bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Mark 10
Mark 10
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 11 →
1
Ac efe a gyfododd oddi yno, ac y mae yn dyfod i gyffiniau Judea, a thu hwnt i'r Iorddonen; a thrachefn tyrfaoedd a gyd‐gyrchant ato; ac fel yr oedd yn arferu, efe a'u dysgodd hwynt.
2
A Phariseaid a ddaethant ato ac a ofynasant iddo, A ydyw gyfreithlawn i wr roddi ymaith ei wraig?, gan ei demtio ef.
3
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Beth a orchymynodd Moses i chwi?
4
A hwy a ddywedasant, Moses a ganiataodd ysgrifenu ysgrifdyst ysgar, a'i gollwng hi ymaith.
5
Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, I gwrdd a'ch calon‐galedwch yr ysgrifenodd efe i chwi y gorchymyn hwn:
6
Ond o ddechreuad y Greadigaeth, yn wrryw a benyw y gwnaeth efe hwynt.
7
O achos hyn y gâd dyn ei dâd a'i fam, ac y glŷn wrth ei wraig;
8
a hwy ill dau a fyddant un cnawd; fel nad ydynt mwyach ddau, ond un cnawd.
9
Y peth gan hyny a gyd‐ieuodd Duw, na wahaned dyn.
10
Ac yn y tŷ drachefn ei Ddysgyblion a ofynasant iddo ynghylch hyn.
11
Ac efe a ddywed wrthynt, Pwy bynag a ollyngo ymaith ei wraig, ac a briodo arall, y mae yn godinebu yn ei herbyn hi.
12
Ac os hithau a ollyngo ymaith ei gwr, ac a briodo arall, y mae yn godinebu.
13
A hwy a ddygasant ato blant bychain, fel y cyffyrddai â hwynt: ond y Dysgyblion a geryddasant y rhai oedd yn eu dwyn.
14
Ond pan welodd yr Iesu, bu ddigllawn ganddo, ac efe a ddywedodd wrthynt, Gadêwch y plant bychain ddyfod ataf fi: na waherddwch iddynt; canys eiddo y cyfryw yw Teyrnas Dduw.
15
Yn wir meddaf i chwi, Pwy bynag ni dderbynio Deyrnas Dduw fel plentyn bach, nid a efe o gwbl i mewn iddi.
16
A chan eu cofleidio, efe a'u bendithiodd gyd â hoffder, gan osod ei ddwylaw arnynt.
17
Ac fel yr oedd efe yn myned allan i'r ffordd, rhedodd un ato, ac a syrthiodd ar ei liniau o'i flaen, ac a ofynodd iddo, O Athraw da, beth a wnaf fel yr etifeddwyf fywyd tragywyddol?
18
A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Paham y gelwi fi yn dda? Nid oes neb da ond un, sef Duw.
19
Ti a wyddost y gorchymynion, — Na ladd, Na odineba, Na ladrata, Na cham‐dystiolaetha, Na cham‐golleda, Anrhydedda dy dâd a'th fam.
20
Ac efe a ddywedodd wrtho, Athraw, y rhai hyn oll mi a gedwais yn ddyfal o'm hieuengctyd.
21
A'r Iesu, gan edrych arno yn ddifrifol, a'i carodd ef, ac a ddywedodd wrtho, Un peth sydd ddiffygiol i ti; dos, gwerth yr hyn oll sydd genyt, a dyro i dlodion, a thi a gai drysor yn y Nef: a thyred, canlyn fi.
22
A'i wedd a bruddhaodd wrth yr ymadrodd, ac efe a aeth ymaith yn drist, canys yr oedd ganddo feddianau lawer.
23
A'r Iesu a edrychodd o amgylch, ac a ddywed wrth ei Ddysgyblion, Mor anhawdd yr a y rhai y mae golud ganddynt i Deyrnas Dduw!
24
Ond y Dysgyblion a lanwyd â syndod wrth ei eiriau ef. Ond yr Iesu a atebodd drachefn, ac a ddywed wrthynt, O blant, mor anhawdd yw myned i mewn i Deyrnas Dduw.
25
Y mae yn hawddach i gamel fyned trwy grai nodwydd, nag i oludog fyned i mewn i Deyrnas Dduw.
26
A hwy a darawyd â syndod dirfawr, gan ddywedyd wrtho ef, A phwy a all fod yn gadwedig?
27
A'r Iesu, gan edrych yn ddifrifol arnynt, a ddywed, Gyd â dynion y mae yn anmhosibl, ond nid gyd â Duw: canys pob peth sydd bosibl gyd â Duw.
28
Dechreuodd Petr ddywedyd wrtho, Wele, nyni ydym wedi gadael pob peth, a'th ganlyn di.
