bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Jeremiah 23
Jeremiah 23
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 24 →
1
Gwae chwi fugeiliaid, sydd yn gwasgaru defaid fy mhorfa ac yn eu harwain ar grwydr," medd yr ARGLWYDD.
2
Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, am y bugeiliaid sy'n bugeilio fy mhobl: "Gwasgarasoch fy mhraidd, a'u hymlid ymaith, heb wylio drostynt; ond yr wyf fi am ymweld chwi am eich gwaith drygionus," medd yr ARGLWYDD.
3
"Yr wyf fi am gasglu ynghyd weddill fy mhraidd o'r holl wledydd lle y gyrrais hwy, a'u dwyn drachefn i'w corlan; ac fe amlhnt yn ffrwythlon.
4
Gosodaf arnynt fugeiliaid a'u bugeilia, ac nid ofnant mwyach, na chael braw; ac ni chosbir hwy," medd yr ARGLWYDD.
5
"Wele'r dyddiau yn dod," medd yr ARGLWYDD, "y cyfodaf i Ddafydd Flaguryn cyfiawn, brenin a fydd yn llywodraethu'n ddoeth, yn gwneud barn a chyfiawnder yn y tir.
6
Yn ei ddyddiau ef fe achubir Jwda ac fe drig Israel mewn diogelwch; dyma'r enw a roddir iddo: 'Yr ARGLWYDD ein Cyfiawnder.'
7
"Am hynny, wele'r dyddiau'n dod," medd yr ARGLWYDD, "pryd na ddywed neb mwyach, 'Byw fyddo'r ARGLWYDD a ddygodd dylwyth Israel i fyny o wlad yr Aifft',
8
ond, 'Byw fyddo'r ARGLWYDD a ddygodd dylwyth Israel o dir y gogledd, a'u tywys o'r holl wledydd lle y gyrrais hwy, i drigo eto yn eu gwlad eu hunain.'"
9
Am y proffwydi: Torrodd fy nghalon, y mae fy esgyrn i gyd yn crynu; yr wyf fel dyn mewn diod, gu373?r wedi ei orchfygu gan win, oherwydd yr ARGLWYDD ac oherwydd ei eiriau sanctaidd.
10
Y mae'r tir yn llawn o odinebwyr, ac o'u herwydd hwy y mae'r wlad wedi ei deifio, y mae porfeydd yr anialwch wedi crino; y mae eu hynt yn ddrwg a'u cadernid yn ddim.
11
"Aeth proffwyd ac offeiriad yn annuwiol; o fewn fy nhu375? y cefais eu drygioni," medd yr ARGLWYDD.
12
"Am hynny bydd eu ffyrdd fel mannau llithrig; gyrrir hwy i'r tywyllwch, a byddant yn syrthio yno. Canys dygaf ddrygioni arnynt ym mlwyddyn eu cosbi," medd yr ARGLWYDD.
13
"Ymhlith proffwydi Samaria gwelais beth anweddus: y maent yn proffwydo yn enw Baal, ac yn hudo fy mhobl Israel ar gyfeiliorn.
14
Ymhlith proffwydi Jerwsalem gwelais beth erchyll: godinebu a rhodio mewn anwiredd; y maent yn cynnal breichiau'r rhai drygionus, fel na thry neb oddi wrth ei ddrygioni. I mi aethant oll fel Sodom, a'u trigolion fel Gomorra."
15
Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw y Lluoedd, am y proffwydi: "Wele, rhof wermod yn fwyd iddynt, a du373?r bustl yn ddiod, canys o blith proffwydi Jerwsalem aeth annuwioldeb allan trwy'r holl dir."
16
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: "Peidiwch gwrando ar eiriau'r proffwydi sy'n proffwydo i chwi, gan addo i chwi bethau ffals; y maent yn llefaru gweledigaeth o'u dychymyg eu hunain, ac nid o enau yr ARGLWYDD.
17
Parhnt i ddweud wrth y rhai sy'n dirmygu gair yr ARGLWYDD, 'Heddwch fo i chwi'; ac wrth bob un sy'n rhodio yn l ystyfnigrwydd ei galon dywedant, 'Ni ddaw arnoch niwed.'
18
"Pwy a safodd yng nghyngor yr ARGLWYDD, a gweld a chlywed ei air? Pwy a ddaliodd ar ei air, a'i wrando?
