bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Mark 7
Mark 7
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 8 →
1
Ac ymgasgla ato y Phariseaid, a rhai o'r Ysgrifenyddion, y rhai a ddaethant o Jerusalem;
2
ac a welsant fod rhai o'i Ddysgyblion ef yn bwyta bara â dwylaw halogedig, hyny yw, heb eu golchi.
3
Canys y Phariseaid a'r holl Iuddewon, oni fydd iddynt olchi eu dwylaw yn egniol, ni fwytânt, gan ddal yn dyn Draddodiad yr Henuriaid.
4
A phan ddelont o'r farchnadle, oni fydd iddynt ymdrochi, ni fwytânt. A llawer o bethau eraill y sydd, y rhai a dderbyniasant i'w cadw, bedyddiadau cwpanau, ac ystenau, a llestri copr.
5
A'r Phariseaid a'r Ysgrifenyddion a ofynasant iddo, Paham nad yw dy Ddysgyblion di yn rhodio yn ol Traddodiad yr Henuriaid, ond â dwylaw halogedig y maent yn bwyta bara?
6
Ond efe a ddywedodd wrthynt, Da y prophwydodd Esaiah am danoch, ragrithwyr, fel y mae yn ysgrifenedig: — Y mae y bobl hyn yn fy anrhydeddu a'r gwefusau, Ond eu calon sydd bell oddiwrthyf;
7
Eithr yn ofer y maent yn fy addoli, Gan ddysgu fel cu dysgeidiaeth, orchymynion dynion.
8
Gan ollwng ymaith orchymyn Duw, yr ydych yn dal gafael ar Draddodiad dynion.
9
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwych y gwnewch i ffwrdd â gorchymyn Duw, fel y dyogeloch eich Traddodiad eich hunain.
10
Canys Moses a ddywedodd, Anrhydedda dy dâd a'th fam, Ac, Yr hwn a ddifenwo dâd neu fam, bydded iddo farw y farwolaeth.
11
Ond meddwch chwi, Os dywed dyn wrth ei dâd neu ei fam, Corban (hyny yw, Rhodd sanctaidd) ydyw pa beth bynag o'r eiddof fi a fyddai o les i ti,
12
nid ydych mwyach yn caniatau iddo wneuthur dim dros dâd neu fam;
13
gan ddirymu Gair Duw drwy eich Traddodiad yr hwn a draddodasoch chwi: a llawer o gyffelyb bethau yr ydych yn eu gwneuthur.
14
Ac efe a alwodd ato y dyrfa drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, Gwrandêwch chwi oll arnaf, a deallwch:
15
nid oes dim o'r tu allan i'r dyn, yr hwn pan yn myned i mewn iddo, a ddichon ei halogi ef: eithr y pethau sydd yn dyfod allan o'r dyn yw y pethau sydd yn halogi y dyn.
16
A phan ddaeth efe gartref oddiwrth y dyrfa, ei Ddysgyblion a ofynasant iddo y ddammeg.
18
Ac efe a ddywed wrthynt, Felly a ydych chwithau hefyd yn ddiddeall? Oni chanfyddwch, am bob peth oddiallan a êl i mewn i'r dyn, na all ei halogi ef;
19
oblegid nid yw yn myned i'w galon ef, ond i'r bol, ac yn myned allan i'r geudy? Hyn a ddywedodd efe gan buro yr holl fwydydd.
20
Ac efe a ddywedodd, yr hyn sydd yn dyfod allan o'r dyn, hyny sydd yn halogi y dyn.
21
Canys oddifewn, allan o galon dynion, y daw allan feddyliau sydd ddrwg, megys puteindra,
22
lladradau, llofruddiaethau, godinebau, trachwantau, drygioni, twyll, anlladrwydd, drwg‐lygad, athrod, balchder, ynfydrwydd.
23
Yr holl ddrwg bethau hyn sydd yn dyfod allan oddifewn, ac yn halogi y dyn.
24
Ac efe a gyfododd oddiyno, ac a aeth i gyffiniau Tyrus a Sidon; ac a aeth i mewn i dŷ, ac ni fynai i neb wybod: ac ni allai efe fod yn guddiedig.
25
Eithr pan glybu gwraig am dano, yr hon oedd ei merch fechan âg yspryd aflan ynddi, hi a ddaeth, ac a syrthiodd wrth ei draed ef.
26
A Groeges oedd y wraig, Syro‐pheniciad o genedl; a hi a atolygodd iddo fwrw y cythraul allan o'i merch.
27
Ac efe a ddywedodd wrthi, Gâd yn gyntaf i'r plant gael eu digoni, canys nid da cymmeryd bara y plant, a'i daflu i'r cwn bychain.
28
Hithau a atebodd, ac a ddywed wrtho, Gwir, O Arglwydd, y mae hyd y nod y cwn bychain dan y bwrdd yn bwyta o friwsion y plant bychain.
29
Ac efe a ddywedodd wrthi, O herwydd yr ymadrodd hwn, dos ymaith: y mae y cythraul wedi myned allan o'th ferch.
30
Ac wedi iddi fyned i'w thŷ, hi a gafodd y plentyn bychan wedi ei gosod ar y gwely, a'r cythraul wedi myned allan.
31
Ac efe a aeth drachefn allan o gyffiniau Tyrus, ac a ddaeth trwy Sidon i Fôr Galilea, trwy ganol cyffiniau Decâpolis.
32
Ac y maent yn dwyn ato un byddar, a diffygiol yn ei leferydd, ac y maent yn ymbil arno i osod ei law arno ef.
33
Ac efe a'i cymmerodd ef ymaith oddiwrth y dyrfa o'r neilldu, ac a roddodd ei fysedd yn ei glustiau ef; ac efe a boerodd, ac a gyffyrddodd â'i dafod ef.
34
A chan edrych tua'r Nef, efe a ocheneidiodd, ac a ddywed wrtho, Ephphatha, hyny yw, Ymagor.
35
A'i glustiau ef a agorwyd, a rhwym ei dafod a ddatodwyd, ac efe a lefarodd yn hyglyw.
36
Ac efe a orchymynodd iddynt na ddywedent i neb; ond po fwyaf y gorchymynodd efe iddynt, mwyaf i gyd o lawer y cyhoeddasant hwy eu hunain y peth.
37
A hwy a darawyd â syndod enfawr, gan ddywedyd, Y mae efe wedi gwneyd pob peth yn dda: y mae efe yn gwneuthur hyd y nod i'r byddariaid glywed, a mudaniaid lefaru.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16