bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Hebrews 10
Hebrews 10
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 11 →
1
Canys a chysgod gan y Gyfraith, o’r pethau da i ddyfod, ac nid a’r llun ei hun o’r pethau, â’r un aberthau bob blwyddyn, y rhai a offrymmant yn wastadol, ni allant byth berffeithio y rhai sy’n dyfod at Dduw;
2
canys oni pheidiasent â’u hoffrymmu, gan na fyddai mwyach ddim cydwybod o bechodau gan y rhai yn addoli, wedi iddynt un waith am byth eu glanhau?
3
Eithr yn yr aberthau hyn,
4
adgoffa pechodau sydd bob blwyddyn: canys ammhosibl yw i waed teirw a geifr dynnu ymaith bechodau.
5
Gan hyny, pan yn dyfod i’r byd y dywaid, “Aberth ac offrwm ni ewyllysiaist, Ond corph a barottoaist i Mi;
6
Mewn poeth-offrymmau a phech- aberthau ni’th foddlonwyd,
7
Yna dywedais, Wele, daethym, (Yn rhol y llyfr yr ysgrifenwyd am Danaf,) I wneuthur, O Dduw, Dy ewyllys.”
8
Gan ddywedyd uchod, “Aberthau ac offrymmau a phoeth-offrymmau a phech-aberthau ni ewyllysiaist,” ac “ni’th foddlonwyd” ynddynt, (y rhai yn ol y Gyfraith a offrymmir,)
9
yna y dywedodd, “Wele, daethum i wneuthur Dy ewyllys,” tynnu ymaith y cyntaf y mae, fel yr ail y gosodo.
10
A chan yr “ewyllys” hwn y’n sancteiddiwyd trwy offrwm corph Iesu Grist un waith am byth.
11
A phob offeiriad yn wir sy’n sefyll o ddydd i ddydd yn gwasanaethu, ac yr un aberthau yn fynych a offrymma, y rhai ni allant byth dynnu ymaith bechodau;
12
ond Hwn, wedi i un aberth am bechodau ei offrymmu Ganddo am byth, a eisteddodd ar ddeheulaw Duw,
13
o hyn allan yn disgwyl hyd oni “osoder Ei elynion yn droed-faingc i’w draed,”
14
canys ag un offrwm y mae wedi perffeithio am byth y rhai sy’n cael eu sancteiddio.
15
A thystiolaethu i ni y mae’r Yspryd Glân, canys ar ol dywedyd,
16
“Hwn yw ’r cyfammod a ammodaf â hwynt, Ar ol y dyddiau hyny, medd Iehofah, Gan roddi Fy nghyfreithiau yn eu calonnau Ac ar eu meddwl yr ysgrifenaf hwynt:”
17
y dywaid, “A’u pechodau a’u hanwireddau ni chofiaf mwy.”
18
A lle y mae maddeuant y rhai hyn, nid oes mwyach offrwm am bechod.
19
Gan ein bod, gan hyny, frodyr, a chenym hyfdra am y ffordd i mewn i’r cyssegr trwy waed yr Iesu, yr hon a gyssegrodd Efe i ni,
20
ffordd newydd a byw, trwy’r llen,
21
hyny yw, Ei gnawd Ef; a chenym Offeiriad Mawr ar dŷ Dduw,
22
nesawn â chalon gywir mewn llawnder ffydd, wedi ein taenellu o ran ein calonnau oddiwrth gydwybod ddrwg, ac wedi ein golchi o ran y corph â dwfr glân.
23
Daliwn gyffes ein gobaith heb siglo o honi, canys ffyddlawn yw’r Hwn a addawodd;
24
ac ystyriwn ein gilydd, i annog i gariad a gweithredoedd da;
25
heb ymadael â chyd-gynhulliad ein gilydd, fel y mae arfer rhai, eithr gan gynghori ein gilydd; ac o hyny yn fwy yn gymmaint ag y gwelwn y dydd yn nesau.
26
Canys pan o’n gwirfodd y pechwn, ar ol derbyn gwybodaeth y gwirionedd, nid oes mwyach yn aros aberth am bechodau,
27
ond rhyw dderbyniad ofnadwy barn, ac angerdd tân ar fedr difa’r gwrthwynebwyr.
28
Y neb a ddiystyrodd Gyfraith Mosheh, heb drugaredd, dan ddau neu dri o dystion y bydd farw:
29
pa faint gwaeth cospedigaeth (dybygwch chwi,) y bernir haeddu o’r hwn y bu i Fab Duw Ei fathru ganddo; ac i waed y cyfammod ei farnu yn ansanctaidd ganddo, â’r hwn y’i sancteiddiwyd, ac i Yspryd y gras Ei sarhau ganddo?
30
Canys adwaenom yr Hwn a ddywedodd, “I Mi y perthyn dial; Myfi a dalaf:” ac etto, “Barna Iehofah Ei bobl.”
31
Peth ofnadwy yw syrthio yn nwylaw y Duw Byw.
32
Ond gelwch i’ch cof y dyddiau o’r blaen, yn y rhai, wedi eich goleuo, llawer ymdrech dioddefiadau a oddefasoch;
33
o ran, â gwaradwyddiadau a gorthrymderau yn cael eich gwneuthur yn wawd; ac o ran, wedi myned yn gyfrannogion â’r rhai yn cael eu trin felly,
34
canys â’r rhai mewn rhwymau y cyd-ymdeimlasoch, ac anrheithiad eich meddiannau gyda llawenydd a gymmerasoch, gan wybod fod genych, i’ch hunain, feddiant gwell a pharhaus.
35
Na fwriwch ymaith, gan hyny, eich hyfdra, yr hwn sydd a chanddo fawr daledigaeth a gobrwy;
36
canys wrth amynedd y mae i chwi raid, fel, wedi i ewyllys Duw ei wneuthur genych, y derbynioch yr addewid:
37
Canys etto ychydig bachigyn A’r Hwn sy’n dyfod a ddaw, ac nid oeda;
38
A’m cyfiawn, “trwy ffydd a fydd byw;” Ac os tyn yn ol, ni foddlonir Fy enaid ynddo.
39
Ond nyni nid ydym o’r “tynnu yn ol,” i ddistryw; eithr o ffydd, i gadwedigaeth yr enaid.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13