bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Mark 2
Mark 2
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 3 →
1
Ac efe a aeth drachefn i Capernaum wedi rhai dyddiau, a chlybuwyd ei fod ef yn y ty;
2
a llawer a ymgasglasant ynghyd, fel nad oedd lle iddynt mwyach, hyd y nod o gylch y drws: ac efe a lefarodd y gair iddynt.
3
A hwy a ddaethant ato gan ddwyn un claf o'r parlys, yr hwn a ddygid gan bedwar.
4
A chan na allent neshâu ato ef o herwydd y dyrfa, didoi y tô a wnaethant lle yr oedd efe: ac wedi iddynt dori trwodd, hwy a ollyngasant i waered y gwely ar yr hwn y gorweddai y claf o'r parlys.
5
A'r Iesu, yn gweled eu ffydd hwy, a ddywed wrth y claf o'r parlys, O Fab! maddeuir dy bechodau.
6
Ac yr oedd rhai o'r Ysgrifenyddion yn eistedd yno, ac yn ymresymu yn eu calonau;
7
Paham y llefara hwn felly? Y mae yn cablu. Pwy all faddeu pechodau ond Un, sef Duw?
8
Ac yn ebrwydd a'r Iesu yn gwybod yn ei yspryd eu bod hwy yn ymresymu felly ynddynt eu hunain, efe a ddywed wrthynt, Paham yr ymresymwch y pethau hyn yn eich calonau?
9
Pa un hawddach, dywedyd wrth y claf o'r parlys, Maddeuir dy bechodau, ai dywedyd, Cyfod, a chymmer i fyny dy wely, a rhodia?
10
Eithr fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y Dyn ar y ddaear i faddeu pechodau, efe a ddywed wrth y claf o'r parlys,
11
Wrthyt ti yr wyf yn dywedyd, Cyfod, cymmer i fyny dy wely, a dos i'th dŷ.
12
Ac efe a gyfododd, ac yn ebrwydd y cymmerodd i fyny ei wely, ac a aeth allan yn eu gwydd hwynt oll; hyd oni synodd pawb, a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, Ni welsom ni erioed fel hyn.
13
Ac efe a aeth allan drachefn wrth làn y môr: a'r holl dyrfa oedd yn dyfod ato, ac efe a'u dysgodd hwynt.
14
Ac efe yn myned rhagddo, efe a ganfu Lefi, mab Alpheüs, yn eistedd wrth y dollfa, ac efe a ddywed wrtho, Canlyn fi. Ac efe a gyfododd ac a'i canlynodd ef.
15
A dygwydd iddo eistedd i fwyta yn ei dŷ ef, a llawer o Drethgasglwyr a phechaduriaid a eisteddasant gyda'r Iesu a'i Ddysgyblion: canys llawer oeddynt.
16
A'r Ysgrifenyddion o'r Phariseaid hefyd a'i canlynent: ac yn gweled ei fod yn bwyta gyda'r pechaduriaid a'r Trethgasglwyr, hwy a ddywedasant wrth ei Ddysgyblion ef, Y mae efe yn bwyta [ac yn yfed] gyda y Trethgasglwyr a'r pechaduriaid.
17
A'r Iesu, pan glybu, a ddywed wrthynt, Y rhai sydd iach nid rhaid iddynt wrth feddyg, ond y rhai sydd gleifion: ni ddaethum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid.
18
Ac yr oedd Dysgyblion Ioan a'r Phariseaid yn ymprydio. Y maent yn dyfod ac yn dywedyd wrtho, Paham y mae Dysgyblion Ioan a Dysgyblion y Phariseaid yn ymprydio, ond dy Ddysgyblion di nid ydynt yn ymprydio?
19
A dywedodd yr Iesu wrthynt, A all meibion y briodas‐ystafell ymprydio, tra y mae y priodas‐fab gyda hwynt? Tra fyddo ganddynt y priodas‐fab gyda hwynt, ni allant ymprydio.
20
Ond dyddiau a ddeuant, pan ddygir y priodas‐fab oddiwrthynt, ac yna yr ymprydiant yn y dydd hwnw.
21
Ni wnïa neb ddernyn o lain o frethyn cri ar ddilledyn hên: os amgen, y mae yr hyn‐a‐leinw ‐i‐fyny yn tynu oddiwrtho, y newydd oddiwrth yr hên, a gwaeth rhwyg a ddygwydd.
22
Ac ni thywallt neb win newydd i hen gostrelau lledr: os amgen, y gwin a rwyga y costrelau lledr, a'r gwin a gollir a'r costrelau lledr: eithr rhaid tywallt gwin newydd i gostrelau lledr newyddion.
23
A bu iddo ar y dydd Sabbath fyned trwy y meusydd yd; a'i Ddysgyblion ef a ddechreuasant wneyd iddynt lwybr, gan dynu y tywys.
24
A'r Phariseaid a ddywedasant wrtho, Wele, paham y gwnant ar y Sabbath yr hyn nid yw gyfreithlawn?
25
Ac efe a ddywed wrthynt, Ai ni ddarllenasoch erioed yr hyn a wnaeth Dafydd, pan yr oedd angen arno a chwant bwyd, efe a'r rhai oedd gydag ef?
26
Y modd yr aeth efe i Dy Dduw, pan yr oedd Abiathar yn Arch‐offeiriad, ac y bwytaodd y torthau gosod, y rhai nid cyfreithlawn eu bwyta, ond i'r offeiriaid; ac a'u rhoddes hefyd i'r rhai oedd gydag ef?
27
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y Sabbath a wnaethpwyd er mwyn dyn, ac nid dyn er mwyn y Sabbath.
28
Felly Arglwydd ydyw Mab y Dyn hyd y nod ar y Sabbath.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16