bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Mark 8
Mark 8
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 9 →
1
Yn y dyddiau hyny, pan yr oedd drachefn dyrfa fawr, ac heb ganddynt ddim i'w fwyta, efe a alwodd y Dysgyblion ato,
2
ac a ddywed, Yr wyf yn tosturio wrth y dyrfa, oblegyd y maent hwy dridiau weithian yn glynu wrthyf, ac nid oes ganddynt beth i'w fwyta:
3
ac os gollyngaf hwynt ymaith heb fwyd i'w cartref‐leoedd, hwy a ddiffygiant ar y ffordd; ac y mae rhai o honynt wedi dyfod o bell.
4
A'i Ddysgyblion ef a'i hatebasant, O ba le y gall neb ddigoni y rhai hyn â bara yma mewn lle anghyfanedd?
5
Ac efe a ofynodd iddynt, Pa sawl torth sydd genych? A hwy a ddywedasant, Saith.
6
Ac y mae efe yn gorchymyn i'r dyrfa eistedd ar y ddaear: ac a gymmerodd y saith torth, ac wedi diolch, efe a'u torodd, ac a'u rhoddodd i'r Dysgyblion i'w gosod ger eu bron; a hwy a'u gosodasant ger bron y dyrfa.
7
Ac yr oedd ganddynt ychydig bysgod bychain: ac wedi iddo fendithio y cyfryw, efe a ddywedodd i osod y rhai hyn hefyd ger eu bron.
8
A hwy a fwytasant, ac a ddigonwyd, ac a godasant weddill o'r briwfwyd, saith cawellaid.
9
Ac yr oeddynt ynghylch pedair mil; ac efe a'u gollyngodd hwynt ymaith.
10
Ac yn ebrwydd wedi iddo fyned i gwch gyda'i Ddysgyblion, efe a ddaeth i barthau Dalmanutha.
11
A'r Phariseaid a ddaethant allan, ac a ddechreuasant ymddadleu âg ef, gan geisio ganddo arwydd o'r Nef, gan ei demtio.
12
Ac efe a ocheneidiodd yn ei yspryd, ac a ddywed, Paham y mae y genedlaeth hon yn ceisio arwydd? Yn wir meddaf i chwi, Ni roddir arwydd i'r genedlaeth hon.
13
Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth drachefn [i'r cwch], ac a ymadawodd i'r lan arall.
14
A hwy a anghofiasant gymmeryd bara, ac nid oedd ganddynt ond un dorth gyda hwynt yn y cwch.
15
Ac efe a orchymynodd iddynt, gan ddywedyd, Edrychwch, ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid, a surdoes Herod.
16
Ac yr oeddynt yn ymresymu wrth eu gilydd, Y mae hyn am nad oes ganddynt fara.
17
A'r Iesu pan wybu, a ddywed wrthynt, Paham yr ymresymwch, mai am nad oes genych fara y lleferais? Onid ydych chwi eto yn amgyffred, nac yn deall? A ydyw eich calon wedi caledu? Ac onid ydych yn cofio?
18
A chenych lygaid, oni welwch? A chenych glustiau, oni chlywch?
19
Pan dorais y pum torth i'r pum mil, pa sawl basgedaid yn llawn o friwsion a godasoch i fyny? (6:43). Dywedant wrtho, Deuddeg.
20
Pan y saith i'r pedair mil, pa sawl cawellaid o friwfwyd a godasoch i fyny? [[8:8]] A hwy a ddywedasant, Saith.
21
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ai nid ydych eto yn deall?
22
Ac y maent yn dyfod i Bethsaida; ac y maent yn dwyn ato un dall, ac yn deisyf arno ar iddo gyffwrdd âg ef.
23
Ac efe a afaelodd yn llaw y dall, ac a'i dygodd ef allan o'r pentref; ac wedi iddo boeri ar ei lygaid ef, a gosod ei ddwylaw arno, efe a ofynodd iddo, A weli di ddim?
24
Ac wedi edrych i fyny, efe a ddywedodd, yr wyf yn gweled y dynion: canys yr wyf yn eu canfod fel prenau yn rhodio o amgylch.
25
Yna drachefn y gosododd efe ei ddwylaw ar ei lygaid, ac efe a edrychodd yn ddiysgog, ac a adferwyd, ac efe a welai bob peth yn eglur o bell.
26
Ac efe a'i hanfonodd ef ymaith i'w gartref, gan ddywedyd, Na â i mewn hyd y nod i'r pentref, ac na ddywed i neb yn y pentref.
27
A'r Iesu a aeth allan, efe a'i Ddysgyblion, i bentrefi Cesarea Philippi: ac ar y ffordd efe a ofynodd i'w Ddysgyblion, gan ddywedyd, Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i?
28
A hwy a ddywedasant iddo, gan ddywedyd, Ioan Fedyddiwr; ac eraill, Elias; ond eraill, un o'r Proffwydi.
29
Ac efe a ofynodd iddynt, Ond pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod i? Petr a atebodd iddo, Ti yw y Crist.
30
Ac efe a orchymynodd iddynt na ddywedent i neb am dano.
31
Ac efe a ddechreuodd eu dysgu hwynt, fod yn rhaid i Fab y Dyn ddyoddef llawer, a'i wrthod gan yr Henuriaid, a'r Arch‐offeiriaid, a'r Ysgrifenyddion, a'i ladd, ac wedi tridiau adgyfodi.
32
Ac yn eglur y llefarodd efe yr ymadrodd. A Phetr a'i cymmerodd o'r neilldu, ac a ddechreuodd ei geryddu ef.
33
Eithr wedi iddo droi, a gweled ei Ddysgyblion, efe a geryddodd Petr, ac a ddywed, Dos ymaith yn fy ol i, Satan; canys nid ydwyt yn synied y pethau sydd o Dduw, ond y pethau sydd o ddynion.
34
Ac efe a alwodd ato y dyrfa, gyda'i Ddysgyblion, ac a ddywedodd wrthynt, Os ewyllysia neb ganlyn ar fy ol i, ymwaded âg ef ei hun, a chyfoded ei groes i fyny, a dylyned fi.
35
Canys pwy bynag a ewyllysio gadw ei einioes, a'i cyll hi; eithr pwy bynag a gollo ei einioes er fy mwyn i a'r Efengyl, efe a'i ceidw hi.
36
Canys pa leshâd i'r dyn, pe enillai efe yr holl fyd, a fforffedu ei einioes?
37
Canys pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei einioes?
38
Canys pwy bynag a fyddo cywilydd ganddo fi a'm geiriau yn y genedlaeth odinebus a phechadurus hon, bydd cywilydd gan Fab y Dyn yntau hefyd, pan ddêl yn Ngogoniant ei Dâd, gyda'r Angelion sanctaidd.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16