bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Hebrews 9
Hebrews 9
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 10 →
1
Yr oedd, gan hyny, gan y Cyfammod cyntaf ddefodau gwasanaeth Duw, a’i gyssegr bydol;
2
canys tabernacl a barottowyd, sef y cyntaf, yn yr hwn yr oedd y canhwyllbren, a’r bwrdd, a gosodiad y bara ger bron, yr hwn dabernacl a elwir,
3
“Y Cyssegr.” Ac yn ol yr ail len, y tabernacl a elwir,
4
“Y Cyssegr Sancteiddioliaf,” a chanddo thuser aur ac arch y cyfammod wedi ei goreuro o amgylch, yn yr hon y mae crochan aur ag ynddo y manna, a gwialen Aaron,
5
yr hon a flagurodd, a llechau’r cyfammod; ac uwch ei phen gerubiaid y gogoniant, yn cysgodi’r drugareddfa; ac am y pethau hyn ni ellir yn awr ddywedyd bob yn rhan.
6
A’r pethau hyn wedi eu parottoi felly, i’r tabernacl cyntaf yn wastadol yr â’r offeiriaid i mewn, yn cyflawni’r gwasanaethau;
7
ond i’r ail, un waith yn y flwyddyn, yr arch-offeiriad ar ei ben ei hun, nid heb waed, yr hwn a offrwm efe drosto ei hun, ac am gyfeiliornadau’r bobl;
8
hyn yn cael ei hyspysu gan yr Yspryd Glân, nad amlygwyd etto y ffordd i’r cyssegr, tra y mae’r tabernacl cyntaf yn sefyll;
9
a hyn sydd ddammeg am yr amser presennol, yn ol yr hon y mae rhoddion ac aberthau yn cael eu hoffrymmu, heb ganddynt allu, o ran cydwybod,
10
i berffeithio’r addolydd, gan nad ydynt ond (gyda bwydydd a diodydd ac amryw olchiadau) defodau cnawdol, wedi eu gosod hyd amser cywiriad.
11
Ond Crist wedi dyfod, Arch-offeiriad y pethau da i ddyfod, trwy’r tabernacl mwy a pherffeithiach, nid o waith llaw,
12
hyny yw, nid o’r greadigaeth hon, ac nid trwy waed geifr a lloi, ond trwy Ei waed Ei hun, a aeth i mewn, un waith am byth, i’r cyssegr, wedi cael prynedigaeth tragywyddol.
13
Canys os gwaed geifr a theirw, a lludw anner yn taenellu y rhai a halogwyd, a sancteiddiai i lanhad y cnawd,
14
pa faint mwy y bydd i waed Crist, yr Hwn trwy’r Yspryd Tragywyddol a offrymmodd Ef Ei hun yn ddianaf i Dduw, lanhau eich cydwybod oddiwrth weithredoedd meirwon, i wasanaethu y Duw Byw?
15
Ac o herwydd hyn i gyfammod newydd y mae Efe yn Gyfryngwr, fel, marwolaeth wedi digwydd er prynedigaeth y troseddau tan y cyfammod cyntaf, y derbyniai y rhai a alwyd addewid yr etifeddiaeth dragywyddol.
16
Canys lle y mae testament, marwolaeth yr hwn a’i gwnaeth sydd a rhaid iddi ddyfod,
17
canys ewyllys, ar ol marw dynion y mae’n ddiymmod, gan nad yw un amser a nerth ynddi tra byw y mae’r hwn a’i gwnaeth.
18
A chan hyny, ni fu i hyd yn oed y cyntaf ei gyssegru heb waed:
19
canys wedi adrodd pob gorchymyn yn ol y Gyfraith gan Mosheh i’r holl bobl, wedi cymmeryd gwaed y lloi a’r geifr, gyda dwfr a gwlân porphor ac hussop, ar y llyfr ei hun a’r holl bobl y taenellodd efe, gan ddywedyd,
20
“Hwn yw gwaed y cyfammod a orchymynodd Duw tuag attoch.”
21
A’r tabernacl hefyd, a holl lestri y gwasanaeth a daenellodd efe yn y cyffelyb fodd.
22
Ac â gwaed bron pob peth a lanheir yn ol y Gyfraith, ac heb dywallt gwaed nid oes maddeuant.
23
Rhaid oedd, gan hyny, i bortreiadau y pethau yn y nefoedd gael eu glanhau â’r rhai hyn; ond y pethau nefol eu hunain ag aberthau gwell na’r rhai hyn;
24
canys nid i gyssegr o waith llaw yr aeth Crist i mewn, gwrth-lun y gwir gyssegr, eithr i’r nef ei hun, i ymddangos yn awr ger bron Duw trosom ni;
25
ac nid fel yn fynych yr offrymmai Ef Ei hun, fel y mae’r archoffeiriad yn myned i mewn i’r cyssegr bod blwyddyn â gwaed arall,
26
canys rhaid fuasai Iddo yn fynych ddioddef er seiliad y byd; ond yn awr, un waith am byth, yn niwedd yr oesoedd, er diddymmiad pechod trwy yr aberth o Hono Ei hun, yr amlygwyd Ef.
27
Ac fel y mae mewn cadw i ddynion, un waith am byth,
28
farw, ac wedi hyny farn, felly hefyd Crist, un waith am byth wedi Ei offrymmu, i ddwyn pechodau llawer, ail waith, yn wahan oddiwrth bechod yr ymddengys i’r rhai sydd yn Ei ddisgwyl er iachawdwriaeth.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13