bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Jeremiah 31
Jeremiah 31
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 30
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 32 →
1
"Yr adeg honno," medd yr ARGLWYDD, "byddaf fi'n Dduw i holl deuluoedd Israel, a byddant hwy'n bobl i mi."
2
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Cafodd y bobl a osgdd y cleddyf ffafr yn yr anialwch; tramwyodd Israel i gael llonydd iddo'i hun.
3
Erstalwm ymddangosodd yr ARGLWYDD iddo. Cerais di chariad diderfyn; am hynny parheais yn ffyddlon iti.
4
Adeiladaf di drachefn, y wyryf Israel, a chei dy adeiladu; cei ymdrwsio eto 'th dympanau, a mynd allan yn llawen i'r ddawns.
5
Cei blannu eto winllannoedd ar fryniau Samaria, a'r rhai sy'n plannu fydd yn cymryd y ffrwyth.
6
Oherwydd daw dydd pan fydd gwylwyr ym Mynydd Effraim yn galw, 'Codwch, dringwn i Seion at yr ARGLWYDD ein Duw.'"
7
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Canwch orfoledd i Jacob, a chodwch gn i'r bennaf o'r cenhedloedd; cyhoeddwch, molwch a dywedwch, 'Gwaredodd yr ARGLWYDD dy bobl, sef gweddill Israel.'
8
"Ie, dygaf hwy o dir y gogledd, casglaf hwy o bellafoedd byd; gyda hwy daw'r dall a'r cloff, y feichiog ynghyd 'r hon sy'n esgor; yn gynulliad mawr fe ddychwelant yma.
9
Dnt dan wylo, ond arweiniaf fi hwy thosturi, tywysaf hwy wrth ffrydiau dyfroedd ar ffordd union na faglant ynddi. Yr wyf yn dad i Israel, ac Effraim yw fy nghyntafanedig.
10
"Clywch air yr ARGLWYDD, genhedloedd; cyhoeddwch yn yr ynysoedd pell, a dweud, 'Yr un a wasgarodd Israel fydd yn ei gasglu; bydd yn gwylio drosto fel bugail dros ei braidd.'
11
Canys yr ARGLWYDD a waredodd Jacob, a'i achub o afael un trech nag ef.
12
Dnt a chanu yn uchelder Seion; ymddisgleiriant gan ddaioni'r ARGLWYDD, oherwydd yr u375?d a'r gwin a'r olew, ac oherwydd epil y defaid a'r gwartheg. A bydd eu bywyd fel gardd ddyfradwy, heb ddim nychdod mwyach.
13
Yna fe lawenha'r ferch mewn dawns, a'r gwu375?r ifainc a'r hen hefyd ynghyd; trof eu galar yn orfoledd a diddanaf hwy; gwnaf eu llawenydd yn fwy na'u gofid.
14
Diwallaf yr offeiriaid braster, a digonir fy mhobl 'm daioni," medd yr ARGLWYDD.
15
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Clywir llef yn Rama, galarnad ac wylofain, Rachel yn wylo am ei phlant, yn gwrthod ei chysuro am ei phlant, oherwydd nad ydynt mwy."
16
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Paid ag wylo, ymatal rhag dagrau, oherwydd y mae elw i'th lafur," medd yr ARGLWYDD; "dychwelant o wlad y gelyn.
17
Y mae gobaith iti yn y diwedd," medd yr ARGLWYDD; "fe ddychwel dy blant i'w bro eu hunain.
18
Gwrandewais yn astud ar Effraim yn cwyno, 'Disgyblaist fi fel llo heb ei ddofi, a chymerais fy nisgyblu; adfer fi, imi ddychwelyd, oherwydd ti yw'r ARGLWYDD fy Nuw.
19
Wedi imi droi, bu edifar gennyf; wedi i mi ddysgu, trewais fy nghlun; cefais fy nghywilyddio a'm gwaradwyddo, gan ddwyn gwarth fy ieuenctid.'
20
"A yw Effraim yn fab annwyl, ac yn blentyn hyfryd i mi? Bob tro y llefaraf yn ei erbyn, parhaf i'w gofio o hyd. Y mae fy enaid yn dyheu amdano, ni allaf beidio thrugarhau wrtho," medd yr ARGLWYDD.
