bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Mark 5
Mark 5
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 6 →
1
A hwy a ddaethant i'r ochr arall i'r môr, i wlad y Geraseniaid.
2
Ac wedi iddo ddyfod allan o'r cwch, yn ebrwydd cyfarfu ag ef allan o'r beddau, ddyn ag yspryd aflan ynddo;
3
yr hwn oedd a'i drigfan yn y beddau; ac ni allai neb a chadwyn mwyach ei rwymo ef:
4
o herwydd iddo yn fynych gael ei rwymo â llyffetheiriau a chadwynau, a darnio o hono y cadwynau, a dryllio y llyffetheiriau; ac ni allai neb ei ddofi ef.
5
Ac yn wastad nos a dydd, yn y beddau, ac yn y mynyddoedd, yr oedd efe yn gwaeddi, ac yn briwio ei hun â cheryg.
6
A phan ganfu efe yr Iesu o hirbell, efe a redodd, ac a ymgrymodd iddo.
7
A chan waeddi a llef uchel, efe a ddywed, Beth sydd i ti a wnelyt a mi, O Iesu, Mab y Duw Goruchaf? Yr wyf yn dy dynghedu trwy Dduw, na phoenyt fi.
8
Canys efe a ddywedasai wrtho, Tyred allan, tydi yspryd aflan, o'r dyn.
9
Ac efe a ofynodd iddo, Beth yw dy enw di? Ac yntau a ddywed wrtho, Lleng yw fy enw i, canys yr ydym yn llawer.
10
Ac efe a ddwys‐ymbiliodd lawer ag ef, na ddanfonai efe hwynt allan o'r wlad.
11
Ac yr oedd yno wrth y mynydd genfaint fawr o foch yn ymborthi.
12
A hwy a ddwys‐ymbiliasant ag ef, gan ddywedyd, Danfon ni i'r moch, fel yr awn i mewn iddynt.
13
Ac efe a ganiataodd iddynt. A'r ysprydion aflan a ddaethant allan, ac a aethant i mewn i'r moch: a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i'r môr — ynghylch dwy fil — a hwy a dagwyd yn y môr.
14
A'r rhai a'u porthent hwy a ffoisant, ac a'i mynegasant i'r ddinas, ac i'r lleoedd gwledig: a hwy a aethant allan i weled beth oedd yr hyn a wnaethid.
15
Ac y maent yn dyfod at yr Iesu, ac yn dal sylw ar y cythreulig, yn eistedd, wedi ei ddilladu, ac yn ei iawn bwyll, ie, yr hwn yr oedd wedi bod ynddo y Lleng; a hwy a ofnasant.
16
A'r rhai a welsant a draethasant iddynt, y modd y dygwyddodd i'r cythreulig, ac ynghylch y moch.
17
A hwy a ddechreuasant ymbil arno i ymadael o'u cyffiniau hwynt.
18
Ac efe yn myned i'r cwch, yr hwn a fu gythreulig a ymbiliodd ag ef i gael bod gydag ef.
19
Ac ni adawodd efe iddo, ond efe a ddywed wrtho, Dos i'th gartref at dy gyfeillion, a mynega iddynt pa bethau gymmaint y mae yr Arglwydd wedi eu gwneyd i ti, ac iddo drugarhau wrthyt.
20
Ac efe a ymadawodd, ac a ddechreuodd gyhoeddi trwy Decapolis pa gymmaint wnaeth yr Iesu iddo: a phawb a ryfeddasant.
21
Ac wedi i'r Iesu groesi trosodd drachefn yn y cwch i'r lan arall, ymgasglodd tyrfa fawr ato, ac yr oedd efe wrth y môr.
22
Ac y mae yn dyfod ato un o brif‐lywodraethwyr y Synagog, o'r enw Jairus, a phan ei gwelodd, efe a syrth wrth ei draed ef.
23
Ac y mae efe yn dwys‐ymbilio lawer ag ef, gan ddywedyd, Fy merch fechan sydd bron marw: gwna ddyfod fel y gosodi dy ddwylaw arni, fel yr achuber hi, ac y bydd fyw.
24
Ac efe a aeth gydag ef; a thyrfa fawr a'i canlynodd ef, ac a wasgasant arno.
25
A gwraig, yr hon a flinid a dyferlif gwaed am ddeuddeng mlynedd,
26
ac a ddyoddefodd lawer dan lawer o feddygon, ac a dreuliodd yr oll oedd ganddi, ac ni chafodd unrhyw leshâd, ond yn hytrach yr oedd yn waeth,
27
pan glybu y pethau am yr Iesu, a ddaeth yn y dyrfa, o'r tu ol, ac a gyffyrddodd a'i wisg ef.
28
Canys hi a ddywedasai, Os cyffyrddaf ond a'i ddillad ef, iach fyddaf.
29
Ac yn ebrwydd sychodd ffynonell ei gwaed hi, a hi a wybu yn ei chorff ei bod wedi ei hiachau o'r clefyd.
30
Ac yn ebrwydd yr Iesu yn gwybod ynddo ei hun fod gallu wedi myned allan o hono, a drodd yn y dyrfa, ac a ddywedodd, Pwy a gyffyrddodd a'm dillad?
31
A'i Ddysgyblion a ddywedasant wrtho, Ti a weli y dyrfa yn dy wasgu, ac a ddywedi di, Pwy a gyffyrddodd â mi?
32
Ac efe a edrychodd o amgylch i weled yr hon a wnaethai hyn.
33
Ond y wraig, gan ofni a chrynu, yn gwybod yr hyn a wnaethid iddi, a ddaeth ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a ddywedodd iddo yr holl wirionedd.
34
Ac efe a ddywedodd wrthi, Ferch, dy ffydd a'th iachaodd; dos mewn heddwch, a bydd holliach o'th glefyd.
35
Ac efe eto yn llefaru, y maent yn dyfod o dŷ Prif‐lywodraethwr y Synagog, gan ddywedyd, Y mae dy ferch wedi marw. Paham yr wyt bellach yn poeni yr Athraw?
36
A'r Iesu wedi dygwydd clywed y gair a ddywedasid, a ddywed wrth Brif‐lywodraethwr y Synagog, Nac ofna, yn unig cred.
37
Ac ni adawodd efe i neb i ddylyn gydag ef, ond Petr, ac Iago, ac Ioan brawd Iago.
38
Ac y maent yn dyfod i dŷ Prif‐lywodraethwr y Synagog, ac y mae efe yn gweled y cynhwrf, a rhai yn wylo ac yn galarnadu llawer;
39
ac wedi iddo fyned i mewn, efe a ddywed wrthynt, Paham y gwnewch gynhwrf, ac yr wylwch? Ni fu farw y plentyn, eithr huno y mae.
40
A hwy a'i gwatwarasant ef. Eithr efe ei hun, wedi bwrw pawb allan, a gymmer dâd y plentyn, a'i mam, a'r rhai oedd gydag ef, ac y mae yn myned i mewn lle yr oedd y plentyn.
41
Ac efe a ymaflodd yn llaw y plentyn, ac a ddywed wrthi, Talitha, coum, yr hyn yw, wedi ei gyfieithu, Eneth, (yr wyf yn dywedyd wrthyt) Cyfod.
42
Ac yn ebrwydd y cyfododd yr eneth, ac a rodiodd o amgylch; canys yr oedd hi yn ddeuddeng mlwydd oed. Ac yn ebrwydd hwy a synasant gyda syndod mawr.
43
Ac efe a orchymynodd iddynt yn gaeth, na chai neb wybod hyn; ac a ddywedodd am roddi peth iddi i'w fwyta.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16