bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Jeremiah 22
Jeremiah 22
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 23 →
1
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Dos i waered i du375? brenin Jwda, a llefara yno y gair hwn:
2
'Clyw air yr ARGLWYDD, frenin Jwda, sy'n eistedd ar orsedd Dafydd, tydi a'th weision a'th bobl sy'n tramwy trwy'r pyrth hyn.
3
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Gwnewch farn a chyfiawnder; achubwch yr ysbeiliedig o afael y gormeswr. Peidiwch gwneud cam na niwed i'r dieithr, na'r amddifad na'r weddw, na thywallt gwaed dieuog yn y lle hwn.
4
Os yn wir y cyflawnwch y gair hwn, daw trwy byrth y tu375? hwn frenhinoedd yn eistedd ar orsedd Dafydd, yn teithio mewn cerbydau ac yn marchogaeth ar feirch, pob un 'i weision a'i bobl.
5
Ond os na wrandewch ar y geiriau hyn, af ar fy llw, medd yr ARGLWYDD, y bydd y tu375? hwn yn anghyfannedd.
6
Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth du375? brenin Jwda: Rwyt i mi fel Gilead, a chopa Lebanon; ond fe'th wnaf yn ddiffeithwch ac yn ddinas anghyfannedd.
7
Neilltuaf ddinistrwyr yn dy erbyn, pob un 'i arfau; fe dorrant dy gedrwydd gorau, a'u bwrw i'r tn.
8
Bydd cenhedloedd lawer yn mynd heibio i'r ddinas hon, a phob un yn dweud wrth ei gilydd, "Pam y gwnaeth yr ARGLWYDD fel hyn 'r ddinas fawr hon?"
9
Ac atebant, "Oherwydd iddynt gefnu ar gyfamod yr ARGLWYDD eu Duw, ac addoli duwiau eraill, a'u gwasanaethu."'"
10
Peidiwch ag wylo dros y marw, na gofidio amdano; wylwch yn wir dros yr un sy'n mynd ymaith, oherwydd ni ddychwel mwyach, na gweld gwlad ei enedigaeth.
11
Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am Salum, mab Joseia brenin Jwda, a deyrnasodd yn lle Joseia ei dad: "Aeth allan o'r lle hwn, ac ni ddychwel yma eto;
12
bydd farw yn y lle y caethgludwyd ef iddo, ac ni wl y wlad hon eto."
13
Gwae'r sawl a adeilada'i du375? heb gyfiawnder, a'i lofftydd heb farn, gan fynnu gwasanaeth ei gymydog yn rhad, heb roi iddo ddim am ei waith.
14
Gwae'r sawl a ddywed, "Adeiladaf i mi fy hun du375? eang ac iddo lofftydd helaeth." Gwna iddo ffenestri, a phaneli o gedrwydd, a'i liwio fermiliwn.
15
A wyt yn d'ystyried dy hun yn frenin oherwydd i ti gystadlu mewn cedrwydd? Oni fwytaodd dy dad, ac yfed, gan wneud cyfiawnder a barn, ac yna bu'n dda arno?
16
Barnodd ef achos y tlawd a'r anghenus, ac yna bu'n dda arno. "Onid hyn yw f'adnabod i?" medd yr ARGLWYDD.
17
Nid yw dy lygad na'th galon ond ar dy enillion anghyfiawn, i dywallt gwaed dieuog ac i dreisio a gwneud cam.
18
Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda: "Ni alarant amdano, a dweud, 'O fy mrawd! O fy nghr!' Ni alarant amdano, a dweud, 'O Arglwydd! O Fawrhydi!'
19
Fel claddu asyn y cleddir ef ei lusgo a'i daflu y tu hwnt i byrth Jerwsalem."
20
Dring i Lebanon, a gwaedda; yn Basan cod dy lef; bloeddia o Abarim, "Dinistriwyd pawb sy'n dy garu."
21
Lleferais wrthyt yn dy wynfyd; dywedaist, "Ni wrandawaf." Dyma dy ffordd o'th ieuenctid, ac ni wrandewaist arnaf.
22
Bugeilia'r gwynt dy holl fugeiliaid, ac i gaethiwed yr dy geraint; yna fe'th gywilyddir a'th waradwyddo am dy holl ddrygioni.
23
Ti, sy'n trigo yn Lebanon, ac a fagwyd rhwng y cedrwydd, O fel y llefi pan ddaw arnat wewyr, pangfeydd fel gwraig yn esgor!
24
"Cyn wired 'm bod yn fyw," medd yr ARGLWYDD, "pe byddai Coneia, mab Jehoiacim brenin Jwda, yn fodrwy ar fy llaw dde, fe'th dynnwn di oddi yno,
25
a'th roi yng ngafael y rhai sy'n ceisio dy einioes, ac yng ngafael y rhai yr wyt yn ofni rhagddynt, sef yng ngafael Nebuchadnesar brenin Babilon, ac yn llaw y Caldeaid.
26
Fe'th fwriaf di, a'th fam a'th esgorodd, i wlad ddieithr lle ni'ch ganwyd, ac yno byddwch farw.
27
Ni ddychwelant i'r wlad yr hiraethant am ddychwelyd iddi."
28
Ai llestr dirmygus, drylliedig yw'r dyn hwn, Coneia, teclyn heb ddim hoffus ynddo? Pam y bwriwyd hwy ymaith, ef a'i had, a'u taflu i wlad nad adwaenant?
29
Wlad! Wlad! Wlad! Clyw air yr ARGLWYDD.
30
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Cofrestrwch y gu373?r hwn yn ddi-blant, gu373?r na lwydda ar hyd ei oes; canys ni lwydda neb o'i had ef i eistedd ar orsedd Dafydd, na llywodraethu eto yn Jwda."
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 23 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52