bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Hebrews 12
Hebrews 12
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 13 →
1
Gan hyny, bydded i ninnau hefyd, a ni a chenym yn ein hamgylchu gwmmwl mor fawr o dystion, gan roi ymaith bob pwys a phechod y sydd mor barod yn ein hamgylchynu, redeg trwy amynedd y rhedfa a osodwyd o’n blaen,
2
gan edrych at Ben-Tywysog a Pherffeithydd ein ffydd, Iesu, yr Hwn am y llawenydd a osodwyd o’i flaen, a ddioddefodd y groes, gan ddirmygu cywilydd, ac ar ddeheulaw gorsedd-faingc Duw yr eisteddodd.
3
Canys ystyriwch yr Hwn a ddioddefodd y cyfryw wrth-ddywedyd gan bechaduriaid yn eu herbyn eu hunain, fel na flinoch yn eich eneidiau, gan ymollwng.
4
Nid hyd waed y bu i chwi etto wrthsefyll, gan ymdrechu yn erbyn pechod;
5
ac anghofiasoch y cyngor y sy’n ymryson â chwi fel meibion, “Fy mab, na ddirmyga gerydd Iehofah, Ac nac ymollwng pan Ganddo Ef y’th argyhoedder;
6
Canys yr hwn a gar Iehofah, a gerydda Efe, A fflan-gella bob mab a dderbyn Efe.”
7
Er cerydd yr ydych yn dioddef; megis meibion y mae Duw yn ymddwyn â chwi; canys pa fab sydd yr hwn ni cherydda ei dad ef?
8
Ac os heb gerydd yr ydych, o’r hwn y bu pawb yn gyfrannogion, yna bastardiaid, ac nid meibion, ydych.
9
Ac etto, tadau ein cnawd fu genym yn geryddwyr, a pharchasom hwynt; onid llawer mwy y’n darostyngir i Dad yr ysprydoedd, a byw?
10
Canys hwynt-hwy, yn wir, am ychydig ddyddiau, fel y gwelent hwy yn dda, y’n ceryddent; ond Efe er ein llesad, er cyfrannogi o honom o’i sancteiddrwydd Ef.
11
Pob cerydd, yn wir, am yr amser presennol, nid ymddengys yn fatter o lawenydd, eithr o dristwch; ond ar ol hyny, ffrwyth heddychol a rydd efe i’r rhai sydd wedi eu hyfforddi trwyddo, sef ffrwyth cyfiawnder.
12
O herwydd paham, bydded i’r dwylaw a laesasant, a’r gliniau parlysol, eu hail-sythu genych;
13
a gwnewch lwybrau sythion i’ch traed, fel na bo i’r hyn sydd gloff ei droi allan o’r ffordd, ond ei iachau yn hytrach.
14
Heddwch dilynwch â phawb, a’r sancteiddrwydd heb yr hwn ni wel neb yr Arglwydd;
15
gan edrych yn ddyfal rhag i neb fod ar ol oddiwrth ras Duw;
16
rhag i ryw wreiddyn chwerwedd gan dyfu i fynu, beri blinder, a thrwyddo yr haloger y lliaws; rhag i neb fod yn butteiniwr neu ansanctaidd fel Esau, yr hwn, am un saig o fwyd, a werthodd ei enedigaeth-fraint ei hun:
17
canys gwyddoch, pan wedi hyny yn ewyllysio etifeddu’r fendith, y gwrthodwyd ef (canys lle i edifeirwch ni chafodd efe,) er iddo gyda dagrau ei thaer-geisio hi.
18
Canys ni ddaethoch at fynydd â’r hwn y cyffyrddwyd, ac a losgid gan dân, ac at dduder, a thywyllwch, a thymmestl,
19
a sain udgorn, a llef geiriau yr hon y rhai a’i clywsant a ddeisyfiasant na ’chwanegid wrthynt air,
20
canys ni oddefent yr hyn a orchymynid, “Os hyd yn oed bwystfil a gyffyrddai â’r mynydd, llabyddir ef; ”
21
ac mor ofnadwy oedd yr hyn a welwyd, fel y bu i Mosheh ddweud, “Tra-ofnus ydwyf ac mewn cryndod:”
22
eithr daethoch at Tsion fynydd, ac at ddinas y Duw Byw, yr Ierwshalem nefol, at fyrddiynnau o angylion,
23
at gymmanfa ac eglwys y cyntaf-anedigion sydd wedi eu ’sgrifenu yn y nef, ac at Farnwr pawb, sef Duw; ac at ysprydoedd y cyfiawnion a berffeithiwyd,
24
ac at Gyfryngwr cyfammod newydd, Iesu, ac at waed taenelliad y sy’n llefaru yn well nag Abel.
25
Edrychwch na wrthodoch yr Hwn sy’n llefaru, canys os hwynt-hwy ni ddiengasant, y rhai a wrthodasant ar y ddaear yr Hwn a’u rhybuddiai, mwy o lawer ni ddiangwn ni y sy’n troi ymaith oddiwrth yr Hwn sydd yn ein rhybuddio o’r nefoedd;
26
llais yr Hwn a ysgydwodd y ddaear y pryd hwnw; ond yn awr addawodd gan ddywedyd, “Etto un waith, Myfi a ysgydwaf nid yn unig y ddaear, eithr y nef hefyd.”
27
A’r “Etto un waith” a hyspysa symmudiad ymaith y pethau yn cael eu hysgwyd, megis pethau wedi eu gwneuthur, fel yr arhoso y pethau nad ysgydwir.
28
O herwydd paham, gan dderbyn teyrnas nad ysgydwir, bydded genym ddiochgarwch, trwy’r hon y gwasanaethom Dduw wrth Ei fodd,
29
gydag ofn duwiol a braw, canys ein Duw ni, tân ysol yw.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13