bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Mark 2
Mark 2
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 3 →
1
Ac wedi myned trachefn i Caphernahwm wedi rhai dyddiau, clybuwyd Ei fod mewn tŷ;
2
a chydymgasglodd llawer, fel na chynnwysai bellach hyd yn oed hyd at y drws mo honynt; a llefarodd Efe y Gair wrthynt.
3
A daethant, gan ddwyn Atto ddyn claf o’r parlys, yr hwn a ddygid gan bedwar:
4
a chan na allent nesau Atto o achos y dyrfa, didoi y tô a wnaethant lle’r oedd Efe; ac wedi torri trwodd, gollyngasant i wared y gorwedd-beth ar yr hwn yr oedd y claf o’r parlys yn gorwedd.
5
A chan weled o’r Iesu eu ffydd hwynt, dywedodd wrth y claf o’r parlys, Ha fab, maddeuwyd dy bechodau di.
6
Ac yr oedd rhai o’r ysgrifenyddion yno, yn eistedd ac yn ymresymmu yn eu calonau, Paham y mae hwn yn llefaru fel hyn?
7
Cablu y mae. Pwy all faddeu pechodau oddieithr Un, sef Duw?
8
Ac yn uniawn, gan weled o’r Iesu yn Ei yspryd mai felly yr ymresymment ynddynt eu hunain, dywedodd wrthynt, Paham y mae’r ymresymmiadau hyn genych yn eich calonau?
9
Pa un sydd hawsaf, ai dywedyd wrth y claf o’r parlys, “Maddeuwyd dy bechodau,” neu ddywedyd, “Cyfod, a chymmer i fynu dy orweddfa, a rhodia?”
10
Ond fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y Dyn, ar y ddaear i faddeu pechodau, (dywedodd wrth y claf o’r parlys) Wrthyt ti y dywedaf,
11
Cyfod, cymmer i fynu dy orweddfa, a dos i’th dŷ.
12
A chyfododd efe; ac yn uniawn wedi cymmeryd i fynu ei orweddfa, yr aeth allan yngwydd pawb, fel y synnodd pawb, ac y gogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, nis gwelsom erioed fel hyn.
13
Ac aeth allan drachefn wrth lan y môr: a’r holl dyrfa a ddaeth Atto, a dysgodd Efe hwynt.
14
Ac wrth fyned heibio gwelodd Lefi fab Alphëus, yn ei eistedd wrth y dollfa, a dywedodd wrtho, Canlyn Fi; ac wedi codi o hono, canlynodd Ef.
15
A bu lled-orwedd o Hono wrth y ford yn ei dŷ ef, a llawer o dreth-gymmerwyr a phechaduriaid a led-orweddent ynghyda’r Iesu a’i ddisgyblion, canys yr oedd llawer o honynt, a chanlynent Ef.
16
Ac ysgrifenyddion y Pharisheaid, yn gweled Ei fod yn bwytta ynghyda’r pechaduriaid a threth-gymmerwyr, a ddywedasant wrth Ei ddisgyblion, Ynghyda threth-gymmerwyr a phechaduriaid y bwytty ac yr yf Efe.
17
Ac wedi clywed hyn, yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid oes rhaid i’r rhai iach wrth feddyg; eithr i’r rhai drwg eu hwyl. Ni ddaethum i alw cyfiawnion, eithr pechaduriaid.
18
A byddai disgyblion Ioan, ac y Pharisheaid, yn ymprydio: a daethant a dywedasant Wrtho, Paham y mae disgyblion Ioan, a disgyblion y Pharisheaid yn ymprydio, ond Dy ddisgyblion Di nid ymprydiant?
19
A dywedodd yr Iesu wrthynt, A all meibion yr ystafell briodas, tra ynghyda hwynt y mae’r priodas-fab, ymprydio? Cymmaint amser ag y mae ganddynt y priodas-fab ynghyda hwynt,
20
ni allant ymprydio: ond daw’r dyddiau pan ddygir y priodas-fab ymaith oddi wrthynt, ac yna yr ymprydiant yn y dydd hwnw.
21
Nid oes neb yn gwnio darn o frethyn heb ei bannu at gochl hen: onite, cymmer y cyflawniad oddiwrtho, y newydd oddiwrth yr hen, a rhwyg gwaeth a wneir.
22
Ac nid oes neb yn dodi gwin newydd mewn costrelau hen; onite, tyr y gwin y costrelau, ac am y gwin y derfydd, ac am y costrelau: eithr gwin newydd i gostrelau crai.
23
A bu Ei fod ar y Sabbath yn myned trwy’r maesydd yd, a dechreuodd Ei ddisgyblion ymdaith gan dynu’r tywys;
24
a’r Pharisheaid a ddywedasant Wrtho, Wele, Paham y gwnant ar y Sabbath yr hyn nid yw gyfreithlawn?
25
A dywedodd Efe wrthynt, Oni fu i chwi erioed ddarllen pa beth a wnaeth Dafydd pan yr oedd angen a chwant bwyd arno, efe a’r rhai gydag ef?
26
Y modd yr aeth i mewn i dŷ Dduw yn amser Abiathar yr archoffeiriad, a bara’r gosod ger bron a fwyttaodd efe, y rhai nid yw gyfreithlawn eu bwytta oddieithr i’r offeiriaid, ac y rhoddes hefyd i’r rhai oedd gydag ef.
27
A dywedodd wrthynt, Y Sabbath, o achos dyn y’i gwnaethpwyd, ac nid dyn o achos y Sabbath,
28
fel mai Arglwydd yw Mab y Dyn hyd yn oed ar y Sabbath.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16