bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Mark 14
Mark 14
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 15 →
1
Ac yr oedd y Pasg, a gwyl y bara croyw, ar ol deuddydd: a cheisiai yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, pa fodd,
2
wedi Ei ddal Ef trwy dwyll, y lladdent Ef: canys dywedasant, Nid ar yr wyl, rhag ysgatfydd i gynnwrf o’r bobl fod.
3
A phan yr oedd Efe yn Bethania, yn nhŷ Shimon y gwahanglwyfus, ac Efe yn ei led-orwedd, daeth gwraig a chanddi flwch alabastr o ennaint o nard gwlyb tra-chostus; ac wedi torri’r blwch alabastr, tywalltodd ef ar Ei ben Ef.
4
Ac yr oedd rhai yn sorri ynddynt eu hunain, gan ddywedyd, I ba beth y mae’r golled hon o’r ennaint wedi ei gwneuthur?
5
canys gallasai’r ennaint hwn gael ei werthu am uwch law tri chan denar, a’i roddi i’r tlodion. A ffrommasant yn ei herbyn hi. A’r Iesu a ddywedodd, Gadewch iddi:
6
paham iddi hi mai blinder a berwch? Gweithred dda a wnaeth hi Arnaf.
7
Canys peunydd y mae’r tlodion genych gyda chwi; a phan ewyllysioch, iddynt hwy y gellwch wneuthur daioni, ond Myfi nid beunydd yr wyf genych.
8
Yr hyn a allodd a wnaeth hi; achubodd y blaen i enneinio Fy nghorph erbyn y claddedigaeth.
9
Ac yn wir y dywedaf wrthych, Pa le bynnag y pregethir yr Efengyl yn yr holl fyd, yr hyn hefyd a wnaeth hi, a adroddir er coffa am dani.
10
Ac Iwdas Ishcariot, un o’r deuddeg, a aeth ymaith at yr archoffeiriaid, er mwyn Ei draddodi Ef iddynt.
11
A hwy, wedi clywed, a lawenychasant, ac a addawsant roddi iddo arian; a cheisio yr oedd efe pa fodd y byddai iddo yn gyfleus Ei draddodi Ef.
12
A’r dydd cyntaf o wyl y bara croyw, yr amser yr aberthent y Pasg, dywedodd Ei ddisgyblion Wrtho, Pa le yr ewyllysi fyned o honom a pharottoi i Ti, i fwytta o Honot y Pasg?
13
A danfonodd Efe ddau o’i ddisgyblion, a dywedodd wrthynt, Ewch i’r ddinas, a chyferfydd â chwi ddyn yn dwyn piser o ddwfr: canlynwch ef;
14
a pha le bynnag yr elo i mewn, dywedwch wrth ŵr y tŷ, Yr Athraw a ddywaid, Pa le y mae Fy ystafell, lle y bwyttawyf y Pasg ynghyda’m disgyblion?
15
Ac efe a ddengys i chwi oruwch-ystafell fawr wedi ei thanu ac yn barod: ac yno parottowch i ni.
16
Ac aeth y disgyblion allan, a daethant i’r ddinas, a chawsant fel y dywedodd Efe wrthynt; a pharottoisant y Pasg.
17
A’r hwyr wedi dyfod, daeth Efe ynghyda’r deuddeg; ac a hwy yn eu lled-orwedd ac yn bwytta,
18
dywedodd yr Iesu, Yn wir y dywedaf wrthych, Un o honoch a’m traddoda I; yr hwn sy’n bwytta gyda Mi.
19
Dechreuasant dristau a dywedyd Wrtho, bob yn un, Ai myfi?
20
Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Un o’r deuddeg, yr hwn sydd yn gwlychu gyda Mi yn y ddysgl.
21
Mab y Dyn sydd yn myned, fel yr ysgriferiwyd am Dano: ond gwae’r dyn hwnw trwy’r hwn y mae Mab y Dyn yn cael Ei draddodi: da fuasai iddo, pe nas ganesid y dyn hwnw.
22
Ac wrth fwytta o honynt, wedi cymmeryd bara, ac ei fendithio, torrodd ef, a rhoddes iddynt, a dywedodd, Cymmerwch: hwn yw Fy nghorph.
