bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Mark 1
Mark 1
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 2 →
1
Dechreu efengyl Iesu Grist, Fab Duw.
2
Fel yr ysgrifenwyd yn Eshaiah y prophwyd, “Wele, danfon yr wyf Fy nghennad o flaen Dy wyneb, Yr hwn a barottoa Dy ffordd o’th flaen.”
3
“Llef un yn llefain Yn yr anialwch, parottowch ffordd Iehofah, Gwnewch yn uniawn Ei lwybrau Ef.”
4
Daeth Ioan, yr hwn oedd yn bedyddio yn yr anialwch ac yn pregethu bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau.
5
Ac aeth allan atto holl wlad Iwdea, a phobl Ierwshalem i gyd, a bedyddiwyd hwy ganddo yn yr Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau.
6
Ac yr oedd Ioan wedi ei wisgo â blew camel, ac â gwregys croen am ei lwynau, ac yn bwytta locustiaid a mêl gwyllt;
7
a phregethodd, gan ddywedyd, Dyfod y mae’r Hwn sydd gryfach na myfi, ar fy ol, i’r Hwn nid wyf deilwng, gan ymgrymu, i ddattod carrai Ei esgidiau.
8
Myfi a’ch bedyddiais â dwfr; ond Efe a’ch bedyddia â’r Yspryd Glân.
9
A bu yn y dyddiau hyny, y daeth yr Iesu o Natsareth yn Galilea, ac y bedyddiwyd Ef gan Ioan yn yr Iorddonen;
10
ac yn uniawn, wrth ddyfod i fynu o’r dwfr, gwelodd y nefoedd yn ymrwygo, a’r Yspryd, fel colommen yn dyfod i lawr arno,
11
a llef a ddaeth o’r nefoedd, Tydi wyt Fy Mab anwyl: Ynot Ti y’m boddlonwyd.
12
Ac yn uniawn yr Yspryd a’i gyrrodd Ef allan i’r anialwch:
13
a bu Efe yn yr anialwch ddeugain niwrnod, yn Ei demtio gan Satan; ac yr oedd gyda’r gwyllt-filod; ac yr angylion a weinient Iddo.
14
Ac ar ol traddodi Ioan, daeth yr Iesu i Galilea, gan bregethu Efengyl Dduw,
15
a dywedyd, Cyflawnwyd yr amser, a nesaodd teyrnas Dduw. Edifarhewch a chredwch yr Efengyl.
16
Ac wrth rodio wrth fôr Galilea, gwelodd Shimon ac Andreas brawd Shimon, yn bwrw rhwyd yn y môr, canys yr oeddynt bysgodwyr.
17
A dywedodd yr Iesu wrthynt, Deuwch ar Fy ol I, a gwnaf chwi i fyned yn bysgodwyr dynion.
18
Ac yn uniawn, gan adael y rhwydau, canlynasant Ef.
19
Ac wedi myned ychydig ymlaen, gwelodd Iago fab Zebedëus, ac Ioan ei frawd, a hwythau hefyd yn y cwch yn cyweirio’r rhwydau.
20
Ac yn uniawn y galwodd hwynt; a chan adael eu tad Zebedëus yn y cwch ynghyda’r cyflog-ddynion, yr aethant ymaith ar Ei ol Ef.
21
Ac aethant i mewn i Caphernahwm; ac yn uniawn, ar y Sabbath,
22
wedi myned i mewn i’r sunagog, y dysgodd, a bu aruthr ganddynt o herwydd Ei ddysgad Ef; canys yr oedd yn eu dysgu hwynt fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion.
23
Ac yn uniawn yr oedd yn eu sunagog ddyn ag yspryd aflan,
24
a gwaeddodd, gan ddywedyd, Pa beth sydd i ni a wnelom â Thi, Iesu o Natsareth?
25
A ddaethost Ti i’n difetha ni? Adwaen i Ti pwy ydwyt, Sanct Duw. A dwrdiodd yr Iesu ef, gan ddywedyd, Taw, a thyred allan o hono.
26
A’r yspryd aflan, gan ei rwygo ef, a chan lefain â llef fawr, a ddaeth allan o hono;
27
a rhyfeddodd pawb, fel yr ymofynasant yn eu mysg eu hunain, gan ddywedyd, Pa beth yw hwn? Dysgad newydd! Gydag awdurdod hyd yn oed i’r ysprydion aflan y gorchymyn, ac ufuddhant Iddo.
28
Ac aeth y sôn am Dano allan yn uniawn, ym mhob man, i’r holl wlad o amgylch Galilea.
29
Ac yn uniawn, wedi myned allan o’r sunagog, yr aethant i dŷ Shimon.
30
A chwegr Shimon oedd yn gorwedd yn glaf o’r cryd; ac yn uniawn y dywedasant Wrtho am dani hi; ac,
31
wedi myned atti, cododd Efe hi, gan ymaflyd yn ei llaw, a gadawodd y cryd hi, a gwasanaethodd hi arnynt.
32
A’r hwyr wedi dyfod, pan fachludodd yr haul, dygasant Atto yr holl rai drwg eu hwyl a’r rhai cythreulig.
33
A’r holl ddinas oedd wedi ymgasglu wrth y drws.
34
Ac iachaodd Efe lawer o rai drwg eu hwyl o amryw heintiau; a chythreuliaid lawer a fwriodd Efe allan; ac ni adawodd i’r cythreuliaid ddywedyd yr adwaenent Ef.
35
A’r bore yn blygeiniol iawn, wedi codi o Hono, yr aeth allan,
36
ac aeth i le anghyfaneddol, ac yno y gweddïodd; a daeth ar Ei ol Ef Shimon a’r rhai gydag ef;
37
a chawsant Ef, a dywedasant Wrtho, y mae pawb yn Dy geisio Di.
38
A dywedodd Efe wrthynt, Awn i le arall i’r trefi nesaf, fel y pregethwyf yno hefyd,
39
canys i hyny y daethum allan, Ac aeth, gan bregethu i’w sunagogau hwynt, trwy holl Galilea, a’r cythreuliaid yn cael eu bwrw allan Ganddo.
40
A daeth Atto ddyn gwahanglwyfus, gan ymbil ag Ef, a chan benlinio Iddo, a chan ddywedyd Wrtho, Os ewyllysi, gelli fy nglanhau.
41
A chan dosturio, wedi estyn Ei law, cyffyrddodd Efe ag ef, a dywedodd wrtho,
42
Ewyllysiaf, glanhaer di; ac yn uniawn yr ymadawodd y gwahanglwyf ag ef, a glanhawyd ef:
43
ac wedi gorchymyn iddo yn gaeth, yn uniawn y danfonodd ef ymaith,
44
a dywedodd wrtho, Gwel na ddywedi ddim wrth neb; eithr, dos ymaith; dangos dy hun i’r offeiriad; ac offrymma am dy lanhad y pethau a ordeiniodd Mosheh, yn dystiolaeth iddynt.
45
Ac efe wedi myned allan a ddechreuodd gyhoeddi llawer a thanu’r gair ar led, fel na allai Efe mwy fyned yn amlwg i ddinas; eithr allan, mewn lleoedd anial yr oedd Efe; a daethant Atto o bob parth.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16