bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Mark 16
Mark 16
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
1
Ac wedi darfod y Sabbath, Mair Magdalen, a Mair mam Iago, a Shalome, a brynasant ber-aroglau, fel, wedi dyfod o honynt, yr enneinient Ef.
2
Ac yn fore iawn, y dydd cyntaf o’r wythnos, daethant at y bedd, ar ol codiad yr haul;
3
a dywedasant wrth eu gilydd, Pwy a dreigla ymaith i ni y maen oddiwrth ddrws y bedd?
4
(Ac wedi edrych i fynu gwelsant y treiglasid y maen ymaith,) canys yr oedd efe yn fawr iawn.
5
Ac wedi myned i mewn i’r bedd, gwelsant ŵr ieuangc yn eistedd o’r tu dehau, wedi ei ddilladu â gwisg wen; a synnasant yn ddirfawr.
6
Ac efe a ddywedodd wrthynt, na ddirfawr-synnwch: yr Iesu yr ydych yn Ei geisio, y Natsaread, yr Hwn a groes-hoeliwyd. Cyfododd; nid yw Efe yma: wele y lle y dodasant Ef.
7
Eithr ewch ymaith; dywedwch wrth Ei ddisgyblion, ac wrth Petr, Myned o’ch blaen chwi i Galilea y mae; yno Ef a welwch, fel y dywedodd wrthych.
8
Ac wedi myned allan, ffoisant oddiwrth y bedd, canys yr oedd arnynt grynfa a syndod; ac wrth neb ni ddywedasant ddim, canys dychrynwyd hwynt.
9
Ac wedi adgyfodi yn fore ar y dydd cyntaf o’r wythnos, ymddangosodd yn gyntaf i Mair Magdalen, o’r hon y bwriasai allan saith o gythreuliaid;
10
a hithau, wedi myned, a fynegodd i’r rhai a fuasent gydag Ef, ac oeddynt yn galaru ac yn gwylofain.
11
A hwythau, wedi clywed Ei fod yn fyw ac y gwelwyd ganddi, a anghoeliasant.
12
Ac wedi y pethau hyn, i ddau o honynt, yn ymdeithio, yr amlygwyd Ef mewn gwedd arall, wrth fyned o honynt i’r wlad.
13
A hwy, wedi myned ymaith, a fynegasant i’r lleill, ac iddynt hwy ni chredent.
14
A chwedi’n, i’r un ar ddeg eu hunain yn eu lled-orwedd wrth y ford yr amlygwyd Ef, a dannododd iddynt eu hanghrediniaeth a’u calon-galedwch, gan mai i’r rhai a’i gwelsent Ef wedi adgyfodi, na roisent gred;
15
a dywedodd wrthynt, Wedi myned o honoch i’r holl fyd, pregethwch yr Efengyl i’r holl greadigaeth.
16
Yr hwn a gredo ac a fedyddiwyd fydd gadwedig; ac yr hwn a anghredo a gondemnir.
17
Ac i’r rhai a gredant, yr arwyddion hyn a’u canlynant: Yn Fy enw y bwriant allan gythreuliaid;
18
a thafodau newyddion y llefarant; seirph a godant hwy; ac os dim marwol a yfant, ni wna iddynt ddim niweid; ar gleifion eu dwylaw a roddant, ac iacheir hwynt.
19
Yr Arglwydd Iesu, gan hyny, ar ol llefaru wrthynt, a gymmerwyd i fynu i’r nef, ac eisteddodd ar ddeheulaw Duw.
20
A hwythau, wedi myned allan, a bregethasant ym mhob man, yr Arglwydd yn cydweithio ac yn cadarnhau y Gair trwy’r arwyddion a oedd yn canlyn. Amen.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16