bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Mark 8
Mark 8
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 9 →
1
Yn y dyddiau hyny trachefn, a’r dyrfa yn fawr, ac heb ganddynt yr hyn a fwyttaent, wedi galw Atto Ei ddisgyblion,
2
dywedodd wrthynt, Tosturio yr wyf wrth y dyrfa, canys weithian tridiau sydd y maent yn aros gyda Mi, ac nid oes ganddynt yr hyn a fwyttant;
3
ac os gollyngaf hwynt ymaith ar eu cythlwng i’w teiau, llewygent ar y ffordd; a rhai o honynt, o hirbell y daethant.
4
Ac attebodd Ei ddisgyblion Iddo, O ba le y gall neb ddigoni y rhai hyn â thorthau mewn anialwch?
5
A gofynodd iddynt, Pa sawl torth sydd genych?
6
A hwy a ddywedasant, Saith. A gorchymynodd i’r dyrfa led-orwedd ar y ddaear; ac wedi cymmeryd y saith dorth a rhoddi diolch, torrodd hwynt, a rhoddodd i’w ddisgyblion, fel y gosodent ger eu bronnau: a gosodasant ger bron y dyrfa.
7
Ac yr oedd ganddynt ychydig bysgod bychain; ac wedi eu bendithio hwynt, dywedodd am eu rhoddi hwynt hefyd ger bron.
8
A bwyttasant, a digonwyd hwynt: a chymmerasant i fynu yr hyn oedd dros ben o friw-fwyd, saith gawellaid.
9
Ac yr oeddynt ynghylch pedair mil;
10
a gollyngodd Efe hwynt ymaith. Ac wedi myned yn uniawn i’r cwch ynghyda’i ddisgyblion, aeth i barthau Dalmanwtha.
11
Ac aeth y Pharisheaid allan, a dechreuasant ymholi ag Ef, gan geisio Ganddo arwydd o’r nef, gan Ei demtio.
12
Ac wedi ocheneidio yn Ei yspryd, dywedodd, Paham y mae’r genhedlaeth hon yn ceisio arwydd?
13
Yn wir y dywedaf wrthych, Ni roddir i’r genhedlaeth hon arwydd. Ac wedi eu gadael, gan fyned trachefn i’r cwch, aeth ymaith i’r lan arall.
14
Ac anghofiasant gymmeryd torthau, ac nid oedd ganddynt oddieithr un dorth ynghyda hwynt yn y cwch.
15
A gorchymynodd Efe iddynt, gan ddywedyd, Edrychwch; ymogelwch rhag surdoes y Pharisheaid a surdoes Herod.
16
Ac ymresymmasant wrth eu gilydd, gan ddywedyd, Torthau nid oes genym.
17
A chan wybod o’r Iesu, dywedodd wrthynt, Paham yr ymresymmwch am nad oes torthau genych? Onid ydych etto yn ystyried nac yn deall? Ai wedi ei chaledu y mae eich calon genych?
18
A llygaid genych, oni welwch? A chlustiau genych, oni chlywch? Ac oni chofiwch?
19
Pan y pum torth a dorrais i’r pum mil, pa sawl basgedaid yn llawn o friw-fwyd a gymmerasoch i fynu?
20
Dywedasant Wrtho, Deuddeg. A phan y saith a dorrais i’r pedair mil, llonaid pa sawl cawell o friw-fwyd a gymmerasoch i fynu?
21
A dywedasant Wrtho, Saith. A dywedodd wrthynt, Onid ydych etto yn deall?
22
A daethant i Bethtsaida. A dygasant Atto ddyn dall; a deisyfiasant Arno ar Iddo gyffwrdd ag ef.
23
Ac wedi ymaflyd yn llaw y dall, cymmerodd ef allan o’r pentref. Ac wedi poeri o Hono i’w lygaid ef, a rhoddi Ei ddwylaw arno, gofynodd iddo, A weli di ryw beth?
24
Ac wedi edrych i fynu, dywedodd, Gwelaf ddynion, fel preniau y gwelaf hwynt, yn rhodio.
25
Yna y rhoddodd Efe trachefn Ei ddwylaw ar ei lygaid ef; a gwelodd efe yn drwyadl, ac adferwyd ef, a gwelodd bob peth yn eglur.
26
A danfonodd Efe ef i’w dŷ, gan ddywedyd, I’r pentref na ddos i mewn.
27
Ac aeth yr Iesu a’i ddisgyblion allan i bentrefi Cesarea Philippi. Ac ar y ffordd gofynodd i’w ddisgyblion, Pwy y dywaid dynion Fy mod I?
28
A hwy a lefarasant Wrtho, gan ddywedyd, Ioan Fedyddiwr; ac eraill, Elias; ac eraill, Un o’r prophwydi.
29
Ac Efe a ofynodd iddynt, A chwychwi, pwy y dywedwch Fy mod I? Gan atteb, Petr a ddywedodd Wrtho, Tydi wyt y Crist.
30
A dwrdiodd hwynt na ddywedent wrth neb am Dano.
31
A dechreuodd eu dysgu hwynt, Y mae rhaid i Fab y Dyn oddef llawer, ac Ei wrthod gan yr henuriaid a’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, ac Ei ladd, ac ar ol tridiau adgyfodi.
32
Ac yn eglur y llefarodd Efe y gair hwn. Ac wedi Ei gymmeryd Ef atto, Petr a ddechreuodd Ei ddwrdio Ef.
33
Ac wedi troi o Hono, a chan weled Ei ddisgyblion, dwrdiodd Petr, a dywedodd, Dos yn fy ol I, Satan, canys nid synied pethau Duw yr wyt, eithr pethau dynion.
34
Ac wedi galw y dyrfa Atto ynghyd a’i ddisgyblion, dywedodd wrthynt, Os yw neb yn ewyllysio dyfod ar Fy ol I, ymwaded ag ef ei hun, a chymmered i fynu ei groes, a chanlyned Fi; canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei einioes, a’i cyll hi;
35
a phwy bynnag a gollo ei einioes o’m hachos I a’r efengyl a’i ceidw hi:
36
canys pa beth y llesa ddyn fod wedi ynnill y byd oll a chael coll o’i enaid?
37
Canys pa beth a roddai dyn yn gyfnewid am ei enaid?
38
Canys pwy bynnag fo ag arno gywilydd o Myfi a’m geiriau Yn y genhedlaeth odinebus a phechadurus hon; Mab y Dyn hefyd fydd ag Arno gywilydd o hono ef, Pan ddaw yngogoniant Ei Dad ynghyda’r angylion sanctaidd.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16