bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Mark 9
Mark 9
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 10 →
1
A dywedodd wrthynt, Yn wir y dywedaf wrthych, Y mae rhai yma, o’r rhai sy’n sefyll ger llaw, y rhai ni phrofant mo angau, nes gweled o honynt deyrnas Dduw yn dyfod mewn nerth.
2
Ac wedi chwe diwrnod, cymmerodd yr Iesu Atto Petr ac Iago ac Ioan, a dug hwynt i fynu i fynydd uchel, o’r neilldu, ar eu pennau eu hunain: a gwedd-newidiwyd Ef yn eu gwydd hwynt.
3
A’i ddillad a aethant yn ddisglaer, yn wynion dros ben, y fath na all pannwr ar y ddaear gannu gymmaint.
4
Ac ymddangosodd iddynt Elias ynghyda Mosheh, ac yr oeddynt yn ymddiddan â’r Iesu,
5
A chan atteb, Petr a ddywedodd wrth yr Iesu, Rabbi, ardderchog yw bod o honom yma: a gwnawn dair pabell;
6
i Ti, un; ac i Mosheh, un; ac i Elias, un; canys ni wyddai pa beth a attebai, canys mewn dychryn yr oeddynt.
7
A bu cwmmwl yn cysgodi trostynt; a bu llef o’r cwmmwl, Hwn yw Fy Mab anwyl: Arno Ef gwrandewch.
8
Ac yn ddisymmwth wedi edrych o amgylch ni welent neb mwyach, oddieithr yr Iesu ar Ei ben Ei hun ynghyda hwynt.
9
Ac wrth ddyfod i lawr o honynt o’r mynydd, gorchymynodd iddynt na fynegent wrth neb y pethau a welsant, oddieithr pan fo Mab y Dyn wedi adgyfodi o feirw.
10
Ac y gair hwn a ddaliasant, gan gydymholi yn eu plith eu hunain pa beth yw yr “Adgyfodi o feirw.”
11
A gofynasant Iddo, gan ddywedyd, Dywaid yr ysgrifenyddion fod rhaid i Elias ddyfod yn gyntaf.
12
Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Elias, yn wir, wedi dyfod yn gyntaf, a edfryd bob peth: a pha fodd yr ysgrifenwyd am Fab y Dyn mai llawer a ddioddef Efe, ac Ei ddirmygu?
13
Eithr dywedaf wrthych fod Elias wedi dyfod, a gwnaethant iddo gymmaint ag a ewyllysiasant, fel yr ysgrifenwyd am dano.
14
Ac wedi dyfod at y disgyblion, gwelsant dyrfa fawr yn eu cylch hwynt, ac ysgrifenyddion yn cydymholi â hwynt.
15
Ac yn uniawn, yr holl dyrfa, wrth Ei weled Ef, a synnasant;
16
a chan redeg Atto, cyfarchasant Iddo; a gofynodd iddynt, Am ba beth yr ymholwch â hwynt?
17
Ac attebodd un o’r dyrfa Iddo, Athraw, daethum â’m mab Attat, gan yr hwn y mae yspryd mud;
18
a pha le bynnag y cymmero efe ef, ei rwygo ef y mae; a bwrw ewyn y mae yntau, ac yn ysgyrnygu dannedd, ac yn gwywo: a dywedais wrth Dy ddisgyblion ar fwrw o honynt ef allan, ac ni allasant.
19
Ac Efe, gan atteb iddynt, a ddywedodd, O genhedlaeth ddiffydd, pa hyd mai gyda chwi y byddaf? Pa hyd y goddefaf chwi?
20
Deuwch ag ef Attaf Fi. A daethant ag ef Atto; ac wedi Ei weled Ef, yr yspryd yn uniawn a’i drylliodd ef; ac wedi syrthio o hono ar y ddaear, ymdreiglodd, dan fwrw ewyn.
21
A gofynodd Efe i’w dad, Pa faint o amser y mae hyn wedi digwydd iddo?
22
Ac efe a ddywedodd, Er’s yn fachgen bach. A mynych i’ r tân y bwrw efe ef, ac i’ r dwfr, fel y difetho ef: eithr os gelli ddim, cymmorth ni, gan dosturio wrthym.
23
A’r Iesu a ddywedodd wrtho, “Os gelli!” Y mae pob peth o fewn gallu y neb a gredo.
