bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Mark 12
Mark 12
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 13 →
1
Ac efe a ddechreuodd lefaru wrthynt mewn dammegion: Gwr a blanodd winllan, ac a ddododd gae o'i hamgylch, ac a gloddiodd win‐gafn, ac a adeiladodd dŵr, ac a'i rhoddodd allan i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref.
2
Ac efe a anfonodd at y llafurwyr, yn y tymhor, ei was, fel y derbyniai oddiwrth y llafurwyr o ffrwythau y winllan.
3
A hwy a'i daliasant, ac a'i curasant, ac a'i danfonasant ymaith yn wag.
4
A thrachefn yr anfonodd efe atynt was arall, a hwy a archollasant ei ben, ac a'i anmharchasant.
5
Ac efe a anfonodd un arall; a hwnw hwy a laddasant: a llawer eraill; gan guro rhai, a lladd y lleill.
6
Yr oedd ganddo eto un mab, ei anwylyd: efe a'i danfonodd ef atynt yn ddiweddaf, gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mab i.
7
Ond y llafurwyr hyny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, Hwn yw yr etifedd: deuwch, lladdwn ef, a'n heiddo ni fydd yr etifeddiaeth.
8
A hwy a'i daliasant, ac a'i lladdasant, ac a'i bwriasant allan o'r winllan.
9
Beth gan hyny a wna Arglwydd y winllan? Efe a ddaw, ac a ddyfetha y llafurwyr, ac a rydd y winllan i eraill.
10
Ai ni ddarllenasoch yr Ysgrythyr hon, — Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, — Hwn a wnaed yn ben congl:
11
O'r Arglwydd y bu hyn, A rhyfedd yw yn ein golwg ni?.
12
Ac yr oeddynt yn ceisio ei ddal ef; ac a ofnasant y dyrfa; canys hwy a wyddent mai yn eu herbyn hwy y llefarodd efe y ddammeg: a hwy a'i gadawsant ef, ac a aethant ymaith.
13
Ac y maent yn danfon ato rai o'r Phariseaid ac o'r Herodianiaid, fel y rhwydent ef drwy ei ymadrodd.
14
Ac wedi eu dyfod, hwy a ddywedasant wrtho, Athraw, ni a wyddom dy fod di yn ddidwyll, ac nad wyt yn gofalu rhag neb; canys nid wyt ti yn edrych ar wyneb dynion; ond yr wyt yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd: Ai cyfreithlawn rhoddi teyrnged i Cesar, ai nid yw?
15
A roddwn ni, ai ni roddwn? Ond efe yn gwybod eu rhagrith hwynt, a ddywedodd wrthynt, Paham y temtiwch fi? Dygwch i mi ddenarion, fel ei gwelwyf.
16
A hwy a'i dygasant. Ac efe a ddywed wrthynt, Eiddo pwy yw y ddelw hon a'r darlleniad? A hwy a ddywedasant wrtho, Eiddo Cesar.
17
A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Talwch eiddo Cesar i Cesar, ac eiddo Duw i Dduw. A rhyfeddu yn ddirfawr a wnaethant.
18
Ac y mae Saduceaid yn dyfod ato, y rhai a ddywedant nad oes Adgyfodiad; a gofynasant iddo, gan ddywedyd,
19
Athraw, Moses a ysgrifenodd i ni, O fydd marw brawd neb, a gadael gwraig ar ei ol, ac heb adael plant, bydded i'w frawd gymmeryd ei wraig, a chodi hâd i'w frawd.
20
Yr oedd saith o frodyr: a'r cyntaf a gymmerodd wraig; a phan fu farw, ni adawodd hâd.
21
A'r ail a'i cymmerodd hi, ac a fu farw heb adael hâd ar ei ol; a'r trydydd yr un modd.
22
A'r saith ni adawsant hâd. Yn ddiweddaf o'r oll bu farw y wraig hefyd.
23
Yn yr Adgyfodiad, i ba un o honynt y bydd hi yn wraig? canys y saith a'i cawsant hi yn wraig.
