
8
canys ped iddynt hwy y rhoddasai Iehoshua orphwysfa,
9
ni lefarasai ar ol hyny am ddydd arall: gan hyny, y mae etto yn ol orphwysdra i bobl Dduw.
10
Canys yr hwn a aeth i mewn i’w orphwysfa Ef, efe hefyd a orphwysodd oddiwrth ei weithredoedd, fel oddiwrth yr Eiddo Ef y gwnaeth Duw.
11
Byddwn ddyfal, gan hyny, i fyned i mewn i’r orphwysfa honno, fel na bo i neb syrthio yn ol yr un siampl o anghrediniaeth;
12
canys byw yw gair Duw, a gwneuthurol, a llymmach nag un cleddyf dau-finiog, ac yn myned trwodd hyd wahaniad enaid ac yspryd, a chymmalau a mer, ac yn medru barnu meddyliau a bwriadau y galon;
13
ac nid oes creadur yn anamlwg yn Ei olwg Ef, ond pob peth sydd yn noeth ac yn agored i lygaid yr Hwn y mae genym a wnelom ag Ef.
14
Gan fod genym, gan hyny, Arch-offeiriad mawr, yr Hwn a aeth trwy’r nefoedd, Iesu Mab Duw, daliwn yn
15
dỳn ein cyffes, canys nid oes i ni Arch-offeiriad heb fedru cyd-ymdeimlo â’n gwendidau, ond wedi ei demtio ym mhob peth yr un ffunud a ni, etto heb bechod.
16
Nesawn, gan hyny, gydag hyfdra at orsedd-faingc gras, fel y derbyniom drugaredd, ac y caffom ras yn gymmorth mewn amser.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13