bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Mark 11
Mark 11
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 12 →
1
A phan nesaent i Ierwshalem, i Bethphage a Bethania, at fynydd yr Olewydd, danfonodd ddau o’i ddisgyblion,
2
a dywedodd wrthynt, Ewch ymaith i’r pentref y sydd gyferbyn â chwi; ac yn uniawn wrth fyned i mewn cewch ebol wedi ei rwymo, ar yr hwn nid oes neb o ddynion etto wedi eistedd; gollyngwch ef, a deuwch ag ef yma.
3
Ac os bydd i neb ddywedyd wrthych, Paham y gwnewch hyn? dywedwch, Yr Arglwydd sydd a rhaid wrtho: ac yn uniawn y denfyn efe ef, yn ol, yma.
4
Ac aethant ymaith, a chawsant ebol wedi ei rwymo wrth y drws, oddi allan, yn y groesffordd, a gollyngasant ef.
5
A rhai o’r rhai oedd yn sefyll yno a ddywedasant wrthynt, Pa beth a wnewch yn gollwng yr ebol?
6
A hwy a ddywedasant wrthynt fel y dywedasai’r Iesu; a gadawsant iddynt fyned ymaith.
7
A daethant a’r ebol at yr Iesu, a bwriasant eu cochlau arno; ac eisteddodd Efe arno.
8
A llawer a danasant eu cochlau ar y ffordd; ac eraill gangau, y rhai a dorrasant, o’r wlad.
9
A’r rhai yn myned o’r blaen, a’r rhai yn canlyn, a waeddasant, Hosanna! Bendigedig yw’r Hwn sy’n dyfod yn enw’r Arglwydd;
10
Bendigedig yw’r deyrnas sy’n dyfod, teyrnas ein tad Dafydd! Hosanna yn y goruchafion.
11
Ac aeth i mewn i Ierwshalem, i’r deml; ac wedi edrych ar bob peth o’i amgylch, a’r awr weithian yn hwyr, aeth allan i Bethania ynghyda’r deuddeg.
12
A thrannoeth, wedi myned allan o honynt o Bethania, chwant bwyd fu Arno.
13
Ac wedi gweled ffigysbren o hirbell, a dail arno, daeth i edrych a gaffai ysgatfydd rywbeth arno: ac wedi dyfod atto, ni chafodd ddim oddieithr dail, canys nid oedd amser ffigys.
14
A chan atteb, dywedodd wrtho, Ddim mwy, oddi arnat ti, am byth, na fydded i neb fwytta ffrwyth; a chlywed yr oedd Ei ddisgyblion.
15
A daethant i Ierwshalem; ac wedi myned i mewn i’r deml, dechreuodd fwrw allan y rhai a werthent ac y rhai a brynent yn y deml; a byrddau y newidwyr arian, a chadeiriau y rhai yn gwerthu’r colommenod, a ddymchwelodd Efe;
16
ac ni adawai i neb ddwyn llestr trwy’r deml:
17
a dysgu yr oedd Efe, a dywedodd wrthynt, Onid ysgrifenwyd, “Fy nhŷ I, tŷ gweddi y gelwir ef i’r holl genhedloedd;”
18
a chwi a’i gwnaethoch yn ogof lladron. A chlywodd yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion; a cheisiasant pa fodd y difethent Ef, canys ofnent Ef, canys bu aruthr gan yr holl dyrfa o herwydd Ei ddysgad.
19
A phan yr oedd yr hwyr wedi dyfod, aeth allan o’r ddinas.
20
Ac wrth fyned heibio yn y bore, gwelsant y ffigysbren wedi crino o’ r gwraidd:
21
ac wedi adgofio o hono, Petr a ddywedodd Wrtho, Rabbi, wele, y ffigysbren yr hwn a felldithiaist, a grinodd.
22
A chan atteb, yr Iesu y ddywed-wedodd wythynt, Bydded genych ffydd yn Nuw.
23
Yn wir y dywedaf wrthych, Pwy bynnag a ddywedo wrth y mynydd hwn, Cymmerer di i fynu a’th fwrw i’r môr, ac nad ammeuo yn ei galon, eithr a gredo y bydd i’r hyn a ddywaid efe ddigwydd, bydd iddo.
24
O achos hyn y dywedaf wrthych, Pob peth, cynnifer ag y gweddïwch ac y gofynwch am dano, credwch y derbyniasoch, a byddant i chwi.
25
A phan safoch dan weddïo, maddeuwch o bydd genych ddim yn erbyn neb, fel y bo i’ch Tad yr Hwn sydd yn y nefoedd, faddeu i chwi eich camweddau.
27
A daethant drachefn i Ierwshalem. Ac yn y deml, ac Efe yn rhodio yno, daeth Atto yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a’r henuriaid,
28
a dywedasant Wrtho, Trwy ba awdurdod y mae’r pethau hyn a wnai? Neu, pwy a roddes i Ti yr awdurdod hon fel mai’r pethau hyn a wnait?
29
A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Gofynaf i chwi un gair; ac attebwch Fi, a dywedaf wrthych, Trwy ba awdurdod mai’r pethau hyn a wnaf?
30
Bedydd Ioan, ai o’r nef yr oedd, neu o ddynion?
31
Attebwch Fi. Ac ymresymmasant â’u gilydd gan ddywedyd, Os dywedwn O’r nef, dywaid Efe wrthym, Paham, gan hyny, na chredasoch ef?
32
Eithr os dywedwn O ddynion, ofnent y bobl, canys pawb a gyfrifent Ioan mai prophwyd yn wir ydoedd.
33
A chan atteb i’r Iesu, dywedasant, Nis gwyddom. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid wyf Finnau chwaith yn dywedyd i chwi “Trwy ba awdurdod” y pethau hyn yr wyf yn eu gwneuthur.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16