bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Mark 15
Mark 15
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 16 →
1
Ac yn ebrwydd yn y boreu, yr Arch‐offeiriaid gyd â'r Henuriaid a'r Ysgrifenyddion, ie, yr holl Uchel‐Gynghor, a gydymgynghorasant, ac wedi rhwymo yr Iesu, hwy a'i dygasant ef ymaith, ac a'i traddodasant i Pilat.
2
A gofynodd Pilat iddo, Ai tydi yw Brenin yr Iuddewon? Ac efe, gan ateb, a ddywed wrtho, Tydi ydwyt yn dywedyd.
3
A'r Arch‐offeiriaid oeddynt yn ei gyhuddo ef o lawer o bethau.
4
A Philat drachefn a ofynodd iddo, gan ddywedyd, Onid atebi di ddim? Wele o gymaint o bethau y maent yn dy gyhuddo.
5
Ond yr Iesu mwyach nid atebodd ddim, yn gymaint ag i Pilat ryfeddu.
6
Ac ar bob gwyl yr arferai efe ollwng yn rhydd iddynt un carcharor, yr hwn a ddeisyfent arno.
7
Ac yr oedd un a elwid Barabbas, yr hwn oedd wedi ei garcharu gyd â'r rhai oeddynt wrthryfelwyr, y cyfryw oeddynt wedi gwneyd llofruddiaeth yn y gwrthryfel.
8
A'r dyrfa a aeth i fyny, ac a ddechreuodd geisio ganddo wneuthur, fel yn wastad yr arferai wneuthur iddynt.
9
A Philat a atebodd iddynt, gan ddywedyd, A fynwch chwi i mi i ryddhau i chwi Frenin yr Iuddewon?
10
Canys yr oedd wedi dyfod i wybod, mai o herwydd cenfigen yr oedd yr Arch‐offeiriaid wedi ei draddodi ef.
11
Yr Arch‐offeiriaid a gynhyrfasant y dyrfa, fel y gollyngai efe yn hytrach Barabbas yn rhydd iddynt.
12
A Philat a atebodd ac a ddywedodd drachefn wrthynt, Beth, gan hyny, a fynwch i mi wneuthur i'r hwn yr ydych yn ei alw Brenin yr Iuddewon?
13
A hwy a lefasant drachefn, Croeshoelier ef.
14
Ond Pilat a ddywedodd wrthynt, Paham, canys pa ddrwg a wnaeth efe? Ond hwy a lefasant yn daer, Croeshoelier ef.
15
A Philat yn ewyllysio boddloni y dyrfa, a ryddhaodd Barabbas iddynt, ac a draddododd i fyny yr Iesu, wedi ei fflangellu, i'w groeshoelio.
16
A'r milwyr a'i harweiniasant ef i tu fewn y Llŷs, yr hwn yw y Pretorium, ac y maent yn galw ynghyd yr holl gatrawd,
17
ac yn ei wisgo ef a phorphor; ac wedi plethu coron o ddrain, hwy a'i gosodasant arno;
18
ac a ddechreuasant gyfarch iddo, Henffych well, Brenin yr Iuddewon!
19
A churasant ei ben ef â chorsen, ac a boerasant arno, a chan fyned ar eu gliniau, hwy a'i haddolasant ef.
20
Ac wedi iddynt ei watwar ef, hwy a ddiosgasant y porphor oddi am dano, ac a'i gwisgasant ef â'i ddillad ei hun, ac a'i harweiniasant allan i'w groeshoelio.
21
Ac y maent yn dir‐gymhell i wasanaeth un ag oedd yn myned heibio — Simon o Cyrene, (fel yr oedd yn dyfod o'r wlad) tad Alexander a Rufus — fel y dygai ei groes ef.
22
Ac y maent yn ei ddwyn ef i'r lle, Golgotha, yr hyn yw, wedi ei ddeongli, Lle Penglog:
23
ac a fynent roddi iddo win wedi ei gymysgu a myr: ond efe nis cymmerodd.
