bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Mark 1
Mark 1
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 2 →
1
Dechreu Efengyl Iesu Grist, Fab Duw: fel y mae yn ysgrifenedig yn Esaiah y Proffwyd, — Wele, yr wyf yn anfon fy nghenad o flaen dy wyneb, Yr hwn a barotöa dy ffordd.
3
Llef un yn llefain, — Yn y diffaethwch parotowch ffordd yr Arglwydd: Gwnewch yn uniawn ei lwybrau ef.
4
Daeth Ioan Fedyddiwr yn y diffaethwch, gan bregethu bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau.
5
Ac aeth allan ato ef holl wlad Judea, a hwy oll o Jerusalem; a hwy a fedyddiwyd ganddo yn afon yr Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau.
6
Ac Ioan oedd wedi ei wisgo a blew camel, a gwregys o groen o gylch ei lwynau, ac yn bwyta locustiaid a mêl gwyllt.
7
Ac efe a bregethodd, gan ddywedyd, Y mae yn dyfod ar fy ol i un cryfach na myfi, carrai esgidiau yr hwn nid wyf deilwng i ymostwng a'i dattod.
8
Myfi a'ch bedyddiais chwi mewn dwfr; eithr efe a'ch bedyddia chwi yn yr Yspryd Glân.
9
A bu yn y dyddiau hyny, ddyfod o'r Iesu o Nazareth yn Galilea, ac efe a fedyddiwyd gan Ioan yn yr Iorddonen.
10
Ac yn ebrwydd wrth ddyfod i fyny allan o'r dwfr, efe a welodd y Nefoedd wedi ei rhwygo, a'r Yspryd fel colomen yn disgyn tu ag ato ef.
11
A llef a ddaeth o'r Nefoedd, Tydi yw fy anwyl Fab, ynot ti y'm boddlonwyd.
12
Ac yn ebrwydd y mae yr Yspryd yn ei yru ef allan i'r Diffaethwch:
13
Ac efe a fu yn y Diffaethwch ddeugain niwrnod yn cael ei demtio gan Satan; ac yr oedd efe gyda y gwylltfilod; a'r Angelion a weiniasent iddo.
14
Ac ar ol traddodi Ioan, yr Iesu a ddaeth i Galilea, gan bregethu Efengyl Duw,
15
a dywedyd, Y mae yr amser wedi ei gyflawnu, ac y mae Teyrnas Dduw wedi neshâu: Edifarhewch, a chredwch yr Efengyl.
16
Ac wrth fyned heibio ar làn Môr Galilea, efe a welodd Simon, ac Andreas brawd Simon, yn bwrw rhwyd yn y môr: canys pysgodwyr oeddynt.
17
A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Deuwch ar fy ol i, a mi a'ch gwnaf i fod yn bysgodwyr dynion.
18
Ac yn ebrwydd gan adael y rhwydau, y canlynasant ef.
19
Ac wedi iddo fyned rhagddo ychydig, efe a welodd Iago, Mab Zebedëus, ac Ioan ei frawd ef, a hwy yn y cwch yn cyweirio y rhwydau.
20
Ac yn ebrwydd efe a'u galwodd hwynt: a hwy a adawsant eu tâd Zebedëus yn y cwch gyda'r cyflog‐weision, ac a aethant ar ei ol ef.
21
Ac y maent yn myned i mewn i Capernäum: ac yn ebrwydd ar y Sabbath efe a aeth i mewn i'r Synagog, ac a ddysgodd.
22
A hwy a darawyd a syndod wrth ei ddysgeidiaeth ef: canys yr oedd efe yn eu dysgu hwynt fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr Ysgrifenyddion.
23
Ac yn ebrwydd yr oedd yn eu Synagog ddyn gyd ag yspryd aflan; ac efe a lefodd,
24
gan ddywedyd, Beth sydd i ni a wnelom â thi, Iesu o Nazareth? A ddaethost ti i'n dyfetha ni? mi a'th adwaen pwy ydwyt, Sanct Duw.
25
A'r Iesu a'i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Taw, a dos allan o hono.
26
Yna wedi i'r yspryd aflan ei daflu i bangfeydd, a gwaeddi a llef uchel, efe a ddaeth allan o hono.
27
A hwy a synasant oll, fel yr ymofynasant yn eu mysg eu hunain, Pa beth yw hyn? Dysgeidiaeth newydd! gyd ag awdurdod y mae efe yn gorchymyn hyd y nod yr ysprydion aflan, a hwy a ufuddhant iddo.
28
Ac yn ebrwydd yr aeth allan sôn am dano yn mhob man dros yr holl wlad o amgylch Galilea.
29
Ac yn ebrwydd wedi iddynt ddyfod allan o'r Synagog hwy a ddaethant i dy Simon ac Andreas gyd ag Iago ac Ioan.
30
Ac yr oedd chwegr Simon yn gorwedd yn glaf o dwymyn; ac yn ebrwydd y dywedesant wrtho am dani hi.
31
Ac efe a ddaeth ac a'i cododd hi i fyny, gan ymaflyd yn ei llaw hi; a'r dwymyn a'i gadawodd, a hi a wasanaethodd arnynt hwy.
32
Ac wedi iddi hwyrhâu, pan fachludodd yr haul, hwy a ddygasant ato ef yr holl gleifion, a'r rhai a feddianid gan gythreuliaid.
33
A'r holl Ddinas oedd wedi ymgasglu at eu gilydd wrth y drws.
34
Ac efe a iachaodd lawer oeddynt gleifion o amrywiol glefydau, ac a fwriodd allan lawer o gythreuliaid, ac ni chaniataodd i'r cythreuliaid lefaru, oblegyd yr oeddynt yn ei adwaen ef.
35
Ac yn fore, yn hir cyn iddi wawrio, efe a ddaeth allan, ac a aeth i le annghyfanedd, ac yno yr oedd efe yn gweddio.
36
A Simon, a'r rhai oedd gyd ag ef a ddylynasant yn ddyfal ar ei ol ef,
37
ac a'i cawsant ef, ac a ddywedasant wrtho, Y mae pawb yn dy geisio.
38
Ac efe a ddywed wrthynt, Awn i leoedd eraill, i'r trefi cymydogaethol, fel y pregethwyf yno hefyd: canys i hyny y daethum allan.
39
Ac efe a aeth i'w Synagogau hwynt, trwy holl Galilea, gan bregethu a bwrw allan gythreuliaid.
40
Ac y mae yn dyfod ato un gwahan‐glwyfus, gan ymbil ag ef, [a syrthio ar ei liniau iddo], a dywedyd wrtho, Os myni, ti a elli fy nghlanhâu.
41
A chan dosturio, efe a estynodd ei law, a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywed wrtho, Mynaf, bydd lân.
42
Ac yn ebrwydd yr ymadawodd y gwahan‐glwyf ag ef, a glanhâwyd ef.
43
Ac wedi gorchymyn yn ddifrifol iddo, efe a'i hanfonodd ef ymaith yn ebrwydd, ac a ddywed wrtho,
44
Gwel na ddywedych ddim wrth neb: eithr dos ymaith: dangos dy hun i'r offeiriad, ac offryma am dy lanhâd y pethau a orchymynodd Moses, er tystiolaeth iddynt hwy.
45
Eithr efe a aeth allan, ac a ddechreuodd gyhoeddi llawer a thaenu y gair ar led, fel na allai efe mwyach fyned yn amlwg i ddinas; eithr yr oedd efe y tu allan mewn lleoedd annghyfanedd; ac yr oeddynt yn dyfod ato efe o bob parth.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16