bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Hebrews 3
Hebrews 3
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 4 →
1
O herwydd paham, frodyr sanctaidd, cyfrannogion o’r alwedigaeth nefol, ystyriwch Apostol ac Arch-offeiriad ein cyffes,
2
Iesu, yn ffyddlawn i’r Hwn a’i happwyntiodd Ef,
3
fel y bu Mosheh hefyd yn ei holl dŷ; canys o fwy gogoniant na Mosheh y cafodd Hwn Ei farnu yn deilwng,
4
yn gymmaint a mwy o anrhydedd nag sydd gan y tŷ sydd gan yr hwn a’i hadeiladodd. Canys pob tŷ sy’n cael ei adeiladu gan rywun;
5
ond yr Hwn a adeiladodd bob peth yw Duw. A Mosheh yn wir fu ffyddlawn yn ei holl dŷ megis gwas,
6
er tystiolaeth i’r pethau ar fedr eu llefaru; ond Crist megis Mab ar Ei dŷ; tŷ yr Hwn yr ydym ni, os ein hyfdra ac
7
ymffrost ein gobaith a ddaliwn yn ddiymmod hyd y diwedd. O herwydd paham, fel y dywaid yr Yspryd Glân, “Heddyw, os Ei lais Ef a glywoch,
8
Na chaledwch eich calonnau fel yn y Chwerwad, Yn nydd y Profedigaeth yn yr anialwch,
9
Lle y temtiodd eich tadau Fi â phrofiad, Ac y gwelsant fy ngweithredoedd ddeugain mlynedd;
10
O herwydd paham y digiais wrth y genhedlaeth hon, A dywedais, Pob amser cyfeiliorni y maent yn eu calon, A hwy nid adnabuant Fy ffyrdd;
11
Fel y tyngais yn Fy llid, Ni ddeuant i mewn i’m gorphwysfa.”
12
Edrychwch, frodyr, rhag ysgatfydd y bydd yn neb o honoch galon ddrwg anghrediniaeth, gan sefyll draw oddiwrth y Duw Byw;
13
eithr cynghorwch eich gilydd bob dydd tra “Heddyw” y’i gelwir, fel na chaleder neb o honoch gan dwyll pechod,
14
canys yn gyfrannogion o Grist yr aethom, os dechreuad ein hyder a ddaliwn hyd y diwedd yn ddiymmod;
15
tra y dywedir, “Heddyw, os Ei lais a glywoch, Na chaledwch eich calonnau fel yn y Chwerwad.”
16
Canys pwy, wedi clywed, a chwerwasant Ef? Onid yr oll a ddaethent allan o’r Aipht trwy Mosheh?
17
Ac wrth ba rai y digiodd Efe ddeugain mlynedd? Onid wrth y rhai a bechasant, y rhai y syrthiodd eu celanedd yn yr anialwch?
18
Ac wrth ba rai y tyngodd na ddeuent i mewn i’w orphwysfa, oddieithr wrth y rhai a anufuddhasant?
19
A gwelwn na allent fyned i mewn o herwydd anghrediniaeth.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13