21
"Cyfod iti arwyddion, gosod iti fynegbyst, astudia'r ffordd yn fanwl, y briffordd a dramwyaist; dychwel, wyryf Israel, dychwel i'th ddinasoedd hyn.
22
Pa hyd y byddi'n ymdroi, ferch anwadal? Y mae'r ARGLWYDD wedi creu peth newydd ar y ddaear, benyw yn amddiffyn gu373?r."
23
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: "Dywedir eto y gair hwn yn nhir Jwda a'i dinasoedd, pan adferaf ei llwyddiant: 'Bendithied yr ARGLWYDD di, gartref cyfiawnder, fynydd sanctaidd.'
24
Yno bydd Jwda a'i dinasoedd yn preswylio ynghyd, yr amaethwyr a bugeiliaid y praidd;
25
paraf wlychu llwnc y sychedig, a digoni pob un sydd yn nychu."
26
Ar hyn deffroais a sylwi, a melys oedd fy nghwsg imi.
27
"Y mae'r dyddiau'n dod," medd yr ARGLWYDD, "yr heuaf du375? Israel a thu375? Jwda had dyn ac had anifail.
28
Ac fel y gwyliais drostynt i ddiwreiddio a thynnu i lawr, i ddymchwel a dinistrio a pheri drwg, felly y gwyliaf drostynt i adeiladu a phlannu," medd yr ARGLWYDD.
29
"Yn y dyddiau hynny, ni ddywedir mwyach, 'Y rhieni fu'n bwyta grawnwin surion, ond ar ddannedd y plant y mae dincod.'
30
Oherwydd bydd pob un yn marw am ei gamwedd ei hun; y sawl fydd yn bwyta grawnwin surion, ar ei ddannedd ef y bydd dincod.
31
"Y mae'r dyddiau'n dod," medd yr ARGLWYDD, "y gwnaf gyfamod newydd thu375? Israel ac thu375? Jwda.
32
Ni fydd yn debyg i'r cyfamod a wneuthum 'u hynafiaid, y dydd y gafaelais yn eu llaw i'w harwain allan o wlad yr Aifft. Torasant y cyfamod hwnnw, er mai myfi oedd yn arglwydd arnynt," medd yr ARGLWYDD.
33
"Ond dyma'r cyfamod a wnaf thu375? Israel ar l y dyddiau hynny," medd yr ARGLWYDD; "rhof fy nghyfraith o'u mewn, ysgrifennaf hi ar eu calon, a byddaf fi'n Dduw iddynt a hwythau'n bobl i mi.
34
Ac ni fyddant mwyach yn dysgu bob un ei gymydog a phob un ei berthynas, gan ddweud, 'Adnebydd yr ARGLWYDD'; oblegid byddant i gyd yn f'adnabod, o'r lleiaf hyd y mwyaf ohonynt," medd yr ARGLWYDD, "oherwydd maddeuaf iddynt eu drygioni, ac ni chofiaf eu pechodau byth mwy."
35
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, sy'n rhoi'r haul yn oleuni'r dydd, a threfn y lleuad a'r sr yn oleuni'r nos, sy'n cynhyrfu'r mr nes bod ei donnau'n rhuo (ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw):
36
"Os cilia'r drefn hon o'm gu373?ydd," medd yr ARGLWYDD, "yna bydd had Israel yn peidio hyd byth bod yn genedl ger fy mron."
37
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Pe gellid mesur y nefoedd fry, a chwilio sylfeini'r ddaear isod, gwrthodwn innau hefyd holl had Israel am yr holl bethau a wnaethant," medd yr ARGLWYDD.
38
"Y mae'r dyddiau'n dod," medd yr ARGLWYDD, "yr ailadeiledir y ddinas i'r ARGLWYDD, o du373?r Hananel hyd Borth y Gongl,
39
a gosodir y llinyn mesur eto gyferbyn hi, dros fryn Gareb, a throi tua Goath.
40
A bydd holl ddyffryn y celanedd a'r lludw, a'r holl feysydd hyd nant Cidron, hyd gongl Porth y Meirch yn y dwyrain, yn sanctaidd i'r ARGLWYDD. Ni ddiwreiddir mo'r ddinas, ac ni ddymchwelir mohoni mwyach hyd byth."
← Chapter 30
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 32 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52