bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Mark 12
Mark 12
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 13 →
1
A dechreuodd lefaru wrthynt mewn damhegion. Gwinllan a blannodd dyn, a rhoddodd o’i hamgylch gae; a chloddiodd le i’r gwinwryf, ac adeiladodd dŵr, a gosododd hi allan i lafurwyr, ac aeth i wlad ddieithr.
2
A danfonodd at y llafurwyr, yn yr amser, was i dderbyn gan y llafurwyr o ffrwythau’r winllan.
3
Ac wedi ei ddal, baeddasant ef, a gyrrasant ef ymaith yn waglaw.
4
A danfonodd trachefn attynt was arall; a hwnw, yr archollasant ei ben iddo, ac a’i dianrhydeddasant.
5
Ac un arall a ddanfonodd efe; a hwnw a laddasant; a llawer eraill, gan faeddu o honynt rai, a lladd y lleill.
6
Etto yr oedd ganddo un, mab anwyl: danfonodd hwnw hefyd, yn ddiweddaf, attynt, gan ddywedyd, Parchant fy mab; ond hwythau, y llafurwyr, a ddywedasant i’w gilydd, Hwn yw’r etifedd.
7
Deuwch; lladdwn ef, ac eiddo ni fydd yr etifeddiaeth;
8
ac wedi ei ddal, lladdasant ef, a bwriasant ef allan o’r winllan.
9
Pa beth, gan hyny, a wna arglwydd y winllan? Daw a difetha y llafurwyr, a rhydd y winllan at eraill.
10
Oni ddarllenasoch yr ysgrythyr hon, “Y maen yr hwn a wrthododd yr adeiladwyr, Efe a aeth yn ben i’r gongl!
11
Oddiwrth Iehofah y bu hyn, Ac y mae’n rhyfedd yn ein llygaid ni.”
12
A cheisiasant Ei ddal Ef, ac ofnasant y dyrfa; canys gwyddent mai yn eu herbyn hwy y dywedodd Efe y ddammeg; a chan Ei adael yr aethant ymaith.
13
A danfonasant Atto rai o’r Pharisheaid ac o’r Herodianiaid, fel y dalient Ef mewn ymadrodd.
14
Ac wedi dyfod, dywedasant Wrtho, Athraw, gwyddom mai geirwir wyt, ac na waeth Genyt am neb, canys nid edrychi ar wyneb dynion, eithr mewn gwirionedd yr wyt yn dysgu ffordd Duw; Ai cyfreithlawn rhoi teyrnged i Cesar, ai nad yw?
15
A roddwn, ai na roddwn hi? Ac Efe, gan wybod eu rhagrith, a ddywedodd wrthynt, Paham y temtiwch Fi?
16
Dygwch i Mi ddenar, fel y gwelwyf hi. A hwy a’ i dygasant. A dywedodd wrthynt, Eiddo pwy yw ’r ddelw hon, ac yr argraph? A hwy a ddywedasant Wrtho, Eiddo Cesar.
17
A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Pethau Cesar telwch i Cesar, a phethau Duw i Dduw. A synnasant yn ddirfawr Wrtho.
18
A daeth y Tsadwceaid Atto, y rhai a ddywedant nad oes adgyfodiad; a gofynasant Iddo, gan ddywedyd,
19
Athraw, Mosheh a ’sgrifenodd i ni, O bydd brawd neb farw, a gadu gwraig, ac heb adu plant, am gymmeryd o’i frawd ei wraig ef, a chodi had i’w frawd o honi.
20
Saith o frodyr oedd; a’r cyntaf a gymmerth wraig, ac wrth farw ni adawodd had.
21
A’r ail a’i cymmerth hi, ac a fu farw heb adu had:
22
a’r trydydd yr un modd: ac y saith ni adawsant had. Ac yn niwedd y cwbl, y wraig hefyd a fu farw.
