bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Jeremiah 40
Jeremiah 40
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 39
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 41 →
1
Dyma'r gair oddi wrth yr ARGLWYDD a ddaeth at Jeremeia wedi i Nebusaradan, pennaeth y milwyr, ei ollwng yn rhydd o Rama. Yr oedd wedi ei ddwyn yno mewn rhwymau yng nghanol yr holl garcharorion o Jerwsalem a Jwda oedd yn cael eu caethgludo i Fabilon.
2
Cymerodd pennaeth y milwyr Jeremeia a dweud wrtho, "Rhag-fynegodd yr ARGLWYDD dy Dduw y drwg hwn yn erbyn y lle hwn,
3
a chyflawnodd ei eiriau, oherwydd pechasoch yn erbyn yr ARGLWYDD; ni wrandawsoch arno, a daeth yr aflwydd hwn arnoch.
4
Edrych yn awr, yr wyf yn dy ryddhau di heddiw o'r cadwynau sydd arnat. Os wyt yn dewis dod gyda mi i Fabilon, tyrd, a gofalaf amdanat; os nad wyt yn dewis dod gyda mi, paid; edrych, y mae'r holl wlad o'th flaen, dos i'r fan sydd orau gennyt.
5
Os yw'n well gennyt aros, dychwel at Gedaleia fab Ahicam, fab Saffan, a osododd brenin Babilon yn arolygydd dros ddinasoedd Jwda, ac aros gydag ef ymhlith y bobl; neu dos i'r lle a fynni." Rhoddodd pennaeth y milwyr iddo ddogn o fwyd, a rhodd, a'i ollwng ymaith.
6
Aeth Jeremeia i Mispa at Gedaleia fab Ahicam, ac aros gydag ef ymhlith y bobl oedd wedi eu gadael yn y wlad.
7
Pan glywodd holl swyddogion y lluoedd, a'r milwyr oedd ar hyd y wlad, fod brenin Babilon wedi gosod Gedaleia fab Ahicam i arolygu'r wlad, ac i fwrw golwg dros y rhai tlawd, yn wu375?r, gwragedd a phlant, oedd heb eu caethgludo i Fabilon,
8
fe ddaethant at Gedaleia i Mispa. Daeth Ismael fab Nethaneia, Johanan a Jonathan, meibion Carea, a Seraia fab Tanhumeth, a meibion Effai o Netoffa, a Jesaneia mab y Maachathiad, y rhain i gyd a'u milwyr;
9
a thyngodd Gedaleia fab Ahicam, fab Saffan wrthynt ac wrth eu milwyr, gan ddweud, "Peidiwch ag ofni gwasanaethu'r Caldeaid; cartrefwch yn y wlad, a gwasanaethu brenin Babilon, a bydd yn dda arnoch.
10
Byddaf fi'n byw yn Mispa, i wasanaethu'r Caldeaid a fydd yn dod atom; cewch chwi gasglu'r gwin a'r ffrwythau haf a'r olew, a'u rhoi yn eich llestri, a thrigo yn y dinasoedd a feddiannwch."
11
Yna clywodd yr holl Iddewon oedd yn Moab, ac ymhlith Ammon ac yn Edom ac yn yr holl wledydd, fod brenin Babilon wedi gadael gweddill yn Jwda, a gosod Gedaleia fab Ahicam, fab Saffan yn arolygydd arnynt;
12
a dychwelodd yr holl Iddewon o'r mannau lle gwasgarwyd hwy i Jwda, at Gedaleia yn Mispa, a chasglu str helaeth o win a ffrwythau haf.
13
Daeth Johanan fab Carea, a holl swyddogion y lluoedd oedd ar hyd y wlad, at Gedaleia yn Mispa,
14
a dweud wrtho, "A wyddost ti fod Baalis brenin yr Ammoniaid wedi anfon Ismael fab Nethaneia i'th ladd di?" Ond ni chredai Gedaleia fab Ahicam hwy.
15
A dywedodd Johanan fab Carea yn gyfrinachol wrth Gedaleia yn Mispa, "Da ti, gad imi fynd, heb yn wybod i neb, a lladd Ismael fab Nethaneia. Pam y caiff ef dy ladd di, a gwasgaru'r holl Iddewon a ymgasglodd atat, a pheri i'r gweddill yn Jwda ddarfod?"
16
Ond dywedodd Gedaleia fab Ahicam wrth Johanan fab Carea, "Paid gwneud hynny, oherwydd yr wyt yn dweud celwydd am Ismael."
← Chapter 39
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 41 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52