bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Mark 13
Mark 13
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 14 →
1
Ac wrth fyned o Hono allan o’r deml, dywedodd un o’i ddisgyblion Wrtho, Athraw, wele, pa ryw feini, a pha ryw adeiladau sydd yma.
2
A’r Iesu a ddywedodd wrtho, A weli di yr adeiladau mawrion hyn? Ni adewir yma, er dim, faen ar faen, yr hwn ni ddattodir.
3
Ac wrth eistedd o Hono ar fynydd yr Olewydd cyferbyn â’r deml, gofynodd Petr ac Iago ac Ioan ac Andreas Iddo o’r neilldu,
4
Dywaid wrthym pa bryd y bydd y pethau hyn, a pha beth fydd yr arwydd pan fydd y pethau hyn ar fedr eu cyflawni.
5
A’r Iesu a ddechreuodd ddywedyd wrthynt, Edrychwch na fo i neb eich arwain chwi ar gyfeiliorn.
6
Llawer a ddeuant yn Fy enw I, gan ddywedyd, Myfi yw Efe; a llaweroedd a arweiniant hwy ar gyfeiliorn.
7
A phan glywoch am ryfeloedd, a son am ryfeloedd, na chyffroer chwi: y mae rhaid iddynt ddigwydd; eithr nid etto y mae’r diwedd;
8
canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: bydd daeargrynfaau mewn mannau: bydd newynau: dechreuad gwewyr yw y pethau hyn.
9
Ond edrychwch chwi attoch eich hunain, canys traddodant chwi i’r cynghorau; ac yn y sunagogau y’ ch baeddir; a cher bron rhaglawiaid a brenhinoedd y sefwch o’m hachos I, yn dystiolaeth iddynt.
10
Ac i’r holl genhedloedd y mae rhaid yn gyntaf i’r Efengyl gael ei phregethu.
11
A phan ddygant chwi, gan eich traddodi, na rag-bryderwch pa beth a lefaroch; eithr pa beth bynnag a rodder i chwi yn yr awr honno, hyny llefarwch, canys nid chwychwi sy’n llefaru, eithr yr Yspryd Glân.
12
A thraddoda brawd frawd i farwolaeth, a thad blentyn; a chyfyd plant yn erbyn rhieni, a pharant eu marwolaethu;
13
a byddwch gâs gan bawb o achos Fy enw I; ond y neb a barhao hyd y diwedd, hwnw fydd gadwedig.
14
A phan weloch “ffieidd-dra yr anghyfanedd-dra” yn sefyll lle na ddylai (y neb sy’n darllen, dealled), yna bydded i’r rhai sydd yn Iwdea, ffoi i’r mynyddoedd;
15
a’r hwn ar ben y tŷ, na ddisgyned, ac nac aed i gymmeryd dim o’i dŷ;
16
a’r hwn yn y maes, na throed yn ei ol i gymmeryd ei gochl;
17
a gwae y rhai beichiog, a’r rhai yn rhoi bronnau yn y dyddiau hyny;
18
a gweddïwch na ddigwyddo yn y gauaf; canys bydd y dyddiau hyny yn orthrymder,
19
y fath na fu’r cyfryw o ddechreu y greadigaeth a greodd Duw, hyd yn hyn,
20
ac na fydd ddim: ac oddieithr i’r Arglwydd dalfyru’r dyddiau, ni chadwesid un cnawd; eithr o achos yr etholedigion a etholodd, talfyrodd y dyddiau.
21
Ac yr amser hwnw, os wrthych chwi y dywaid neb, Wele, llyma y Crist,
22
neu, Wele, accw, na chredwch, canys cyfyd gau-gristiau a gau-brophwydi, a rhoddant arwyddion a rhyfeddodau, i arwain ar gyfeiliorn, o bai bosibl, yr etholedigion;
23
ond chwychwi, edrychwch; wele, rhagddywedais i chwi bob peth.
24
Eithr yn y dyddiau hyny, wedi’r gorthrymder hwnw, yr haul a dywyllir,
25
a’r lloer ni rydd ei goleuni, a’r sêr fyddant yn syrthio o’r nef; a’r nerthoedd y sydd yn y nefoedd a siglir;
26
ac yna y gwelant Fab y Dyn yn dyfod mewn cymmylau, ynghyda gallu mawr a gogoniant;
27
ac yna y denfyn Efe yr angylion, ac a gydgasgl Atto Ei etholedigion o’r pedwar gwynt, o eithaf y ddaear hyd eithaf y nef.
28
Ond oddiwrth y ffigysbren dysgwch ei ddammeg. Pan fo ei gangen ef wedi myned yn dyner, ac yn rhoddi allan ei ddail, gwyddoch mai agos yw’r haf;
29
felly chwithau hefyd, pan weloch y pethau hyn yn digwydd, gwybyddwch mai agos yw, wrth y drysau.
30
Yn wir y dywedaf wrthych, Nid aiff y genhedlaeth hon ddim heibio hyd oni bydd i’r pethau hyn oll ddigwydd.
31
Y nef a’r ddaear a ant heibio, ond y geiriau mau Fi nid ant heibio ddim.
32
Ond am y y dydd hwnw, neu yr awr, nid oes neb a ŵyr, nac yr angylion yn y nef, nac y Mab, na neb oddieithr y Tad.
33
Edrychwch, gwyliwch, a gweddïwch; canys ni wyddoch pa bryd y bydd yr amser.
34
Fel gŵr yn ymdaith mewn gwlad ddieithr, wedi gadael ei dŷ, a rhoddi i’w weision awdurdod, i bob un ei waith, ac i’r drysawr y gorchymynodd wylied.
35
Gwyliwch, gan hyny, canys ni wyddoch pa bryd y mae arglwydd y tŷ yn dyfod, ai yn yr hwyr, ai hanner nos, neu ar ganiad y ceiliog, neu’r boreuddydd;
36
rhag wrth ddyfod o hono yn ddisymmwth, y caffo chwi yn cysgu.
37
A’r hyn yr wyf yn ei ddywedyd wrthych chwi, wrth bawb yr wyf yn ei ddywedyd, “Gwyliwch.”
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16