bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Mark 4
Mark 4
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 5 →
1
A thrachefn y dechreuodd ddysgu yn ymyl y môr; ac ymgasglodd Atto dyrfa ddirfawr, fel y bu Iddo, wedi myned i’r cwch, eistedd ar y môr; a’r holl dyrfa, yn ymyl y môr, ar y tir yr oeddynt.
2
A dysgodd iddynt, mewn damhegion, lawer o bethau; a dywedodd wrthynt yn Ei ddysgad, Gwrandewch.
3
Wele, allan yr aeth yr hauwr i hau.
4
A bu wrth hau o hono, peth a syrthiodd ar ymyl y ffordd; a daeth yr ehediaid, a bwyttasant ef.
5
Ac arall a syrthiodd ar y creigle, lle ni chafodd ddaear lawer, ac yn uniawn yr eginodd, am nad oedd iddo ddyfnder daear;
6
a phan gododd yr haul, llosgwyd ef; a chan nad oedd ganddo wreiddyn, gwywodd.
7
Ac arall a syrthiodd ymhlith y drain; a daeth y drain i fynu, a thagasant ef, a ffrwyth ni roddes efe.
8
Ac eraill a syrthiasant ar y tir da; a rhoddasant ffrwyth, gan dyfu i fynu a chynnyrchu; a dygasant, yn ddeg ar hugain, ac yn dri ugain, ac yn gant.
9
A dywedodd Efe, Yr hwn sydd a chanddo glustiau i wrando, gwrandawed.
10
A phan yr oedd Efe ar Ei ben Ei hun, gofynodd y rhai o’i amgylch ynghyda’r deuddeg Iddo am y damhegion;
11
a dywedodd wrthynt, I chwi y mae dirgelwch teyrnas Dduw wedi ei roddi; ond iddynt hwy, y rhai tu allan,
12
mewn damhegion y mae’r cwbl, fel yn gweled y gwelont ac na chanfyddont; ac yn clywed y clywont ac na ddeallont; rhag ysgatfydd iddynt ddychwelyd ac y maddeuer iddynt.
13
A dywedodd wrthynt, Oni wyddoch y ddammeg hon? A pha fodd y bydd yr holl ddamhegion yn hysbys i chwi?
14
Yr hauwr, y Gair y mae efe yn ei hau; a’r rhai hyn yw’r rhai ar ymyl y ffordd lle’r hauir y Gair,
15
a phan glywont, yn uniawn dyfod y mae Satan, ac yn dwyn ymaith y Gair a hauwyd ynddynt.
16
A’r rhai hyn ydynt, yr un ffunud, y rhai a hauwyd ar y creigleoedd, y rhai pan glywont y Gair, yn uniawn gyda llawenydd y derbyniant ef,
17
ac nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain, eithr am amser y maent: wedi hyny, pan gyfodo blinder neu erlid o achos y Gair, yn uniawn y tramgwyddir hwy.
18
Ac eraill sydd, y rhai a hauwyd ymhlith y drain;
19
y rhai hyn yw y rhai a glywant y Gair, a phryder y byd a thwyll golud, ac y chwantau am y pethau eraill, gan ddyfod i mewn, a dagant y Gair; ac yn ddiffrwyth y mae efe yn myned.
20
A’r rhai hyn yw y rhai a hauwyd ar y tir da; y rhai a glywant y Gair ac a’ i derbyniant, ac a ddygant ffrwyth, yn ddeg ar hugain, yn dri ugain, ac yn gant.
21
A dywedodd wrthynt, A fydd y llusern yn dyfod fel tan y llestr y’i doder, neu dan y gwely? Onid fel ar safle’r llusern y’i doder?
22
Canys nid oes dim cuddiedig, oddieithr fel yr amlyger ef, na dim wedi ei wneuthur yn ddirgel, ond fel y deuai i’r amlwg.
23
Os yw neb a chanddo glustiau i wrando, gwrandawed.
24
A dywedodd wrthynt, Edrychwch pa beth a glywch. A pha fesur y mesurwch, y mesurir i chwi;
25
a rhoddir yn ychwaneg i chwi; canys yr hwn sydd a chanddo, rhoddir iddo; a’r hwn sydd heb ganddo, hyd yn oed yr hyn sydd ganddo a ddygir oddi arno.
26
A dywedodd, Fel hyn y mae teyrnas Dduw, fel pe bai dyn yn bwrw’r had ar y ddaear;
27
a chysgu, a chodi nos a dydd, ac yr had a egina ac a dyfa, y modd na wyr efe;
28
canys o honi ei hun y mae’r ddaear yn dwyn ffrwyth, yn gyntaf yr eginyn, ar ol hyny y dywysen,
29
ar ol hyny y llawn ŷd yn y dywysen: a phan ganiattao y ffrwyth, yn uniawn y denfyn efe y cryman, o herwydd dyfod o’r cynhauaf.
30
A dywedodd, Pa fodd y cyffelybwn deyrnas Dduw? Ac ym mha ddammeg ygosodwn hi?
31
Cyffelybwn hi i ronyn o had mwstard, yr hwn pan hauer yn y ddaear, y lleiaf o’r holl hadau ar y ddaear yw;
32
ac wedi’r hauer, myned i fynu y mae, ac yn myned yn fwy na’r holl lysiau, ac yn dwyn canghennau mawrion, fel tan ei gysgod y gall ehediaid y nefoedd lettya.
33
Ac â chyfryw ddamhegion lawer y llefarodd iddynt y Gair,
34
fel yr oeddynt yn medru Ei glywed, ac heb ddammeg ni lefarodd wrthynt: ond o’r neilldu i’w ddisgyblion yr esponiodd bob peth.
35
A dywedodd wrthynt y dydd hwnw, a’r hwyr wedi dyfod, Awn trosodd i’r tu draw.
36
Ac wedi gollwng ymaith y dyrfa, cymmerasant Ef yn ebrwydd i’r cwch. Ac yr oedd cychod eraill gydag Ef.
37
A digwyddodd tymhestl fawr o wynt, a’r tonnau a gurent i’r cwch, fel mai llenwi yn awr yr oedd y cwch:
38
ac Efe oedd yn y pen ol i’r cwch, yn cysgu ar y gobennydd. A deffroisant Ef, a dywedasant Wrtho, Athraw, onid gwaeth Genyt ein bod ar ddarfod am danom?
39
Ac wedi codi o Hono, dwrdiodd y gwynt, a dywedodd wrth y môr, Gostega; distawa. A pheidiodd y gwynt; a bu tawelwch mawr.
40
A dywedodd Efe wrthynt, Paham mai ofnog ydych? Onid oes genych etto ffydd?
41
Ac ofnasant ag ofn mawr, a dywedasant wrth eu gilydd, Pwy, ynte, yw Hwn, gan fod hyd yn oed y gwynt a’r môr yn ufuddhau iddo?
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16