bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Mark 13
Mark 13
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 14 →
1
Ac fel yr oedd efe yn myned allan o'r Deml, un o'i Ddysgyblion a ddywed wrtho, Athraw, gwel y fath feini, a'r fath adeiladau!
2
A'r Iesu a ddywedodd wrtho, A weli di yr adeiladau mawrion hyn? Ni adewir yma o gwbl faen ar faen, a'r nis datodir yn hollol.
3
Ac fel yr oedd efe yn eistedd ar Fynydd yr Olew‐wydd, gyferbyn â'r Deml, Petr, ac Iago, ac Ioan, ac Andreas, a ofynasant iddo o'r neilldu,
4
Dywed i ni pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd pan fo y pethau hyn yn dyfod i ben?
5
A'r Iesu a ddechreuodd ddywedyd wrthynt, Edrychwch rhag i neb eich arwain ar gyfeiliorn.
6
Llawer a ddeuant yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Efe, ac a arweiniant lawer ar gyfeiliorn.
7
Ond pan glywoch am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd, na ddychryner chwi; canys rhaid iddynt ddyfod: ond nid yw y diwedd eto.
8
Canys cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: bydd daeargrynfäau mewn amryw fanau; bydd newynau:
9
dechreuad gwewyr yw y pethau hyn. Ond edrychwch atoch chwi eich hunain: canys hwy a'ch traddodant chwi i Gynghorau ac i Synagogau; chwi a fflangellir; a chwi a sefwch gerbron llywodraethwyr a breninoedd o achos fy enw i, er tystiolaeth iddynt.
10
Ac i'r holl genedloedd y mae yn rhaid yn gyntaf bregethu yr Efengyl.
11
A phan y'ch arweiniant chwi, gan eich traddodi, na fyddwch bryderus yn mlaen llaw pa beth a lefaroch: ond pa beth bynag a roddir i chwi yn yr awr hono, hyny lefarwch: canys nid chwychwi sydd yn llefaru, ond yr Yspryd Glân.
12
A brawd a draddoda frawd i farwolaeth, a thâd ei blentyn, a phlant a gyfodant yn erbyn rhieni, ac a'u gosodant i farwolaeth.
13
A chwi a fyddwch gâs gan bawb o achos fy enw i: ond yr hwn a barhao yn ddiysgog hyd y diwedd, hwnw a fydd cadwedig.
14
Ond pan weloch chwi ffieidd‐dra yr Anghyfanedd‐dra, yn sefyll yn y lle ni ddylai, (yr hwn a ddarlleno, ystyried), yna, y rhai a fyddant yn Judea, bydded iddynt ffoi i'r mynyddoedd:
15
a'r neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddisgyned, ac nac aed i mewn i gymmeryd dim allan o'i dŷ.
16
A'r hwn a elo i'r maes, na ddychweled yn ei ol i gymmeryd ei wisg uchaf.
17
Ond gwae y rhai beichiog, a'r rhai yn rhoi bronau, yn y dyddiau hyny.
18
Ond gweddiwch fel na ddygwyddo yn y Gauaf.
19
Canys y dyddiau hyny a fyddant orthrymder, y cyfryw na bu ei fath o ddechreuad creadigaeth, yr hwn a greodd Duw, hyd y pryd hwn, ac ni fydd o gwbl.
20
Ac onibai i'r Arglwydd fyrhau y dyddiau, ni fyddai gadwedig un cnawd: ond er mwyn yr Etholedigion, y rhai a etholodd, efe a fyrhaodd y dyddiau.
21
Ac yna os dywed neb wrthych, Wele, yma y mae y Crist; neu, Wele, acw; na chredwch;
22
canys Gau‐Gristiau a Gau‐Brophwydi a gyfodant, ac a roddant arwyddion a rhyfeddodau, er arwain ar gyfeiliorn, pe yn bosibl, yr Etholedigion.
23
Eithr ymogelwch chwi: rhag‐ddywedais i chwi bob peth.
24
Ond yn y dyddiau hyny, ar ol y gorthrymder hwnw, y tywyllir yr haul, a'r lleuad ni rydd ei llewyrch;
25
a'r ser a fyddant o'r Nef yn syrthio, a'r galluoedd sydd yn y Nefoedd a siglir.
26
Ac yna y gwelant Fab y Dyn yn dyfod mewn cymylau gydâ gallu mawr a gogoniant.
27
Ac yna yr anfona efe yr Angelion, ac a gynull ynghyd ei Etholedigion allan o'r pedwar gwynt, o derfyn eithaf y ddaear hyd derfyn eithaf y Nef.
28
Ac oddiwrth y ffigysbren dysgwch y ddammeg: pan y mae ei ganghen eisioes wedi dyfod yn dyner, a'r dail yn tori allan, chwi a wyddoch fod yr haf yn agos.
29
Felly chwithau hefyd, pan weloch y pethau hyn yn dyfod, gwybyddwch ei fod yn agos, wrth y drysau.
30
Yn wir meddaf i chwi, nid â y genedlaeth hon heibio, hyd oni ddaw y pethau hyn oll i ben.
31
Y Nef a'r ddaear a ânt heibio; ond fy ngeiriau i nid ânt heibio.
32
Eithr am y dydd hwnw, neu yr awr, ni ŵyr neb, na'r Angelion yn y Nef, na'r Mab, ond y Tâd.
33
Ymogelwch, byddwch effro, canys ni wyddoch pa bryd y mae yr adeg.
34
Y mae fel dyn wedi myned o'i wlad ei hun, wedi gadael ei dŷ, wedi rhoddi awdurdod i'w weision, i bob un ei waith ei hun, ac a orchymynodd i'r drysawr wylio.
35
Gwyliwch, gan hyny; canys ni wyddoch pa bryd y mae Arglwydd y tŷ yn dyfod, ai yn yr hwyr, ai ganol nos, ai ar ganiad y ceiliog, ai yn fore iawn;
36
rhag ei ddyfod yn ddisymwth, a'ch cael chwi yn cysgu.
37
A'r hyn yr wyf yn ei ddywedyd i chwi, yr wyf yn ei ddywedyd i bawb, Gwyliwch.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16