bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Mark 4
Mark 4
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 5 →
1
A thrachefn efe a ddechreuodd ddysgu ar làn y môr; a thyrfa fawr iawn a ymgasgla ato, yn gymmaint ag iddo fyned i'r cwch, ac a eisteddodd yn y môr; a'r holl dyrfa oedd wrth y môr ar y tir.
2
Ac efe a ddysgai iddynt lawer mewn dammegion, ac a ddywedodd wrthynt yn ei ddysgeidiaeth,
3
Gwrandewch: Wele yr hauwr a aeth allan i hau:
4
a darfu wrth hau, i beth syrthio ar hyd y ffordd, a daeth yr ehediaid, ac a'u bwytasant i fyny.
5
Ac arall a syrthiodd ar dir creigiog, lle ni chafodd fawr ddaear; ac yn ebrwydd yr eginodd, o herwydd ni chafodd ddyfnder daear.
6
A phan gododd yr haul, crasboethwyd ef, ac o herwydd nad oedd iddo wreiddyn, efe a wywodd.
7
Ac arall a syrthiodd yn mhlith y drain; a'r drain a ddaethant i fyny, ac a'i tagasant, ac ni ddug ffrwyth.
8
Ac arall a syrthiodd i'r tir da, ac a ddug ffrwyth tyfadwy a chynnyrchiol, ac a ddug i fyny i ddeg‐ar hugain, ac i fyny i dri‐ugain, ac i fyny i gant.
9
Ac efe a ddywedodd, yr hwn sydd ganddo glustiau, gan wrando, gwrandawed.
10
A phan ddaeth efe i fod wrtho ei hun, y rhai oedd o amgylch iddo gyda'r Deuddeg a ofynasant iddo ynghylch y dammegion.
11
Ac efe a ddywedodd wrthynt, I chwi y mae dirgelwch Teyrnas Dduw wedi cael ei roddi, eithr i'r rhai sydd o'r tu allan, pob peth a wneir mewn dammegion;
12
fel Gan edrych yr edrychant, ac ni welant, A chan glywed y clywant, ac ni ddeallant, Rhag iddynt ddychwelyd, a maddeu iddynt
13
Ac efe a ddywed wrthynt, Oni wyddoch chwi y ddammeg hon? A pha fodd y gwybyddwch yr holl ddammegion?
14
Yr hauwr sydd yn hau y gair. A'r rhai hyny yw y rhai ar hyd y ffordd, lle yr hauir y gair; a phan glywant, yn ebrwydd y mae Satan yn dyfod, ac yn dwyn ymaith y gair a hauwyd ynddynt hwy.
16
A'r rhai hyn, yr un modd, yw y rhai a hauir ar y creigleoedd, y rhai pan glywant y gair, sydd yn ebrwydd yn ei dderbyn ef gyda llawenydd,
17
ac nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain, eithr dros dymhor y maent; yna pan ddêl gorthrymder, neu erlid o achos y gair, yn ebrwydd y rhwystrir hwynt.
18
Ac eraill yw y rhai a hauir yn mysg drain; y rhai hyn a wrandawant y gair,
19
ac y mae gofalon yr oes, a thwyll golud, a'r chwantau am y pethau eraill, yn dyfod i mewn, ac yn tagu y gair, a myned y mae yn ddiffrwyth.
20
A'r rhai hyny yw y rhai a hauwyd ar dir da, y rhai sydd yn gwrandaw y gair, ac yn ei dderbyn, ac yn dwyn ffrwyth yn ddeg‐ar‐hugain, ac yn dri ugain, ac yn gant.
21
Ac efe a ddywedodd wrthynt, A ddaw y llusern er ei gosod dan y llestr‐mesur, neu o dan y gwely? Ai nid er ei gosod ar y daliadyr?
22
Canys nid oes dim cuddiedig, os nid i'w egluro; ac ni wnaed dim dirgel, ond fel y delai i'r amlwg.
23
Od oes gan neb glustiau, gan wrando, gwrandawed.
24
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch beth a wrandewch. A pha fesur y mesuroch, y mesurir i chwi, ac yr ychwanegir i chwi.
25
Canys yr hwn y mae ganddo, y rhoddir iddo; a'r hwn nid oes ganddo, ie, yr hyn sydd ganddo a ddygir oddiarno.
26
Ac efe a ddywedodd, Felly y mae Teyrnas Dduw; fel y bwriai dyn hâd ar y ddaear,
27
ac y cysgai a chyfodai nos a dydd, ac yr eginai yr hâd a thyfu i fyny, y modd nis gŵyr efe.
28
O honi ei hun y ddaear a ddwg ffrwyth; yn gyntaf eginyn, yna y dywysen, yna yr yd cyflawn yn y dywysen.
29
A phan ganiatao y ffrwyth, yn ebrwydd efe a ddenfyn allan y cryman, canys y mae y cynhauaf yn ymyl.
30
Ac efe a ddywedodd, Pa fodd y cyffelybwn Deyrnas Dduw, neu gyd â pha ddammeg y gosodwn hi allan?
31
Fel gronyn o hâd mwstard, yr hwn pan hauer ar y ddaear, sydd lai na'r holl hadau ar y ddaear,
32
eto wedi yr hauer, y mae yn tyfu i fyny, ac yn myned yn fwy na'r holl ardd-lysiau, ac a ddwg ganghenau mawrion, fel y gall ehediaid y Nefoedd drigo dan ei gysgod ef.
33
Ac â chyfryw ddammegion lawer y llefarodd efe wrthynt y gair, fel yr oeddynt yn alluog i wrando.
34
Ond heb ddammeg ni lefarodd efe wrthynt; ond yn y dirgel i'w Ddysgyblion ei hun efe a esboniodd bob peth.
35
Ac efe a ddywed wrthynt y dydd hwnw, wedi ei hwyrhau, Awn trosodd i'r tu draw.
36
A chan adael y dyrfa, y maent yn ei gymmeryd ef fel yr oedd yn y cwch; ac yr oedd cychod eraill gydag ef.
37
Ac y mae tymhestl fawr o wynt yn cyfodi, a'r tonau a ymruthrent i'r cwch, yn gymmaint a bod y cwch erbyn hyn yn llawn.
38
Ac yr oedd efe ei hun yn y rhan ol o'r cwch, yn cysgu ar obenydd; ac y maent yn ei ddeffro ef, ac yn dywedyd wrtho, Athraw, ai difater genyt ein colli ni?
39
Ac efe a lawn‐ddeffrôdd, ac a geryddodd y gwynt, ac a ddywedodd wrth y môr, Gostega, distawa. A'r gwynt a beidiodd, a bu tawelwch mawr.
40
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn llwfr? Ai nid oes genych eto ffydd?
41
A hwy a ofnasant gydag ofn mawr, ac a ddywedasant wrth eu gilydd, Pwy gan hyny yw hwn, gan fod hyd y nod y gwynt a'r môr yn ufuddhau iddo?
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16