29
Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir meddaf i ti, nid oes neb a'r a adawodd dŷ, neu frodyr, neu chwiorydd, neu fam, neu dâd,, neu blant, neu diroedd, er fy mwyn i, ac er mwyn yr Efengyl,
30
a'r ni dderbyn càn cymmaint yn awr y pryd hwn, dai, a brodyr, a chwiorydd, a mamau, a phlant, a thiroedd, ynghyd âg erlidiau; ac yn y byd sydd yn dyfod fywyd tragywyddol.
31
Ond llawer sydd gyntaf fyddant ddiweddaf, a'r diweddaf, gyntaf.
32
Ac yr oeddynt ar y ffordd yn myned i fyny i Jerusalem; a'r Iesu oedd yn myned o'u blaen hwynt: a bu ryfedd ganddynt; a'r rhai a ganlynasant a ofnasant. Ac wedi iddo drachefn gymmeryd ato y Deuddeg, efe a ddechreuodd ddywedyd iddynt y pethau oeddynt ar ddygwydd iddo ef:
33
Wele, yr ydym yn myned i fyny i Jerusalem; a Mab y Dyn a draddodir i'r Arch‐offeiriaid, ac i'r Ysgrifenyddion; a hwy a'i coll‐farnant ef i farwolaeth, ac a'i traddodant i'r Cenedloedd.
34
A hwy a'i gwatwarant ef, ac a boerant arno, ac a'i fflangellant, ac a'i lladdant, ac wedi tridiau, efe a adgyfyd.
35
Ac y mae yn dyfod ato Iago ac Ioan, meibion Zebedëus, gan ddywedyd wrtho, Athraw, ni a fynem i ti wneuthur i ni pa beth bynag a ofynem i ti.
36
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Beth a fynech i mi ei wneuthur i chwi?
37
A hwy a ddywedasant wrtho, Dyro i ni eistedd, un ar dy ddeheulaw, ac un ar dy aswy, yn dy Ogoniant.
38
A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ni wyddoch pa beth yr ydych yn ei geisio. A ellwch chwi yfed y cwpan a yfwyf fi, neu eich bedyddio â'r bedydd y'm bedyddir i âg ef?
39
A hwy a ddywedant wrtho, Gallwn. A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Chwi a yfwch y cwpan â yfwyf fi, neu, fe'ch bedyddir â'r bedydd y bedyddir finau;
40
ond eistedd ar fy neheulaw neu ar fy aswy, nid eiddof fi ei roddi, ond i'r sawl y mae wedi ei ddarparu.
41
A phan glybu y Deg, hwy a ddechreuasant deimlo yn ddigllawn tu ag at Iago ac Ioan.
42
A'r Iesu a'u galwodd hwynt ato, ac a ddywed wrthynt, Chwi a wyddoch fod y rhai a gyfrifir eu bod yn llywodraethu ar y Cenedloedd, yn tra‐arglwyddiaethu arnynt; ac y mae eu Mawrion yn tra‐awdurdodi arnynt:
43
ond nid felly y mae yn eich plith chwi; ond pwy bynag a ewyllysio ddyfod yn fawr yn eich plith, a fydd yn was i chwi;
44
a phwy bynag a ewyllysio fod y blaenaf o honoch, efe a fydd yn rwymedig-was i bawb.
45
Canys ni ddaeth hyd y nod Mab y Dyn i'w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roddi ei einioes yn bridwerth yn lle llawer.
46
A hwy a ddeuant i Jericho. Ac fel yr oedd efe yn myned allan o Jericho, a'i Ddysgyblion, a thyrfa luosog, mab Timëus, Bartimëus, cardotyn dall, a eisteddai ar ymyl y ffordd.
47
A phan glybu, Iesu o Nazareth ydyw, efe a ddechreuodd waeddi a dywedyd, Iesu, Mab Dafydd, trugarhâ wrthyf.
48
A llawer a'i ceryddasant ef, fel y tawai: ond efe a waeddodd yn fwy o lawer, O Fab Dafydd, trugarhâ wrthyf.
49
A'r Iesu a safodd, ac a ddywedodd, Gelwch ef. Ac y maent yn galw y dall, ac yn dywedyd wrtho, Cymmer galon: cyfod: y mae efe yn dy alw di.
50
Ac efe wedi taflu ymaith ei gochl, a neidiodd i fyny, ac a ddaeth at yr Iesu.
51
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Beth a fyni i mi ei wneuthur i ti? A'r dall a ddywedodd wrtho, Rabboni, cael fy ngolwg.
52
A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Dos ymaith: y mae dy ffydd wedi dy iachâu. Ac yn ebrwydd efe a gafodd ei olwg, ac a'i canlynodd ef ar hyd y ffordd.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16