bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Mark 3
Mark 3
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 4 →
1
Ac aeth i mewn drachefn i’r sunagog: ac yr oedd yno ddyn a chanddo ei law wedi gwywo.
2
A gwyliasant Ef ai ar y Sabbath yr iachaai ef, fel y cyhuddent Ef.
3
A dywedodd Efe wrth y dyn yr oedd ganddo y llaw wedi gwywo, Cyfod i’r canol.
4
A dywedodd wrthynt, Ai cyfreithlawn yw ar y Sabbath wneuthur da, neu ynte wneuthur drwg? cadw einioes neu ladd?
5
A hwy a dawsant. Ac wedi edrych o amgylch arnynt gyda digter, gan ei boeni am galedrwydd eu calon, dywedodd wrth y dyn, Estyn allan dy law; ac estynodd efe hi allan, ac adferwyd ei law ef.
6
Ac wedi myned allan o’r Pharisheaid, yn uniawn ynghyda’r Herodianiaid cynghor a gymmerasant yn Ei erbyn Ef, pa fodd y difethent Ef.
7
A’r Iesu ynghyda’i ddisgyblion a giliodd at y môr; a thyrfa fawr o Galilea a’i canlynodd Ef:
8
ac o Iwdea, ac o Ierwshalem, ac o Idwmea, ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen, ac o amgylch Tyrus a Tsidon, tyrfa fawr, gan glywed cymmaint o bethau yr oedd Efe yn eu gwneuthur, a ddaeth Atto:
9
a dywedodd Efe wrth Ei ddisgyblion am fod i gwch bach barhau yn agos oblegid y dyrfa, fel na wasgent Ef;
10
canys llawer a iachasai Efe, fel y syrthiai Arno, er mwyn cyffwrdd ag Ef, gynnifer ag oedd a phlaau arnynt.
11
A’r ysprydion aflan, pan Ef a welent, a syrthient i lawr ger Ei fron ac a waeddent,
12
gan ddywedyd, Tydi wyt Fab Duw: a llawer y dwrdiodd Efe hwynt na wnaent Ef yn amlwg.
13
Ac esgynodd i’r mynydd; a galwodd Atto y rhai a ewyllysiodd Efe;
14
a daethant Atto: ac appwyntiodd ddeuddeg i fod gydag Ef, ac fel y danfonai hwynt i bregethu,
15
ac i fod a chanddynt awdurdod i fwrw allan y cythreuliaid;
16
a rhoddes ar Shimon yr enw Petr; ac Iago mab Zebedëus,
17
ac Ioan brawd Iago, rhoddes hefyd arnynt hwy yr enw Boanerges,
18
yr hyn yw Meibion y Daran; ac Andreas, a Philip, a Bartholemëus, a Matthew, a Thomas, ac Iago fab Alphëus,
19
a Thaddëus, a Shimon y Cananead, ac Iwdas Ishcariot, yr hwn hefyd a’i traddododd Ef.
20
A daethant i dŷ; a thrachefn y daeth y dyrfa ynghyd fel na allent hwy hyd yn oed fwytta bara.
21
Ac wedi clywed o’i berthynasau, aethant allan i’w ddal Ef, canys dywedasant, Allan o’i bwyll y mae.
22
A’r ysgrifenyddion, y rhai a ddaethent i wared o Ierwshalem, a ddywedasant, Beelzebub sydd Ganddo, a thrwy bennaeth y cythreuliaid y bwrw Efe allan y cythreuliaid.
23
Ac wedi eu galw hwynt Atto, mewn damhegion y dywedodd wrthynt, Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan?
24
Ac os teyrnas yn ei herbyn ei hun a ymranno, nid oes bosibl sefyll o’r deyrnas honno.
25
Ac, os tŷ yn ei erbyn ei hun a ymranno, nid oes bosibl sefyll o’r tŷ hwnw.
26
Ac os Satan a gododd yn ei erbyn ei hun ac ymrannu o hono, ni all sefyll, ond diwedd sydd iddo.
27
Eithr ni fedr neb, wedi myned i mewn i dŷ’r cadarn, yspeilio ei dda ef, oni bydd iddo yn gyntaf rwymo’r cadarn, ac yna ei dŷ ef a yspeilia efe.
28
Yn wir y dywedaf wrthych, Pob peth a faddeuir i feibion dynion, y pechodau ac y cableddau cynnifer ag a gablont;
29
ond pwy bynnag a gablo yn erbyn yr Yspryd Glân, ni chaiff faddeuant yn dragywydd,
30
eithr dyledwr yw i bechod tragywyddol; canys dywedasant, “Yspryd aflan sydd Ganddo.”
31
A daeth Ei fam ac Ei frodyr, a chan sefyll tu allan, danfonasant Atto, gan Ei alw.
32
Ac eisteddai tyrfa o’i amgylch Ef, a dywedasant Wrtho, Wele, Dy fam a’th frodyr Di tu allan a’th geisiant Di.
33
A chan atteb iddynt,
34
dywedodd, Pwy yw Fy mam I ac Fy mrodyr? Ac wedi edrych o amgylch ar y rhai oedd yn eistedd o’i gwmpas Ef,
35
dywedodd, Wele Fy mam I a’m brodyr; canys pwy bynnag a wnelo ewyllys Duw, hwnw, brawd i Mi, a chwaer, a mam yw.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16