bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Jeremiah 49
Jeremiah 49
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 48
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 50 →
1
Am yr Ammoniaid, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Onid oes meibion gan Israel? Onid oes etifedd iddo? Pam, ynteu, yr etifeddodd Milcom diriogaeth Gad, a pham y mae ei bobl yn preswylio yn ninasoedd Israel?
2
Am hynny, y mae'r dyddiau yn dod," medd yr ARGLWYDD, "y paraf glywed utgorn rhyfel yn erbyn Rabba'r Ammoniaid, a bydd yn garnedd anghyfannedd, a llosgir ei phentrefi thn; yna difreinia Israel y rhai a'i difreiniodd hi," medd yr ARGLWYDD.
3
"Uda, Hesbon, oherwydd anrheithiwyd Ai; gwaeddwch, ferched Rabba, gwisgwch wregys o sachliain, galarwch, rhedwch gan rwygo eich cyrff; canys Milcom i gaethglud ynghyd 'i offeiriaid a'i benaethiaid.
4
Pam yr ymffrosti yn dy ddyffrynnoedd? O ferch anffyddlon, sy'n ymddiried yn ei thrysorau cudd, ac yn dweud, 'Pwy a ddaw yn fy erbyn?'
5
Yr wyf yn dwyn arswyd arnat," medd ARGLWYDD Dduw y Lluoedd, "rhag pawb sydd o'th amgylch; fe'ch gyrrir allan, bob un ar ei gyfer, ac ni bydd neb i gynnull y ffoaduriaid.
6
Ac wedi hynny adferaf lwyddiant yr Ammoniaid," medd yr ARGLWYDD.
7
Am Edom, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: "Onid oes doethineb mwyach yn Teman? A ddifethwyd cyngor o blith y deallus, ac a fethodd eu doethineb hwy?
8
Ffowch, trowch eich cefn, trigwch mewn cilfachau, chwi breswylwyr Dedan; canys dygaf drychineb Esau arno pan gosbaf ef.
9
Pe di cynaeafwyr gwin atat, yn ddiau gadawent loffion grawn; pe di lladron liw nos, nid ysbeilient ond yr hyn a'u digonai.
10
Ond yr wyf fi wedi llwyr ddinoethi Esau; datguddiais ei fannau cudd, ac nid oes ganddo unman i ymguddio. Difethwyd ei blant a'i dylwyth a'i gymdogion, ac nid ydynt mwyach.
11
Gad dy rai amddifaid; fe'u cadwaf yn fyw; bydded i'th weddwon ymddiried ynof fi."
12
Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; "Wele, y rhai ni ddyfarnwyd iddynt yfed o'r cwpan, bu raid iddynt yfed. A ddihengi di yn ddigerydd? Na wnei, ond bydd raid i tithau yfed.
13
Canys tyngais i mi fy hun," medd yr ARGLWYDD, "y bydd Bosra yn anghyfannedd, yn warth, yn anialwch ac yn felltith, a'i holl ddinasoedd yn ddiffeithwch oesol."
14
Clywais genadwri gan yr ARGLWYDD; anfonwyd cennad i blith y cenhedloedd: "Ymgasglwch, dewch yn ei herbyn, codwch i'r frwydr.
15
Canys wele, gwnaf di'n fach ymysg y cenhedloedd, yn ddirmygedig ymhlith pobloedd.
16
Y mae'r arswyd a beraist wedi dy dwyllo; gwnaeth dy galon yn falch. Tydi sy'n trigo yn holltau'r graig ac yn glynu wrth grib y bryniau, er i ti osod dy nyth cyn uched 'r eryr, fe'th hyrddiaf i lawr oddi yno," medd yr ARGLWYDD.
17
"Bydd Edom yn anghyfannedd, a phawb sy'n mynd heibio yn arswydo, gan synnu oherwydd ei holl glwyfau.
18
Fel pan ddinistriwyd Sodom a Gomorra a'u cymdogion," medd yr ARGLWYDD, "ni fydd neb yn aros nac yn ymweld hi.
19
Wele, fel llew'n dod i fyny o wlad wyllt yr Iorddonen i'r borfa barhaol, ymlidiaf hwy ymaith yn ddisymwth oddi wrthi. Pwy a ddewisaf i'w osod drosti? Oherwydd pwy sydd fel myfi? Pwy a'm geilw i i gyfrif? Pwy yw'r bugail a saif o'm blaen i?