24
Yn uniawn dan waeddi, tad y bachgen a ddywedodd, Credu yr wyf; cymmorth fy anghrediniaeth.
25
A chan weled o’r Iesu fod tyrfa yn cyd-redeg, dwrdiodd yr yspryd aflan, gan ddywedyd wrtho, Yspryd mud a byddar, Myfi a orchymynaf i ti, Tyred allan o hono; ac na ddos mwyach i mewn iddo.
26
A chan waeddi, a dryllio llawer arno ef, daeth allan; ac aeth y bachgen fel un marw, fel y bu i lawer ddywedyd, Y mae efe wedi marw.
27
Ac yr Iesu, wedi ei gymmeryd ef erbyn ei law, a’i cyfododd ef.
28
Ac wedi myned o Hono i mewn i dŷ, Ei ddisgyblion, o’r neilldu, a ofynasant Iddo, gan ddywedyd, Nyni ni allem ei fwrw ef allan.
29
A dywedodd wrthynt, Y rhyw hwn, ni all er dim ddyfod allan, oddieithr trwy weddi.
30
Ac wedi myned allan oddiyno, ymdeithiasant trwy Galilea;
31
ac ni fynai i neb wybod; canys dysgu Ei ddisgyblion yr oedd Efe, a dywedodd wrthynt, Mab y Dyn a draddodir i ddwylaw dynion, a lladdant Ef; ac wedi Ei ladd, ar ol tridiau yr adgyfyd.
32
A hwy ni ddeallent yr ymadrodd, ac ofnent ofyn Iddo.
33
A daethant i Caphernahwm. A phan oedd yn y tŷ, gofynodd iddynt, Am ba beth yr ymddadleuech ar y ffordd?
34
A hwy a dawsant; canys ymddadleuasant â’u gilydd ar y ffordd, Pwy oedd fwyaf?
35
Ac wedi eistedd, galwodd y deuddeg, a dywedodd wrthynt, Os myn neb fod yn gyntaf, bydd efe olaf o’r cwbl, a gweinidog i bawb.
36
Ac wedi cymmeryd bachgenyn, gosododd ef yn eu canol; ac wedi ei gymmeryd ef yn Ei freichiau, dywedodd wrthynt,
37
Pwy bynnag a dderbynio un o’r cyfryw blant bychain yn Fy enw I, Myfi a dderbyn efe: a phwy bynnag a’m derbynio I, nid Myfi a dderbyn efe, eithr yr Hwn a’m danfonodd I.
38
Dywedodd Ioan Wrtho, Athraw, gwelsom ryw un, yr hwn oedd yn Dy enw yn bwrw allan gythreuliaid; a rhwystrasom ef am nad yw yn ein canlyn.
39
A’r Iesu a ddywedodd, Na rwystrwch ef; canys nid oes neb a wna wyrth yn Fy enw I,
40
a gallu o hono ar frys roi drygair i Mi, canys y neb nad yw i’n herbyn, o’n tu ni y mae.
41
Canys pwy bynnag a roddo i chwi i’w yfed gwppanaid o ddwfr yn yr enw mai i Grist y perthynwch, yn wir y dywedaf wrthych,
42
Ni chyll efe, er dim, ei obrwy; a phwy bynnag a baro dramgwydd i un o’r rhai bychain hyn y sydd yn credu Ynof, gwell fyddai iddo o lawer pe gosodid maen mawr melin am ei wddf, a’i daflu i’r môr.
43
Ac os tramgwydd a bair dy law i ti, tor hi ymaith, canys gwell yw myned o honot i mewn i’r bywyd yn anafus, nag a’th ddwy law genyt fyned ymaith i Gehenna, i’r tân anniffoddadwy;
44
ac os dy droed a baro dramgwydd i ti, tor ef ymaith;
45
gwell yw myned o honot i mewn i’r bywyd yn gloff, nag a’th ddau droed genyt dy daflu i Gehenna;
46
ac os dy lygad a baro dramgwydd i ti, bwrw ef ymaith;
47
gwell yw myned o honot yn un-llygeidiog i deyrnas Dduw, nag a dau lygad genyt dy daflu i Gehenna,
48
lle nid yw eu pryf yn marw,
49
a’r tân ni ddiffoddir; canys â thân yr helltir pob un.
50
Da yw’r halen; ond os yr halen a â yn ddihallt, â pha beth yr helltir ef? Bydded genych halen ynoch eich hunain, a byddwch heddychlawn a’ch gilydd.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16