bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Mark 9
Mark 9
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 10 →
1
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, y mae rhai yma o'r rhai sydd yn sefyll, ni phrofant angeu ddim, hyd oni welant Deyrnas Dduw wedi dyfod mewn gallu.
2
Ac wedi chwe diwrnod, y mae yr Iesu yn cymmeryd gyd âg ef Petr, ac Iago, ac Ioan, ac yn eu dwyn hwynt i fynydd uchel o'r neilldu, wrthynt eu hunain: ac efe a drawsffurfiwyd yn eu gŵydd hwynt.
3
A'i ddillad ef a aethant yn ddysglaer‐wych, yn gànaid iawn, y fath ni fedr pànwr ar y ddaear felly eu cànu.
4
Ac ymddangosodd iddynt Elias, gyd â Moses: ac yr oeddynt yn ymddiddan â'r Iesu.
5
A Phetr a atebodd ac a ddywed wrth yr Iesu, Rabbi, da yw i ni fod yma: a bydded i ni wneuthur tair pabell, un i ti, ac un i Moses, ac un i Elias.
6
Canys ni wyddai efe beth i ateb; canys yr oeddynt yn llawn dychryn.
7
Ac yr oedd cwmwl yn cysgodi drostynt a daeth llais allan o'r cwmwl, Hwn yw fy anwyl Fab: gwrandêwch ef [[ Salm 2:7 12
8
Ac yn ddisymwth, pan edrychasant o amgylch, ni welsant neb mwyach, ond yr Iesu yn unig gyd â hwy eu hunain.
9
Ac fel yr oeddynt yn dyfod i waered o'r mynydd, efe a orchymynodd iddynt na adroddent i neb y pethau a welsant, ond pan adgyfodai Mab y Dyn o feirw.
10
A hwy a gadwasant yn ffyddlon yr ymadrodd, gan gyd‐ymholi â hwy eu hunain beth yw yr adgyfodi o feirw.
11
A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Yr Ysgrifenyddion a ddywedant fod yn rhaid i Elias ddyfod yn gyntaf.
12
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Elias yn wir, wedi dyfod yn gyntaf, a edfryd bob peth. A pha fodd y mae yn ysgrifenedig am Fab y Dyn? Y bydd iddo ddyoddef llawer, ac y dirmygid ef.
13
Ond meddaf i chwi fod Elias hefyd wedi dyfod, a gwnaethant iddo pa beth bynag a fynasant, fel yr ysgrifenwyd am dano.
14
A phan ddaethant at y Dysgyblion, hwy a welsant dyrfa fawr o'u hamgylch, ac Ysgrifenyddion yn cyd‐ymholi â hwynt.
15
Ac yn ebrwydd yr holl dyrfa, pan ei gwelsant ef, a lanwyd â syndod, ac a redasant tu ag ato, ac a'i cyfarchasant ef.
16
Ac efe a ofynodd iddynt, Pa gyd‐ymholi yr ydych â hwynt?
17
Ac un o'r dyrfa a atebodd iddo, Athraw, mi a ddygais fy mab atat, âg yspryd mud ynddo.
18
A pha le bynag y cymmer afael arno, y mae yn ei daflu i lawr, ac y mae efe yn malu ewyn, ac a ysgyrniga ddanedd, ac y mae yn dihoeni: a mi a ddywedais wrth dy Ddysgyblion ar iddynt ei fwrw ef allan, ac nis gallasant.
19
Ac efe a atebodd iddynt, ac a ddywed, O genedlaeth anffyddiog! hyd pa bryd y byddaf gyd â chwi? hyd pa bryd y gwnaf gyd‐ddwyn â chwi? dygwch ef ataf fi.
20
A hwy a'i dygasant ef ato: a phan welodd ef, yn ebrwydd yr yspryd a'i dirdynodd ef; a chan syrthio ar y ddaear, efe a ymdreiglodd, gan falu ewyn.
21
Ac efe a ofynodd i'w dâd ef, Pa gymmaint o amser sydd er y mae hyn wedi dygwydd iddo? Ac efe a ddywedodd, Er yn fachgenyn.
22
A mynych y taflodd efe ef i'r tân, ac hefyd i'r dyfroedd, fel y dyfethai efe ef: ond, os gelli di ddim, cymmorth ni, gan gymmeryd tosturi arnom.
23
A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Os gelli! pob peth a all fod i'r neb a gredo.
