bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Hebrews 7
Hebrews 7
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 8 →
1
Canys y Melchitsedec hwn, brenhin Shalem, offeiriad Duw Goruchaf, yr hwn a gyfarfu ag Abraham yn dychwelyd o ladd y brenhinoedd,
2
ac a’i bendigodd ef; i’r hwn hefyd degfed ran o’r cwbl a gyfrannodd Abraham, (yn gyntaf, o’i gyfieithu, Brenhin cyfiawnder; a chwedi’n hefyd, Brenhin Shalem,
3
yr hyn yw Brenhin heddwch; heb dad, heb fam, heb achau, heb fod iddo na dechreu dyddiau, na diwedd einioes, ond wedi ei wneuthur yn gyffelyb i Fab Duw,) aros yn offeiriad y mae yn barhaus.
4
Ystyriwch mor fawr oedd hwn, i’r hwn y bu i Abraham roddi degwm o’r brif-anrhaith, y patriarch.
5
A’r rhai o feibion Lefi y sy’n derbyn swydd yr offeiriadaeth, gorchymyn sydd ganddynt i gymmeryd degwm gan y bobl yn ol y Gyfraith, hyny yw, gan eu brodyr, er wedi dyfod o honynt o lwynau Abraham;
6
ond yr hwn nad oedd ei achau o honynt hwy, a gymmerodd ddegwm gan Abraham; ac yr hwn oedd a’r addewidion ganddo, a fendithiodd efe.
7
Ac heb neb rhyw ddadl, yr hyn sydd lai, gan y gwell y bendithir.
8
Ac yma yn wir, dynion y sy’n marw a dderbyniant ddegymmau; ond yno, yr hwn y tystiolaethir iddo mai byw y mae.
9
Ac, fel y dywedwyf felly, trwy Abraham hyd yn oed Lefi, yr hwn sy’n derbyn degymmau,
10
a dalodd ddegwm, canys etto yn lwynau ei dad yr ydoedd pan gyfarfu Melchitsedec ag ef.
11
Pe buasai, gan hyny, berffeithrwydd trwy’r offeiriadaeth Lefiticaidd, (canys dani hi y bu i’r bobl dderbyn y Gyfraith,) pa raid oedd mwyach am, yn ol dull Melchitsedec, i arall gyfodi yn offeiriad, ac nad yn ol dull Aaron y’i gelwid?
12
Canys wrth newid yr offeiriadaeth, o angenrhaid newid y gyfraith hefyd a wneir.
13
Canys am yr hwn y dywedir y pethau hyn, i lwyth arall y perthynai,
14
o’r hwn nid oedd neb a wasanaethodd yr allor; canys eglur yw mai o Iwdah y cododd ein Harglwydd, am yr hwn lwyth, o ran offeiriaid, ni fu i Mosheh lefaru dim.
15
Ac helaethach etto y mae’n eglur, os yn ol cyffelybiaeth Melchitsedec y mae offeiriad arall yn codi,
16
yr Hwn, nid yn ol cyfraith gorchymyn cnawdol y’i gwnaed, eithr yn ol gallu bywyd annattodadwy:
17
canys tystiolaethir, “Tydi wyt offeiriad yn dragywydd yn ol dull Melchitsedec.”
18
Canys diddymmiad sy’n digwydd i’r gorchymyn sy’n myned o’r blaen o herwydd ei wendid a’i afles (canys nid oedd dim a berffeithiwyd gan y Gyfraith,)
19
a dwyn i mewn obaith gwell, trwy’r hwn yr ydym yn nesau at Dduw.
20
A chan belled ag nad heb lw y mae (canys hwynt-hwy,
21
heb lw y maent wedi eu gwneuthur yn offeiriaid; ond Hwn gyda llw, gan yr Hwn sy’n dywedyd am Dano, “Tyngodd Iehofah, — ac nid edifarha, Tydi wyt offeiriad yn dragywydd:”)
22
mor bell hefyd, o gyfammod gwell y gwnaed Iesu yn Fachnïydd.
23
A hwynt-hwy, llawer sydd wedi eu gwneuthur yn offeiriaid o herwydd mai gan farwolaeth y’u rhwystrid rhag parhau;
24
ond Efe, gan Ei fod yn parhau yn dragywydd, sydd a Chanddo Ei offeiriadaeth heb fyned heibio.
25
Oddiwrth hyny, achub yn hollol y medr Efe y rhai sy’n dyfod trwyddo Ef at Dduw, gan Ei fod bob amser yn byw i eiriol drostynt.
26
Canys y cyfryw a weddai i nyni yn Arch-offeiriad, yn sanctaidd, diddrwg, dihalog, didoledig oddiwrth bechaduriaid, ac wedi Ei wneuthur yn uwch na’r nefoedd;
27
yr Hwn sydd heb Ganddo bob dydd anghenrhaid, fel yr arch-offeiriaid, i offrymmu aberthau, yn gyntaf am Ei bechodau Ei hun, a chwedi’n am yr eiddo’r bobl, canys hyn a wnaeth Efe unwaith am byth pan Ef Ei hun yr offrymmodd.
28
Canys y Gyfraith sy’n gosod dynion yn arch-offeiriaid, a chanddynt wendid; ond gair y llw sydd wedi’r Gyfraith, a osododd y Mab, yr Hwn a berffeithiwyd yn dragywydd.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13