bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Jeremiah 5
Jeremiah 5
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 6 →
1
"Rhedwch yma a thraw trwy heolydd Jerwsalem, edrychwch a sylwch; chwiliwch yn ei lleoedd llydain a oes un i'w gael sy'n gwneud barn ac yn ceisio gwirionedd, er mwyn i mi ei harbed hi.
2
Er iddynt ddweud, 'Byw yw'r ARGLWYDD', eto tyngu'n gelwyddog y maent."
3
O ARGLWYDD, onid ar wirionedd y mae dy lygaid di? Trewaist hwy, ond ni fu'n ofid iddynt; difethaist hwy, ond gwrthodasant dderbyn cerydd. Gwnaethant eu hwynebau'n galetach na charreg, a gwrthod dychwelyd.
4
Yna dywedais, "Nid yw'r rhai hyn ond tlodion; ynfydion ydynt, a heb wybod ffordd yr ARGLWYDD na gofynion eu Duw.
5
Mi af yn hytrach at y mawrion, i ymddiddan hwy; fe wyddant hwy ffordd yr ARGLWYDD a gofynion eu Duw. Ond y maent hwythau'n ogystal wedi malurio'r iau, a dryllio'r tresi.
6
Am hyn, bydd llew o'r coed yn eu taro i lawr, a blaidd o'r anialwch yn eu distrywio; bydd llewpard yn gwylio'u dinasoedd ac yn llarpio pob un a ddaw allan ohonynt; oherwydd amlhaodd eu troseddau a chynyddodd eu gwrthgiliad.
7
"Sut y maddeuaf iti am hyn? Y mae dy blant wedi fy ngadael, ac wedi tyngu i'r rhai nad ydynt dduwiau. Diwellais hwy, eto gwnaethant odineb a heidio i du375?'r butain.
8
Yr oeddent fel meirch nwydus a phorthiannus, pob un yn gweryru am gaseg ei gymydog.
9
Onid ymwelaf chwi am hyn?" medd yr ARGLWYDD. "Oni ddialaf ar y fath genedl hon?
10
"Tramwywch trwy ei rhesi gwinwydd, a dinistriwch hwy, ond peidiwch gwneud diwedd llwyr. Torrwch ymaith ei brigau, canys nid eiddo'r ARGLWYDD mohonynt.
11
Oherwydd bradychodd tu375? Israel a thu375? Jwda fi'n llwyr," medd yr ARGLWYDD.
12
Buont yn gelwyddog am yr ARGLWYDD a dweud, "Ni wna ef ddim. Ni ddaw drwg arnom, ni welwn gleddyf na newyn;
13
nid yw'r proffwydi ond gwynt, nid yw'r gair yn eu plith. Fel hyn y gwneir iddynt."
14
Am hynny, dyma air yr ARGLWYDD, Duw y Lluoedd: "Am i chwi siarad fel hyn, dyma fi'n rhoi fy ngeiriau yn dy enau fel tn, a'r bobl hyn yn gynnud, ac fe'u difa.
15
Wele, fe ddygaf yn eich erbyn, du375? Israel, genedl o bell hen genedl, cenedl o'r oesoedd gynt," medd yr ARGLWYDD, "cenedl nad wyt yn gwybod ei hiaith, nac yn deall yr hyn y mae'n ei ddweud.
16
Y mae ei chawell saethau fel bedd agored; gwu375?r cedyrn ydynt oll.
17
Fe ysa dy gynhaeaf a'th fara; ysa dy feibion a'th ferched; ysa dy braidd a'th wartheg; ysa dy winwydd a'th ffigyswydd; distrywia chleddyf dy ddinasoedd caerog, y dinasoedd yr wyt yn ymddiried ynddynt.
18
"Ac eto yn y dyddiau hynny," medd yr ARGLWYDD, "ni ddygaf ddiwedd llwyr arnoch.
19
Pan ddywedwch, 'Pam y gwnaeth yr ARGLWYDD ein Duw yr holl bethau hyn i ni?', fe ddywedi wrthynt, 'Fel y bu i chwi fy ngwrthod i, a gwasanaethu duwiau estron yn eich tir, felly y gwasanaethwch bobl ddieithr mewn gwlad nad yw'n eiddo i chwi.'
20
"Mynegwch hyn yn nhu375? Jacob, cyhoeddwch hyn yn Jwda a dweud,
21
'Clywch hyn yn awr, bobl ynfyd, ddiddeall: y mae ganddynt lygaid, ond ni welant; clustiau, ond ni chlywant.
22
Onid oes arnoch fy ofn i?' medd yr ARGLWYDD. 'Oni chrynwch o'm blaen? Mi osodais y tywod yn derfyn i'r mr, yn derfyn sicr na all ei groesi; pan ymgasgla'r tonnau ni thyciant, pan rua'r dyfroedd nid nt drosto.
23
Ond calon wrthnysig a gwrthryfelgar sydd gan y bobl hyn; y maent yn parhau i wrthgilio.
24
Ac ni ddywedant yn eu calon, "Bydded inni ofni'r ARGLWYDD ein Duw, sy'n rhoi'r glaw, a chawodydd y gwanwyn a'r hydref yn eu pryd, a sicrhau i ni wythnosau penodedig y cynhaeaf."
25
Ond y mae eich camweddau wedi rhwystro hyn, a'ch pechodau wedi atal daioni rhagoch.
26
Oherwydd cafwyd rhai drwg ymhlith fy mhobl; y maent yn gwylio fel un yn gosod magl, ac yn gosod offer dinistr i ddal pobl.
27
Fel y mae cawell yn llawn o adar, felly y mae eu tai yn llawn o dwyll.
28
Trwy hynny aethant yn fawr a chyfoethog, yn dew a bras. Aethant hefyd y tu hwnt i weithredoedd drwg; ni roddant ddedfryd deg i'r amddifad, i beri iddo lwyddo, ac nid ydynt yn iawn farnu achos y tlawd.
29
Onid ymwelaf chwi am hyn?' medd yr ARGLWYDD. 'Oni ddialaf ar y fath genedl hon?
30
Peth aruthr ac erchyll a ddaeth i'r wlad.
31
Y mae'r proffwydi yn proffwydo celwydd, a'r offeiriaid yn cyfarwyddo'n unol hynny, a'm pobl yn hoffi'r peth. Ond beth a wnewch yn y diwedd?'"
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52