20
Am hynny, clywch yr hyn a fwriadodd yr ARGLWYDD yn erbyn Edom, a'i gynlluniau yn erbyn preswylwyr Teman: yn ddiau, fe lusgir ymaith hyd yn oed y lleiaf o'r praidd; yn ddiau, bydd eu porfeydd yn arswydo o'u plegid.
21
Fe gryn y ddaear gan su373?n eu cwymp; clywir eu cri wrth y Mr Coch.
22
Ie, bydd un yn codi, yn ehedeg fel eryr, ac yn lledu ei adenydd yn erbyn Bosra; a bydd calon cedyrn Edom y dydd hwnnw fel calon gwraig wrth esgor."
23
Am Ddamascus. "Gwaradwyddwyd Hamath ac Arpad, canys clywsant newydd drwg; cynhyrfir hwy gan bryder, fel y mr na ellir ei dawelu.
24
Llesgaodd Damascus, a throdd i ffoi; goddiweddodd dychryn hi, a gafaelodd cryndod a gwasgfa ynddi fel mewn gwraig wrth esgor.
25
Mor wrthodedig yw dinas moliant, caer llawenydd!
26
Am hynny fe syrth ei gwu375?r ifainc yn ei heolydd, a dinistrir ei holl filwyr y dydd hwnnw," medd ARGLWYDD y Lluoedd.
27
"Mi gyneuaf dn ym mur Damascus, ac fe ddifa lysoedd Ben-hadad."
28
Am Cedar, a theyrnasoedd Hasor, y rhai a drawyd gan Nebuchadnesar brenin Babilon, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Codwch, esgynnwch yn erbyn Cedar; anrheithiwch bobl y dwyrain.
29
Cymerir ymaith eu pebyll a'u diadellau, llenni eu pebyll, a'u celfi i gyd; dygir eu camelod oddi arnynt, a bloeddir wrthynt, 'Dychryn ar bob llaw!'
30
Ffowch, rhedwch ymhell; trigwch mewn cilfachau, chwi breswylwyr Hasor," medd yr ARGLWYDD; "oherwydd gwnaeth Nebuchadnesar brenin Babilon gynllwyn, a lluniodd gynllun yn eich erbyn.
31
Codwch, esgynnwch yn erbyn y genedl ddiofal, sy'n byw'n ddiogel," medd yr ARGLWYDD, "heb ddorau na barrau iddi, a'i phobl yn byw iddynt eu hunain.
32
Bydd eu camelod yn anrhaith, a'u minteioedd anifeiliaid yn ysbail; gwasgaraf tua phob gwynt y rhai sydd 'u talcennau'n foel; o bob cyfeiriad dygaf arnynt eu dinistr," medd yr ARGLWYDD.
33
"Bydd Hasor yn gynefin siacaliaid, ac yn anghyfannedd byth; ni fydd neb yn byw ynddi, nac unrhyw un yn aros yno."
34
Dyma air yr ARGLWYDD, a ddaeth at y proffwyd Jeremeia am Elam, yn nechrau teyrnasiad Sedeceia brenin Jwda:
35
"Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: 'Yr wyf am dorri bwa Elam, eu cadernid pennaf hwy.
36
Dygaf ar Elam bedwar gwynt, o bedwar cwr y nefoedd; gwasgaraf hwy tua'r holl wyntoedd hyn; ni bydd cenedl na ddaw ffoaduriaid Elam ati.
37
Canys gyrraf ar Elam ofn o flaen eu gelynion ac o flaen y rhai sy'n ceisio'u heinioes; dygaf arnynt ddinistr, sef angerdd fy nigofaint,' medd yr ARGLWYDD. 'Gyrraf y cleddyf ar eu hl, nes i mi eu llwyr ddifetha.
38
A gosodaf fy ngorseddfainc yn Elam, a difa oddi yno y brenin a'r swyddogion,' medd yr ARGLWYDD.
39
"Ond yn y dyddiau diwethaf mi adferaf lwyddiant Elam," medd yr ARGLWYDD.
← Chapter 48
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 50 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52