bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Hebrews 6
Hebrews 6
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 7 →
1
Gan hyny, wedi rhoddi heibio air dechreuad Crist, at berffeithrwydd dyger ni, heb osod i lawr drachefn sail edifeirwch oddiwrth weithredoedd meirwon, a ffydd tuag at Dduw;
2
sail dysgad bedyddiadau ac arddodiad dwylaw;
3
ac adgyfodiad y meirw a barn dragywyddol: a hyn a wnawn os caniatta Duw.
4
Canys ammhosibl yw o ran y rhai a gawsant unwaith eu goleuo, ac a archwaethasant y rhodd nefol, ac a wnaethpwyd yn gyfrannogion o’r Yspryd Glân,
5
ac a archwaethasant air mad Duw a galluoedd y byd ar ddyfod,
6
ac a syrthiasant ymaith, eu hadnewyddu drachefn i edifeirwch, gan ail-groeshoelio o honynt iddynt eu hunain Fab Duw, ac Ei osod yn watwor.
7
Canys y ddaear yr hon sy’n yfed y gwlaw sy’n dyfod yn fynych arni, ac sy’n dwyn llysiau cymmwys i’r rhai hyny er mwyn y rhai y llafurir hi hefyd, derbyn bendith gan Dduw y mae;
8
ond pan yn dwyn drain a mieri, anghymmeradwy yw ac agos i felldith; ac ei diwedd yw ei llosgi.
9
Ond coelio yr ydym am danoch chwi, frodyr, y pethau sydd well ac ynglyn wrth iachawdwriaeth, er mai fel hyn y llefarwn:
10
canys nid anghyfiawn yw Duw, fel yr anghofio eich gwaith a’r cariad a ddangosasoch tuag at Ei enw, pan weiniasoch i’r saint, ac yn gweini iddynt.
11
A chwennychwn i bob un o honoch ddangos yr un diwydrwydd tua llawnder gobaith hyd y diwedd,
12
fel nad musgrell y byddoch, ond efelychwyr y rhai trwy ffydd ac amynedd sy’n etifeddu yr addewidion.
13
Canys pan i Abraham yr addawodd, Duw, gan na myn neb oedd fwy y gallai dyngu, a dyngodd myn Ef Ei hun,
14
gan ddywedyd, “Yn ddiau gan fendithio y’th fendithiaf, a chan amlhau y’th amlhaf.”
15
Ac felly, wedi dioddef yn amyneddgar, y cafodd yr addewid.
16
Canys dynion myn un a fo mwy a dyngant; ac iddynt hwy, terfyn pob ymryson, er cadarnhad, yw’r llw.
17
Yn hyn, Duw yn ewyllysio dangos yn helaethach i etifeddion yr addewid anghyfnewidioldeb Ei gynghor,
18
a gyfryngodd â llw, fel trwy ddau beth anghyfnewidiol, yn y rhai ammhosibl yw celwyddu o Dduw, annogaeth cryf fyddai genym ni a ffoisom, i gymmeryd gafael yn y gobaith a osodwyd o’n blaen,
19
yr hwn sydd genym fel angor yr enaid, yn ddiogel, ac yn ddiymmod,
20
ac yn myned i mewn i’r tu fewn i’r llen, lle y mae Rhag-redwr trosom wedi myned i mewn, Iesu, wedi Ei wneuthur, yn ol dull Melchitsedec, yn Arch-offeiriad yn dragywydd.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13