bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Hebrews 5
Hebrews 5
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 6 →
1
Canys pob arch-offeiriad, yr hwn o blith dynion a gymmerir, tros ddynion y gosodir yn y pethau sy tuag at Dduw,
2
fel yr offrymmo roddion ac aberthau am bechodau, yn medru bod yn addfwyn tua’r rhai anwybodus a’r rhai ar gyfeiliorn, gan fod efe ei hun wedi ei amgylchu â gwendid;
3
ac o achos hwn y mae arno, fel dros y bobl, felly hefyd drosto ei hun, offrymmu am bechodau.
4
Ac nid yw neb yn cymmeryd yr anrhydedd hwn iddo ei hun, eithr pan y’i gelwir gan Dduw fel Aaron hefyd.
5
Felly hefyd Crist ni ogoneddodd Ei hun i fyned yn Arch-offeiriad, eithr yr Hwn a ddywedodd Wrtho, “Fy Mab wyt Ti, Myfi heddyw a’th genhedlais;”
6
fel hefyd mewn lle arall y dywaid, “Tydi wyt offeiriad yn dragywydd Yn ol dull Melchitsedec.”
7
Yr Hwn, yn nyddiau Ei gnawd, gwedi offrymmu gweddïau ac erfyniau at yr Hwn oedd abl i’w achub Ef oddiwrth farwolaeth, gyda llefain cryf a dagrau, a chael Ei wrandaw o herwydd Ei ofn duwiol,
8
er Ei fod yn Fab, ddysgodd trwy’r pethau a ddioddefodd,
9
ufudd-dod, ac wedi Ei berffeithio a aeth, i bawb y sy’n ufuddhau Iddo, yn Awdwr iachawdwriaeth dragywyddol,
10
wedi Ei enwi gan Dduw “Arch-offeiriad yn ol dull Melchitsedec.”
11
Ac am dano Ef llawer gair sydd genym i’w ddywedyd ac anhawdd ei ddehongli, gan mai hwyr-drwm yr aethoch yn eich clyw;
12
canys lle y dylech fod yn athrawon o ran amser, y mae arnoch drachefn eisiau dysgu o ryw un i chwi egwyddorion dechreuad oraclau Duw, ac aethoch i fod a rhaid i chwi wrth laeth ac nid wrth fwyd cryf;
13
canys pob un y sy’n cyfrannogi o laeth, heb ymarferiaeth o air cyfiawnder y mae,
14
canys maban yw, ac i’r rhai wedi llawn-dyfu y mae bwyd cryf, y rhai o herwydd cynnefindra sydd a’u synwyr wedi ymarfer i farnu rhwng da a drwg.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13