24
Ac yn ebrwydd tâd y bachgenyn a lefodd allan, ac a ddywedodd, Yr wyf yn credu: cymmorth fy anghrediniaeth.
25
A phan welodd yr Iesu fod tyrfa yn cyd‐redeg tu ag ato, efe a geryddodd yr yspryd aflan, ac a ddywedodd wrtho, Tydi yspryd mud a byddar, yr wyf yn gorchymyn i ti, tyred allan o hono, ac na ddos mwyach iddo ef.
26
Ac wedi llefain allan, a dirdynu llawer arno, efe a ddaeth allan, ac efe a aeth fel un marw, fel y dywedodd y llaweroedd ei fod wedi marw.
27
A'r Iesu a afaelodd yn ei law, ac a'i cyfododd ef, ac efe a safodd i fyny.
28
Ac wedi iddo fyned i mewn i dŷ, ei Ddysgyblion a ofynasant iddo o'r neilldu, Paham na allem ni ei fwrw ef allan?
29
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y rhyw hwn ni all ddyfod allan trwy ddim ond trwy weddi.
30
Ac wedi myned allan oddi yno, hwy a ymdeithiasant trwy Galilea; ac ni fynai efe i neb wybod.
31
Canys yr oedd efe yn dysgu ei Ddysgyblion, ac yn dywedyd wrthynt, Y mae Mab y Dyn yn cael ei draddodi i ddwylaw dynion, a hwy a'i lladdant ef, ac wedi ei ladd, ar ol tridiau efe a adgyfyd.
32
Ond nid oeddynt hwy yn deall yr ymadrodd, ac yr oeddynt yn ofni gofyn iddo.
33
A hwy a ddaethant i Capernaum: a phan ddaeth efe i'r tŷ, efe a ofynodd iddynt, Am beth yr oeddych yn ymresymu ar y ffordd?
34
Ond hwy a dawsant â sôn; canys yn eu plith eu hunain yr ymddadleuasant ar y ffordd, pwy a fyddai fwyaf.
35
Ac efe a eisteddodd, ac a alwodd y Deuddeg, ac a ddywed wrthynt, Os myn neb fod yn gyntaf, efe a fydd olaf o bawb, a gwas i bawb.
36
Ac efe a gymmerodd fachgenyn, ac a'u gosododd ef yn eu canol hwynt; ac wedi iddo ei gofleidio yn ei freichiau, efe a ddywedodd wrthynt,
37
Pwy bynag a dderbynio un o'r cyfryw blant bychain yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i: a phwy bynag sydd yn fy nerbyn i, nid myfi y mae efe yn ei dderbyn, eithr yr Hwn a'm danfonodd i.
38
Ioan a lefarodd wrtho, gan ddywedyd, Athraw, ni a welsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, ac ni a waharddasom iddo, am nad oedd yn ein canlyn ni.
39
A'r Iesu a ddywedodd, Na waherddwch iddo; canys nid oes neb a wna weithred nerthol yn fy enw i a all yn fuan roddi drygair i mi.
40
Canys y neb nid yw i'n herbyn, o'n tu y mae.
41
Canys pwy bynag a roddo i chwi i'w yfed gwpanaid o ddwfr yn yr enw, sef o herwydd eich bod yn perthyn i Grist, yn wir meddaf i chwi, ni chyll efe o gwbl ei wobr.
42
A phwy bynag a rwystro un o'r rhai bychain hyn sydd yn credu ynof fi, gwell yw iddo pe rhoddid maen mawr melin am ei wddf, a'i daflu i'r môr.
43
Ac os dy law a'th rwystra, tôr hi ymaith: gwell i ti fyned i mewn i'r bywyd yn anafus, nag â dwy law genyt fyned ymaith i Gehenna, i'r tân anniffoddadwy.
45
Ac os dy droed a'th rwystra, tor hi ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn gloff, nag â dwy droed genyt dy daflu i Gehenna.
47
Ac os dy lygad a'th rwystra, tyn ef allan: gwell i ti fyned i mewn i Deyrnas Dduw yn un‐llygeidiog, nag â dau lygad genyt dy daflu i Gehenna;
48
lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na'r tân yn diffodd.
49
Canys pob un a helltir â thân.
50
Da yw yr halen: ond os a yr halen yn ddihallt, â pha beth y pereiddiwch ef? Bydded fod genych halen ynoch eich hunain, a byddwch heddychlawn â'ch gilydd.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16