bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Mark 11
Mark 11
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 12 →
1
A phan y maent yn agoshâu i Jerusalem, i Bethphage, a Bethania, at Fynydd yr Olew‐wydd, y mae efe yn danfon dau o'i Ddysgyblion,
2
ac yn dywedyd wrthynt, Ewch ymaith i'r pentref sydd gyferbyn a chwi: ac yn ebrwydd pan y deloch i mewn iddo, chwi a gewch ebol wedi ei rwymo, ar yr hwn hyd yn hyn nid oes neb wedi eistedd: gollyngwch ef yn rhydd, a dygwch ef.
3
Ac os dywed neb wrthych, Paham y gwnewch hyn? dywedwch, Y mae ar yr Arglwydd ei eisieu; ac yn ebrwydd y mae efe yn ei ddanfon yma drachefn.
4
A hwy a aethant ymaith, ac a gawsant ebol wedi ei rwymo wrth y drws oddiallan, ar y brif‐heol, ac y maent yn ei ollwng ef yn rhydd.
5
A rhai o'r rhai oedd yn sefyll yno a ddywedasant wrthynt, Beth a wnewch chwi, yn gollwng yr ebol yn rhydd?
6
A hwy a ddywedasant wrthynt fel y dywedodd yr Iesu: a hwy a adawsant iddynt.
7
Ac y maent yn dwyn yr ebol at yr Iesu, ac yn bwrw eu gwisgoedd uchaf arno; ac efe a eisteddodd arno.
8
A llawer a daenasant eu gwisgoedd uchaf ar y ffordd; ac eraill haenau o'r brigau, y rhai a dorasant o'r meusydd.
9
A'r rhai oedd yn myned o'r blaen, a'r rhai oedd yn dyfod ar ol, a lefasant, Hosanna! Bendigedig yw yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd!
10
Bendigedig yw Teyrnas ein Tâd Dafydd, yr hon sydd yn dyfod! Hosanna yn y Goruchafion.
11
Ac efe a aeth i mewn i Jerusalem, i'r Deml, ac wedi iddo edrych ar bob peth o'i amgylch, a'r awr weithian yn ddiweddar, efe a aeth allan i Bethania gyda'r Deuddeg.
12
A thranoeth, wedi iddynt fyned allan o Bethania, daeth arno chwant bwyd.
13
Ac wedi iddo ganfod o hirbell ffigysbren âg arno ddail, efe a aeth, os caffai, o ddygwydd, ryw gymmaint arno. A phan ddaeth ato, ni chafodd efe ddim ond dail: canys nid oedd dymhor ffigys.
14
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Na fwytaed neb ffrwyth o honot byth mwy. A'i Ddysgyblion oeddynt yn ei glywed ef.
15
Ac y maent yn dyfod i Jerusalem; ac wedi myned i'r Deml, efe a ddechreuodd fwrw allan y rhai oedd yn gwerthu a'r rhai oedd yn prynu; ac efe a ddymchwelodd fyrddau y cyfnewidwyr arian, a chadeiriau y gwerthwyr colomenod:
16
ac ni adawai efe i neb ddwyn llestr trwy y Deml.
17
Ac efe a'u dysgodd, ac a ddywedodd wrthynt, Onid yw yn ysgrifenedig, Gelwir fy Nhŷ i yn Dŷ Gweddi i'r holl genedloedd; ond yr ydych chwi wedi ei wneuthur ef yn Ogof Yspeilwyr.
18
A'r Arch‐offeiriaid a'r Ysgrifenyddion a glywsant, ac a geisiasant pa fodd y dyfethent ef; canys yr oeddynt yn ei ofni ef, oblegyd yr holl dyrfa a darawyd â syndod at ei ddysgeidiaeth ef.
19
A pha bryd bynag yr elai hi yn hwyr, hwy a aethant allan o'r Ddinas.
20
Ac wrth fyned heibio yn fore, hwy a welsant y ffigysbren wedi crino o'r gwraidd.
21
A Phetr, wedi adgofio, a ddywed wrtho, Rabbi, wele, y ffigysbren a felldithiaist wedi crino.
22
A'r Iesu, gan ateb, a ddywed wrthynt, Bydded genych ffydd yn Nuw.
23
Canys yn wir meddaf i chwi, Pwy bynag a ddywedo wrth y mynydd hwn, Cyfoder di, a bwrier di i'r môr, ac nid amheuo yn ei galon, ond a gredo fod yr hyn a ddywed yn dyfod i ben, efe a fydd iddo.
24
Am hyny meddaf i chwi, pa bethau bynag oll y gweddiwch am danynt, ac a geisiwch, credwch y derbyniasoch hwynt, a byddant i chwi.
25
A phan yr ydych yn sefyll i weddio, maddeuwch, os oes genych ddim yn erbyn neb; fel y maddeuo eich Tâd yr hwn sydd yn y Nefoedd i chwithau eich camweddau.
26
[Ond os chwi ni faddeuwch, eich Tâd yr hwn sydd yn y Nefoedd ni faddeu chwaith eich camweddau chwithau].
27
Ac y maent yn dyfod drachefn i Jerusalem: ac fel yr oedd efe yn rhodio yn y Deml, y mae yr Arch‐offeiriaid, a'r Ysgrifenydion, a'r Henuriaid yn dyfod ato,
28
ac yn dywedyd wrtho, Trwy ba fath awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn?
29
A phwy a roddodd i ti yr awdurdod hon i wneuthur y pethau hyn? A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Gofynaf finau i chwithau un gofyniad, ac atebwch fi; a minau a ddywedaf i chwi trwy ba fath awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn:
30
Ai oedd Bedydd Ioan o'r Nef, ai o ddynion? Atebwch fi.
31
Ac yr oeddynt yn ymresymu yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O'r Nef, efe a ddywed, Paham na chredasoch iddo?
32
Ond a ddywedwn, O ddynion? — hwy a ofnent y bobl; canys pawb a gyfrifent Ioan mewn gwirionedd ei fod yn broffwyd.
33
A hwy, gan ateb yr Iesu a ddywedant, Ni wyddom ni. A'r Iesu a ddywed wrthynt hwythau, Ni ddywedaf finau i chwi ychwaith trwy ba fath awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16