24
A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ai nid o herwydd hyn yr ydych yn cyfeiliorni, sef, na wyddoch yr Ysgrythyrau, na gallu Duw?
25
Canys pan adgyfodant o feirw, nid ydynt yn priodi, nac yn cael eu rhoddi mewn priodas, ond y maent fel Angelion yn y Nefoedd.
26
Ond ynghylch y meirw, eu bod yn cael eu cyfodi, oni ddarllenasoch yn Llyfr Moses, yn yr adran am y Berth, y modd y llefarodd Duw wrtho, gan ddywedyd, Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob.
27
Nid yw efe Dduw rhai meirw, ond rhai byw. Yr ydych yn cyfeiliorni yn fawr.
28
Ac un o'r Ysgrifenyddion a ddaeth, wedi eu clywed hwynt yn cyd‐ymholi, a gweled iddo eu hateb yn dda, ac a ofynodd iddo, O ba natur yw y Gorchymyn Cyntaf o'r oll?
29
A'r Iesu a atebodd iddo, y cyntaf yw, Clyw Israel! Yr Arglwydd ein Duw, un Arglwydd yw:
30
A thi a geri yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, ac â'th holl feddwl, ac â'th holl nerth.
31
Yr ail yw hwn Ti a geri dy gymydog fel ti dy hun. Mwy na'r rhai hyn nid oes orchymyn arall.
32
A'r Ysgrifenydd a ddywedodd wrtho, Da, Athraw, mewn gwirionedd y dywedaist mai Un yw efe, ac nad oes arall heblaw efe;
33
a'i garu ef â'r holl galon, ac â'r holl ddeall, ac â'r holl enaid, ac â'r holl nerth, a charu y cymydog fel efe ei hun, sydd lawer amgenach na'r holl boeth‐offrymau cyfain ac aberthau.
34
A'r Iesu, pan welodd iddo ateb yn synwyrol, a ddywedodd wrtho, Nid wyt ti bell oddiwrth Deyrnas Dduw. Ac ni feiddiodd neb o hyn allan osod gofyniadau iddo.
35
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, pan yn dysgu yn y Deml, Pa fodd y dywed yr Ysgrifenyddion fod y Crist yn fab Dafydd?
36
Dafydd ei hun a ddywedodd yn yr Yspryd Glân:— Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion Yn droedfainc i'th draed.
37
Y mae Dafydd ei hun yn ei alw ef yn Arglwydd; ac o ba le y mae efe yn fab iddo? A'r dyrfa fawr a'i gwrandawent ef gydâ blas.
38
Ac yn ei ddysgeidiaeth efe a ddywedodd, Ymogelwch rhag yr Ysgrifenyddion, y rhai a chwenychant rodio mewn llaes‐wisgoedd, a'r cyfarchiadau yn y marchnadoedd
39
a'r prif‐gadeiriau yn y Synagogau, a'r prif‐eistedd‐leoedd yn y swperau.
40
Y rhai sydd yn llwyr‐fwyta tai y gweddwon, ac mewn rhith yn hir‐weddio, — y rhai hyn a dderbyniant farnedigaeth lymach.
41
Ac efe a eisteddodd gyferbyn a'r Drysorfa, ac a ddaliodd sylw pa fodd yr oedd y dorf yn bwrw arian i'r Drysorfa; a chyfoethogion lawer a fwriasant lawer.
42
Ac un wraig weddw dlawd a ddaeth, ac a fwriodd i mewn ddwy hatling, yr hyn yw ffyrling.
43
A'r Iesu a alwodd ei Ddysgyblion ato, ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, fwrw o'r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy na'r rhai oll a fwriant i'r Drysorfa.
44
Canys hwynt‐hwy oll a fwriasant i mewn o'u gor‐lawnder sydd ganddynt; ond hon o'i hangen a fwriodd i mewn yr oll, pa beth bynag a feddai, ei holl gynaliaeth.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16