24
Ac y maent yn ei groeshoelio ef, ac yn rhanu yn eu plith ei ddillad ef, gan fwrw coelbren arnynt, pa beth a gawsai pob un.
25
A'r drydedd awr ydoedd hi; a hwy a'i croeshoeliasant ef.
26
Ac yr oedd arysgrifen ei drosedd ef wedi ei hysgrifenu uwchlaw, Brenin yr Iuddewon.
27
A chyd âg ef y maent yn croeshoelio dau yspeiliwr: un ar y ddeheu, a'r llall ar ei law aswy.
29
A'r rhai oedd yn myned heibio a'i cablasant ef, gan ysgwyd eu penau, a dywedyd, Ha! Tydi, yr hwn wyt yn tynu i lawr y Cysegr, ac yn ei adeiladu mewn tridiau,
30
gwared dy hun, gan ddisgyn oddiar y groes.
31
Yr un modd yr Arch‐offeiriaid hefyd yn gwatwar yn eu plith eu hunain, gyd â'r Ysgrifenyddion, a ddywedasant, Eraill a waredodd efe, ei hun nid yw yn gallu ei wared.
32
Disgyned y Crist, Brenin Israel, yn wr oddiar y groes, fel y gwelom, ac y credom. A'r rhai oedd wedi eu croeshoelio gyd âg ef a'i difenwasant ef.
33
A phan ddaeth y chweched awr, daeth tywyllwch dros yr holl ddaear hyd y nawfed.
34
Ac ar y nawfed awr y dolefodd yr Iesu â llef uchel, Eloi, Eloi, lama sabachthani: Yr hyn ydyw, wedi ei ddeongli, Fy Nuw, Fy Nuw, Paham yr wyt wedi fy ngadael!
35
A rhai o'r rhai oedd wedi sefyll gerllaw, pan glywsant, a ddywedasant, Wele, Y mae efe yn galw Elias.
36
A rhyw un a redodd, ac a lanwodd yspwng o finegr, ac a'i diododd ef, gan ddywedyd, Gadêwch: gwelwn os ydyw Elias yn dyfod i'w dynu ef i lawr.
37
A'r Iesu a lefodd a llef uchel, ac efe a anadlodd allan ei fywyd.
38
A Llen y Cysegr a rwygwyd yn ddwy, oddi fyny hyd i waered.
39
A phan welodd y Canwriad, yr hwn oedd yn sefyll gerllaw gyferbyn ag ef, iddo felly anadlu allan ei fywyd, efe a ddywedodd, Y dyn hwn oedd Fab Duw.
40
Ac yr oedd yno wragedd hefyd, yn syllu o hirbell: yn mhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago Fychan a Joses, a Salome:
41
y rhai, pan yr oedd efe yn Galilea, a'i canlynasent ef, ac a weiniasent iddo: a gwragedd eraill lawer, y rhai a aethent i fyny gyd âg ef i Jerusalem.
42
A phan oedd hi weithian yn hwyr, am ei bod y Parotoad, yr hwn yw y dydd cyn y Sabbath,
43
daeth Joseph o Arimathea, Cynghorwr o sefyllfa anrhydeddus, yr hwn hefyd ei hun oedd yn dysgwyl Teyrnas Dduw, ac a aeth yn hyf i mewn at Pilat, ac a ddeisyfodd gorff yr Iesu.
44
A Philat a ryfeddodd ei fod wedi marw eisioes; ac efe a alwodd ato y Canwriad, ac a ofynodd iddo os oedd efe wedi marw yn barod.
45
A phan wybu efe oddiwrth y Canwriad, efe a roddodd y corff yn ewyllysgar i Joseph.
46
Ac efe a brynodd lian costfawr, a chan ei dynu ef i lawr, efe a'i hamdôdd ef yn y llian, ac a'i gosododd ef mewn bedd a naddesid allan o'r graig; ac a dreiglodd gareg ar ddrws y bedd.
47
A Mair Magdalen a Mair mam Joses a ddaliasant sylw pa le y dodid ef.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16