23
Ac wedi cymmeryd cwppan, ac wedi rhoi diolch, rhoddes iddynt; ac yfasant o hono, bob un.
24
A dywedodd Efe wrthynt, Hwn yw Fy “Ngwaed y Cyfammod,” yr hwn sydd er llaweroedd yn cael ei dywallt allan.
25
Yn wir y dywedaf wrthych, Ddim mwyach nid yfaf o ffrwyth y winwydden, hyd y dydd hwnw pan yfaf ef yn newydd yn Nheyrnas Dduw.
26
Ac wedi canu hymn, aethant allan i fynydd yr Olewydd.
27
A dywedodd yr Iesu wrthynt, Yr oll o honoch a dramgwyddir, canys ysgrifenwyd, “Tarawaf y bugail, a gwasgerir y defaid;”
28
eithr ar ol cyfodi o Honof, af o’ch blaen i Galilea.
29
A Petr a ddywedodd Wrtho, Os hefyd pawb a dramgwyddir, eithr nid felly myfi.
30
A dywedodd yr Iesu wrtho, Yn wir y dywedaf wrthyt, Tydi, heddyw, yn y nos hon, cyn na fu i geiliog ddwy waith ganu, tair gwaith y gwedi Fi.
31
Ac efe yn ychwaneg dros ben a lefarodd, Os bydd rhaid i mi gydfarw â Thi, nis gwadaf Di ddim. A’r un modd hefyd yr oll o honynt a ddywedent.
32
A daethant i le enw yr hwn oedd Gethshemane; a dywedodd wrth Ei ddisgyblion, Arhoswch yma nes gweddïo o Honof.
33
A chymmerodd Petr, Iago ac Ioan gydag Ef, a dechreuodd orsynnu ac ymofidio;
34
a dywedodd wrthynt, Tra-athrist yw Fy enaid, hyd angau: arhoswch yma a gwyliwch.
35
Ac wedi myned ychydig ymlaen, syrthiodd ar y ddaear, a gweddïodd, o bai bosibl, ar fyned o’r awr Oddiwrtho,
36
a dywedodd, Abba Dad, pob peth sydd bosibl i Ti: dwg heibio y cwppan hwn Oddiwrthyf: eithr nid y peth yr wyf fi yn ei ewyllysio, eithr y peth yr wyt Ti.
37
A daeth, a chafodd hwynt yn cysgu, a dywedodd wrth Petr, Shimon, ai cysgu yr wyt? oni allit, am un awr, wylied?
38
Gwyliwch a gweddïwch, fel nad eloch i demtasiwn: yr yspryd yn wir sydd barod, ond y cnawd yn wan.
39
Ac etto, wedi myned ymaith, y gweddïodd gan ddywedyd yr un ymadrodd.
40
A thrachefn, wedi dyfod attynt, y cafodd hwynt yn cysgu, canys yr oedd eu llygaid wedi trymhau, ac ni wyddent pa beth a attebent Iddo.
41
A daeth y drydedd waith, a dywedodd wrthynt, Cysgwch weithian, a gorphwyswch: digon yw: daeth yr awr: wele, cael Ei draddodi y mae Mab y Dyn i ddwylaw’r pechaduriaid.
42
Cyfodwch, awn; wele, yr hwn sydd yn Fy nhraddodi I, agos yw.
43
Ac yn uniawn, ac Efe etto yn llefaru, daeth Iwdas, un o’r deuddeg, ac ynghydag ef dyrfa â chleddyfau a ffyn, oddiwrth yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a’r henuriaid.
44
A rhoisai yr hwn oedd yn Ei draddodi Ef arwydd iddynt, gan ddywedyd, Pwy bynnag a gusanwyf, hwnw yw; daliwch Ef, a dygwch ymaith yn sicr.
45
Ac wedi dyfod o hono, gan fyned yn uniawn Atto, dywedodd, Rabbi, a chusanodd Ef.
46
A hwythau a roisant Arno eu dwylaw, ac a’i daliasant Ef.
47
A rhyw un o’r rhai yn sefyll gerllaw, wedi tynu ei gleddyf, a darawodd was yr archoffeiriad, a thorrodd ymaith ei glust ef.
48
A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Fel at leidr y daethoch allan â chleddyfau ac â ffyn, i’m dala I.