23
Yn yr adgyfodiad, i ba un o honynt y bydd hi yn wraig, canys y saith a’i cawsant hi yn wraig?
24
Dywedodd yr Iesu wrthynt, Onid o achos hyn yr ydych yn cyfeiliorni, am na wyddoch yr ysgrythyrau na gallu Duw?
25
Canys pan o feirw yr adgyfodant, ni wreiccant ac ni wrant, eithr y maent fel angylion yn y nefoedd.
26
Ac am y meirw, yr adgyfodir hwynt, oni ddarllenasoch yn llyfr Mosheh, yn “Y Berth,” y modd y llefarodd Duw wrtho, gan ddywedyd, “Myfi wyf Dduw Abraham, a Duw Itsaac, a Duw Iacob?”
27
Nid yw Efe Dduw’r meirw, eithr y rhai byw. Mawr-gyfeiliorni yr ydych.
28
A chan ddyfod o un o’r ysgrifenyddion Atto, wedi clywed hwynt yn ymddadleu, a chan wybod mai da yr attebodd Efe iddynt, gofynodd Iddo, Pa un yw’r gorchymyn cyntaf o’r cwbl?
29
Attebodd yr Iesu, Y cyntaf yw, “Clyw, Israel; Iehofah ein Duw, un Iehofah yw;
30
a cheri Iehofah dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl feddwl, ac â’th holl nerth.”
31
Yr ail yw hwn, “Ceri dy gymmydog fel ti dy hun.” Gorchymyn arall mwy na’r rhai hyn nid oes.
32
A dywedodd yr ysgrifenydd Wrtho, Da, Athraw, mewn gwirionedd y dywedaist mai un yw,
33
ac nad oes arall ond Efe: ac Ei garu Ef â’r holl galon, ac â’r holl ddeall ac â’r holl nerth; a charu ei gymmydog fel ef ei hun, llawer iawn mwy yw na’r holl losgoffrymmau ac aberthau.
34
A’r Iesu, gan weled mai yn synhwyrol yr attebodd efe, a ddywedodd wrtho, Nid pell yr wyt oddiwrth deyrnas Dduw. Ac ni feiddiodd neb, ddim mwyach, ymofyn ag Ef.
35
A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd, pan yn dysgu yn y deml, Pa fodd y dywaid yr ysgrifenyddion fod Crist yn fab Dafydd?
36
Dafydd ei hun a ddywaid trwy yr Yspryd Glân, “Dywedodd Iehofah wrth fy Arglwydd, Eistedd ar Fy neheulaw, Hyd oni osodwyf Dy elynion yn faingc i’th draed.”
37
Dafydd a’i geilw “yn Arglwydd;” a pha sut mai Mab iddo yw? A’r dyrfa fawr a’i clywodd Ef gydag hyfrydwch.
38
Ac yn Ei ddysgad dywedodd, Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, y rhai a garant rodio mewn gwisgoedd llaesion,
39
a chyfarchiadau yn y marchnadoedd, a phrif-gadeiriau yn y sunagogau, a’r prif-ledorweddleoedd yn y gwleddoedd;
40
y rhai sy’n llwyr-fwytta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir-weddïo; y rhai hyn a dderbyniant gondemniad gorlawnach.
41
Ac wrth eistedd gyferbyn â’r drysorfa, edrychai pa fodd yr oedd y dyrfa yn bwrw arian i’r drysorfa, a llawer o oludogion a fwriasant lawer;
42
ac wedi dyfod o ryw weddw dlawd, bwriodd ddwy hatling, yr hyn yw ffyrling.
43
Ac wedi galw ei ddisgyblion Atto, dywedodd wrthynt, Yn wir y dywedaf wrthych, Y weddw dlawd hon a fwriodd fwy na’r holl rai a fwriasant i’r drysorfa,
44
canys pawb o honynt hwy, o’u gorlawnder y bwriasant, ond hyhi o’i heisieu a fwriodd gymmaint ag oedd ganddi, ei holl fywyd.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16