bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Hebrews 11
Hebrews 11
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 12 →
1
Ac y mae ffydd yn sicrwydd y pethau y gobeithir am danynt,
2
yn brawf pethau na welir: canys trwyddi y tystiolaethwyd i’r henuriaid.
3
Trwy ffydd y deallwn y ffurfiwyd y bydoedd gan air Duw, fel nad o bethau yn ymddangos y cafodd yr hyn a welir ei wneuthur.
4
Trwy ffydd, gwell aberth na Chain a offrymmodd Abel i Dduw; trwy’r hon y tystiolaethwyd iddo ei fod yn gyfiawn, gan dystiolaethu o Dduw ar ei roddion ef; a thrwyddi, wedi marw o hono, etto y llefara.
5
Trwy ffydd, Enoch a drosglwyddwyd, fel na welai farwolaeth; ac ni chaed ef, o herwydd ei drosglwyddo gan Dduw; canys cyn ei drosglwyddiad, tystiolaethwyd iddo y rhyngodd fodd Duw;
6
ac heb ffydd ammhosibl yw rhyngu Ei fodd Ef, canys credu y mae rhaid i’r hwn sy’n dyfod at Dduw, Ei fod Efe; ac i’r rhai sydd yn Ei geisio, Ei fod yn obrwywr.
7
Trwy ffydd, Noah, wedi ei rybuddio am y pethau na welid etto, gydag ofn duwiol, a ddarparodd arch er achubiaeth ei dŷ; a thrwyddi y condemniodd y byd, ac o’r cyfiawnder y sydd yn ol ffydd y’i gwnaed yn etifedd.
8
Trwy ffydd, pan alwyd arno, Abraham a ufuddhaodd i fyned allan i’r lle yr oedd efe ar fedr ei dderbyn yn etifeddiaeth; ac aeth allan heb wybod i ba le yr oedd yn myned;
9
trwy ffydd y bu yn ymdeithydd yn nhir yr addewid fel tir dieithr, ac mewn pebyll yn trigo, ynghydag Itsaac ac Iacob, cyd-etifeddion o’r un addewid,
10
canys disgwyliai am y ddinas a sylfeini ganddi, saer ac adeiladydd yr hon yw Duw.
11
Trwy ffydd, Sarah hefyd, ei hun a dderbyniodd allu i feichiogi, ac wedi amser oedran, canys ffyddlawn a farnodd hi yr Hwn a addawsai;
12
o herwydd paham hefyd o un y cenhedlwyd (a hyn hefyd, wedi marweiddio o hono,) fel ser y nefoedd mewn lliaws, ac fel y tywod ar lan y môr, y sydd yn aneirif.
13
Mewn ffydd y bu farw y rhai hyn oll, heb dderbyn o honynt yr addewidion, eithr o bell eu gweled hwynt a’u cofleidio, ac wedi cyfaddef mai dieithriaid ac alltudion oeddynt ar y ddaear:
14
canys y rhai sy’n dywedyd y cyfryw bethau, a ddangosant yn eglur mai mam-wlad y maent yn ei cheisio.
15
Ac yn wir, ped am honno y buasent yn cofio, o’r hon yr aethant allan, buasai ganddynt amser i ddychwelyd;
16
ond yn awr un well y maent yn ei chwennych, hyny yw, un nefol; o herwydd paham nid oes cywilydd o honynt gan Dduw, i’w alw eu Duw hwynt, canys parottodd iddynt ddinas.
17
Trwy ffydd yr offrymmodd Abraham Itsaac, yn cael ei brofi; ac ei unig-anedig a offrymmai yr hwn a dderbynodd yr addewidion,
18
wrth yr hwn y dywedwyd, “Yn Itsaac y gelwir i ti fab,”
19
yn cyfrif mai hyd yn oed o feirw y mae Duw yn alluog i gyfodi dyn; ac oddi yno mewn dammeg y cafodd efe ef hefyd.
20
Trwy ffydd, hyd yn oed am bethau i ddyfod y bendithiodd Itsaac Iacob ac Esau.
21
Trwy ffydd, Iacob, pan yn marw, a fendithiodd bob un o feibion Ioseph, ac a addolodd a’i bwys ar ben ei ffon.
22
Trwy ffydd, Ioseph, pan yn trengu, am y mynediad allan gan feibion Israel y coffhaodd, ac am ei esgyrn y gorchymynodd.
23
Trwy ffydd, Mosheh, wedi ei eni, a guddiwyd dri mis gan ei rieni, o achos gweled o honynt mai tlws oedd y plentyn; ac nid ofnasant orchymyn y brenhin.
24
Trwy ffydd, Mosheh, wedi myned yn fawr, a wrthododd ei alw yn fab merch Pharaoh,
25
gan ddewis yn hytrach ei ddrygu ynghyda phobl Dduw, na chael mwynhad pechod, byr ei amser,
26
gan farnu mai yn fwy golud na thrysorau’r Aipht yr oedd gwaradwyddiad Crist, canys edrychai ar daledigaeth y gobrwy.
27
Trwy ffydd y gadawodd yr Aipht, heb ofni llid y brenhin, canys fel yn gweled Yr Anweledig yr ymwrolodd.
28
Trwy ffydd y cadwodd y Pasg a thaenelliad y gwaed, fel na byddai i’r hwn oedd yn dinystrio y rhai cyntaf-anedig gyffwrdd â hwynt.
29
Trwy ffydd yr aethant trwy’r Môr Coch fel ar dir sych, o’r hwn Fôr, pan prawf a wnaeth yr Aiphtiaid, llyngcwyd hwynt.
30
Trwy ffydd, caerau Iericho a syrthiasant wedi eu hamgylchu saith niwrnod.
31
Trwy ffydd, Rahab y buttain ni ddifethwyd ynghyd â’r rhai a fuant anufudd, wedi derbyn o honi yr yspïwyr mewn heddwch. A pha beth etto a ddywedaf?
32
canys pallu i mi a wna’r amser, wrth ddywedyd am Gedeon, Barac, Samson, Iephtha, a Dafydd, a Shamwel a’r prophwydi;
33
y rhai, trwy ffydd, a orchfygasant deyrnasoedd, a weithredasant gyfiawnder, a gawsant addewidion,
34
a gauasant safnau llewod, a ddiffoddasant allu tân, a ddiangasant rhag min y cleddyf, a nerthwyd allan o wendid, a wnaethpwyd yn gryfion mewn rhyfel, a wnaethant i fyddinoedd estroniaid droi eu cefnau.
35
Derbyniodd gwragedd, trwy adgyfodiad, eu meirw; ac eraill a dorrwyd ar yr olwyn, yn ymwrthod â’r ymwared, fel gwell adgyfodiad y caffent.
36
Ac eraill, o watwar a fflangellau y cawsant brawf, ïe, ac o rwymau a charchar.
37
Llabyddiwyd hwynt; â llif y torrwyd hwynt, temtiwyd hwynt, trwy lofruddiaeth cleddyf y buant feirw; rhodient o amgylch mewn crwyn defaid, mewn crwyn geifr, yn anghenus,
38
yn cael eu gorthrymmu, yn cael eu drygu, (ac o honynt nid oedd y byd yn deilwng,) mewn anial-leoedd y crwydrent, a mynyddoedd, a thyllau ac ogofeydd y ddaear.
39
A’r rhai hyn oll, tystiolaeth wedi ei dwyn iddynt trwy ffydd, ni dderbyniasant yr addewid,
40
Duw wedi darparu am danom ryw beth gwell, fel nad yn wahan oddi wrthym y perffeithid hwynt.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13