49
Peunydd yr oeddwn gyda chwi yn y deml, yn dysgu, ac ni ddaliasoch Fi. Eithr — fel y cyflawner yr ysgrythyrau.
50
A chan Ei adael Ef, yr oll o honynt a ffoisant.
51
A rhyw ŵr ieuangc oedd yn Ei ganlyn Ef, wedi ymwisgo â lliain main am ei gorph noeth;
52
a daliasant ef: ac efe wedi gadael y lliain main, a ffodd yn noeth.
53
A dygasant ymaith yr Iesu at yr archoffeiriad; a daeth ynghyd atto yr holl archoffeiriaid a’r henuriaid a’r ysgrifenyddion.
54
A Petr oedd, o hirbell, yn Ei ganlyn Ef hyd tu mewn i gwrt yr archoffeiriad, ac yr oedd yn cyd-eistedd ynghyda’r gweinidogion, ac yn ymdwymno wrth y tân.
55
A’r archoffeiriaid a’r holl gynghor a geisient dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, i’w roi Ef i farwolaeth;
56
ac ni chawsant: canys llawer a au-dystiolaethasant yn Ei erbyn Ef, a’u tystiolaethau nid oeddynt gyfartal.
57
A rhai, wedi cyfodi, a au-dystiolaethasant yn Ei erbyn Ef, gan ddywedyd,
58
Nyni a’i clywsom Ef yn dywedyd, Myfi a chwalaf y deml hon a wnaethpwyd â dwylaw, ac mewn tridiau un arall, heb ei gwneud â dwylaw, a adeiladaf.
59
Ac hyd yn oed felly, nid oedd eu tystiolaeth yn gyfartal.
60
Ac wedi cyfodi o’r archoffeiriad yn y canol, gofynodd i’r Iesu, gan ddywedyd, Onid attebi ddim? Pa beth y mae y rhai hyn yn ei dystiolaethu yn Dy erbyn Di?
61
Ac Efe a dawodd, ac nid attebodd ddim. Trachefn yr archoffeiriad a ofynodd Iddo, ac a ddywedodd Wrtho, Ai Tydi yw y Crist, Mab y Bendigedig?
62
A’r Iesu a ddywedodd, Myfi wyf: a chewch weled Mab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw y Gallu, ac yn dyfod ynghyda chymmylau’r nef.
63
A’r archoffeiriad, wedi rhwygo ei ddillad, a ddywedodd, Pa raid sydd genym mwyach wrth dystion?
64
Clywsoch y gabledd. Pa beth a ymddengys i chwychwi? A hwy oll a’i condemniasant Ef Ei fod yn ddyledwr i farwolaeth.
65
A dechreuodd rhai boeri Arno, a gorchuddio Ei wyneb Ef, a’i gernodio Ef, a dywedyd Wrtho, Prophwyda. A’r gweinidogion a’i dyrnodiasant Ef.
66
A phan yr oedd Petr i wared, yn y cwrt, daeth un o forwynion yr archoffeiriad;
67
a chan weled Petr yn ymdwymno, ac wedi edrych arno, dywedodd, A thithau hefyd, ynghyda’r Natsaread yr oeddit, yr Iesu.
68
Ac efe a wadodd gan ddywedyd, Nid adwaen i, ac nis gwn pa beth yr wyt ti yn ei ddywedyd; ac aeth allan i’r porth; a cheiliog a ganodd.
69
Ac y forwyn, gan ei weled ef, a ddechreuodd etto ddywedyd wrth y rhai yn sefyll gerllaw,
70
Hwn, o honynt y mae. Ac efe etto a wadodd. Ac ar ol ychydig etto, y rhai yn sefyll gerllaw a ddywedasant wrth Petr, Yn wir, o honynt yr wyt; canys Galilead wyt.
71
Ac efe a ddechreuodd regu a thyngu, Nid adwaen i y dyn hwn, yr hwn y dywedwch am dano;
72
ac yn uniawn am yr ail waith, ceiliog a ganodd, a chofiodd Petr yr ymadrodd, y modd y dywedodd yr Iesu wrtho, “Cyn i geiliog ganu ddwywaith, tair gwaith y’m gwedi I;” a chan ystyried hyny, gwylodd.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16