bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Mark 7
Mark 7
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 8 →
1
Ac ymgasglodd Atto y Pharisheaid a rhai o’r ysgrifenyddion,
2
wedi dyfod o Ierwshalem: ac wedi gweled rhai o’i ddisgyblion Ef mai â dwylaw cyffredin (hyny yw, heb eu golchi),
3
y bwyttaent eu bwyd, (canys y Pharisheaid a’r holl Iuddewon, oni ddyfal-olchant eu dwylaw, ni fwyttant,
4
gan ddal traddodiad yr hynafiaid: a phan o’r farchnad y deuant, onid ymolchant ni fwyttant; a llawer peth arall sydd a gymmerasant i’w cadw, golchiad cwppanau ac ystenau ac efyddynau;)
5
gofynodd y Pharisheaid a’r ysgrifenyddion Iddo, Paham nad yw Dy ddisgyblion yn rhodio yn ol traddodiad yr hynafiaid, ond â dwylaw cyffredin y bwyttant eu bara?
6
Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Da y prophwydodd Eshaiah am danoch chwi y rhagrithwyr, fel yr ysgrifenwyd, “Y bobl hyn, â’u gwefusau yr anrhydeddant Fi, Ond eu calon, pell yw Oddiwrthyf;
7
Ond yn ofer yr addolant Fi, Gan ddysgu yn athrawiaethau orchymynion dynion.”
8
Gan adael heibio orchymyn Duw, dal yr ydych draddodiad dynion.
9
A dywedodd wrthynt, Gwych y diystyrwch orchymyn Duw, fel mai eich traddodiad a gadwoch;
10
canys Mosheh a ddywedodd, “Anrhydedda dy dad a’th fam,” ac, “Yr hwn a felldithio ei dad neu ei fam, â marwolaeth bydded iddo farw.”
11
Ond chwychwi a ddywedwch, Os dywaid dyn wrth ei dad neu ei fam, Corban (yr hwn yw Rhodd) yw pa beth bynnag y buasai i ti gael lles trwyddo oddiwrthyf,
12
nid ydych mwyach yn gadael iddo wneuthur dim byd i’w dad neu i’w fam,
13
gan ddirymmu Gair Duw â’ch traddodiad, yr hwn a draddodasoch. A chyffelyb bethau o’r un fath, llawer o honynt yr ydych yn eu gwneuthur.
14
Ac wedi galw Atto y dyrfa drachefn, dywedodd wrthynt, Gwrandewch Arnaf, bawb, a deallwch.
15
Nid oes dim gan fyned o’r tu allan i ddyn i’r tu mewn iddo, a all ei halogi ef; eithr y pethau sy’n dyfod allan yw’r rhai sy’n halogi’r dyn.
17
A phan aeth i mewn i dŷ oddiwrth y dyrfa, gofynodd Ei ddisgyblion Iddo am y ddammeg;
18
a dywedodd wrthynt, A ydych chwithau hefyd mor ddiddeall? Oni ddeallwch am bob peth sy’n myned o’r tu allan i’r tu mewn i’r dyn,
19
na all efe ei halogi ef, gan nad yw yn myned i mewn i’r galon, eithr i’r bol, ac i’r geudy y mae yn myned allan; gan lanhau o hono yr holl fwydydd?
20
A dywedodd, Yr hyn y sy’n dyfod allan o ddyn, hyny sydd yn halogi’r dyn;
21
canys oddi mewn, allan o galon dynion, y mae meddyliau drwg yn dyfod allan, putteindra,
22
lladradau, llofruddiaethau, tor-priodasau, cybydd-dod, drygioni, twyll, anlladrwydd, drwg-lygad, cableddau, balchder, ynfydrwydd;
23
yr holl bethau drwg hyn, oddi mewn y deuant allan, ac halogant y dyn.
24
Ac oddiyno, ar ol cyfodi, yr aeth ymaith i gyffiniau Tyrus a Tsidon; ac wedi myned i mewn i dŷ, ewyllysiodd na fyddai i neb wybod;
25
ac ni allai fod yn guddiedig; eithr yn uniawn, wedi clywed am Dano gan wraig, merch fechan yr hon oedd ag yspryd aflan ynddi, wedi dyfod o honi syrthiodd wrth Ei draed Ef.
26
Ac yr oedd y wraig yn Roeges, Surophenesiad o genedl; a gofynodd Iddo fwrw’r cythraul allan o’i merch.
27
A dywedodd Efe wrthi, Gad yn gyntaf y digoner y plant, canys nid da yw cymmeryd bara’r plant a’ i daflu i’r cenawon cwn.
28
A hithau a attebodd ac a ddywedodd Wrtho, Felly, Arglwydd; ac y cenawon cwn, tan y bwrdd, a fwyttant o friwsion y plant.
29
A dywedodd Efe wrthi, Am y gair hwn, dos ymaith; aeth y cythraul allan o’th ferch di.
30
Ac wedi myned ymaith i’w thŷ, cafodd y plentyn wedi ei bwrw ar y gwely, a’r cythraul wedi myned allan.
31
Ac wedi myned allan trachefn o gyffiniau Tyrus, daeth trwy Tsidon at fôr Galilea, trwy ganol cyffiniau Decapolis.
32
A dygasant Atto ddyn byddar ac attal dywedyd arno; ac attolygasant Iddo ddodi arno Ei law.
33
Ac wedi ei gymmeryd ef allan o’r dyrfa, o’r neilldu, rhoddodd Ei fysedd yn ei glustiau ef; ac, wedi poeri o Hono, cyffyrddodd â’i dafod ef;
34
a chan edrych i fynu i’r nef, ocheneidiodd,
35
a dywedodd wrtho, Ethpatach, yr hyn yw, Agorer di: ac agorwyd ei glustiau ef, gollyngwyd rhwym ei dafod, a llefarodd efe yn iawn.
36
A gorchymynodd Efe iddynt na ddywedent wrth neb; ond po mwyaf y gorchymynodd Efe iddynt, mwy dros ben y cyhoeddasant;
37
a bu aruthr dros ben ganddynt, gan ddywedyd, Da y gwnaeth Efe bob peth; a gwneud y mae i’r byddariaid glywed ac i’r mudion lefaru.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16