19
Wele gorwynt yr ARGLWYDD yn mynd allan yn ffyrnig, gan chwyrlo fel tymestl, a throelli uwchben yr annuwiol.
20
Ni phaid digofaint yr ARGLWYDD nes iddo gwblhau ei fwriadau a'u cyflawni. Yn y dyddiau diwethaf y deallwch hyn yn eglur.
21
Nid anfonais y proffwydi, ond eto fe redant; ni leferais wrthynt, ond eto fe broffwydant.
22
Pe baent wedi sefyll yn fy nghyngor, byddent wedi peri i'm pobl wrando ar fy ngeiriau, a'u troi o'u ffyrdd drygionus ac o'u gweithredoedd drwg.
23
"Onid Duw agos wyf fi," medd yr ARGLWYDD, "ac nid Duw pell?
24
A all unrhyw un lechu yn y dirgel fel na welaf mohono?" medd yr ARGLWYDD. "Onid wyf yn llenwi'r nefoedd a'r ddaear?" medd yr ARGLWYDD.
25
"Clywais yr hyn a ddywedodd y proffwydi sy'n proffwydo celwydd yn fy enw gan ddweud, 'Breuddwydiais, breuddwydiais!'
26
Pa hyd yr erys ym mwriad y proffwydi broffwydo celwydd proffwydi hudoliaeth eu calon eu hunain?
27
Bwriadant beri i'm pobl anghofio fy enw trwy adrodd eu breuddwydion y naill wrth y llall, fel y bu i'w hynafiaid anghofio fy enw o achos Baal.
28
Y proffwyd sydd breuddwyd ganddo, myneged ei freuddwyd, a'r hwn sydd 'm gair i ganddo, llefared fy ngair yn ffyddlon. Beth sy'n gyffredin rhwng gwellt a gwenith?" medd yr ARGLWYDD.
29
"Onid yw fy ngair fel tn," medd yr ARGLWYDD, "ac fel gordd sy'n dryllio'r graig?
30
Am hynny, wele fi yn erbyn y proffwydi sy'n lladrata fy ngeiriau oddi ar ei gilydd," medd yr ARGLWYDD.
31
"Wele fi yn erbyn y proffwydi sy'n llunio geiriau ac yn eu cyhoeddi fel oracl," medd yr ARGLWYDD.
32
"Wele fi yn erbyn y rhai sy'n proffwydo breuddwydion gau, yn eu hadrodd, ac yn hudo fy mhobl 'u hanwiredd a'u gwagedd," medd yr ARGLWYDD. "Nid anfonais i mohonynt, na rhoi gorchymyn iddynt; ni wnnt ddim lles i'r bobl hyn," medd yr ARGLWYDD.
33
"Pan ofynnir iti gan y bobl hyn, neu gan broffwyd neu offeiriad, 'Beth yw baich yr ARGLWYDD?' dywedi wrthynt, 'Chwi yw'r baich; ac fe'ch bwriaf ymaith, medd yr ARGLWYDD.'
34
Os dywed proffwyd neu offeiriad neu'r bobl, 'Baich yr ARGLWYDD', mi gosbaf hwnnw a'i du375?.
35
Fel hyn y bydd pob un ohonoch yn dweud wrth siarad ymhlith eich gilydd: 'Beth a etyb yr ARGLWYDD?' neu, 'Beth a lefara'r ARGLWYDD?'
36
Ond ni fyddwch yn sn eto am 'faich yr ARGLWYDD', oherwydd daeth 'baich' i olygu eich gair chwi eich hunain; yr ydych wedi gwyrdroi geiriau'r Duw byw, ARGLWYDD y Lluoedd, ein Duw ni.
37
Fel hyn y dywedi wrth y proffwyd hwnnw: 'Pa ateb a roes yr ARGLWYDD iti?', neu, 'Beth a lefarodd wrthyt?'
38
Ac os dywedwch, 'Baich yr ARGLWYDD', yna, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Am i chwi ddefnyddio'r gair hwn, 'Baich yr ARGLWYDD', er i mi anfon atoch a dweud, 'Peidiwch defnyddio "Baich yr ARGLWYDD",'
39
fe'ch codaf chwi fel baich a'ch taflu o'm gu373?ydd, chwi a'r ddinas a roddais i chwi ac i'ch hynafiaid.
40
Rhof arnoch warth tragwyddol a gwaradwydd tragwyddol nas anghofir."
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 24 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52