bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Jeremiah 52
Jeremiah 52
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 51
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
1
Un ar hugain oed oedd Sedeceia pan ddechreuodd deyrnasu, a theyrnasodd yn Jerwsalem am un mlynedd ar ddeg; enw ei fam oedd Hamutal merch Jeremeia o Libna.
2
Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn union fel yr oedd Jehoiacim wedi gwneud;
3
ac oherwydd digofaint yr ARGLWYDD cafodd Jerwsalem a Jwda eu bwrw allan o'i u373?ydd. Gwrthryfelodd Sedeceia yn erbyn brenin Babilon,
4
ac yn nawfed flwyddyn ei deyrnasiad, yn y degfed mis, ar y degfed dydd o'r mis, daeth Neb-uchadnesar brenin Babilon, gyda'i holl fyddin, yn erbyn Jerwsalem, a chodi gwarchae yn ei herbyn ac adeiladu tyrau gwarchae o'i hamgylch.
5
Bu'r ddinas dan warchae hyd yr unfed flwyddyn ar ddeg o deyrnasiad Sedeceia.
6
Yn y pedwerydd mis, ar y nawfed dydd o'r mis, yr oedd y newyn yn drwm yn y ddinas, ac nid oedd bwyd i'r werin.
7
Yna bylchwyd y muriau, a ffodd yr holl ryfelwyr allan o'r ddinas yn y nos drwy'r porth rhwng y ddau fur, gerllaw gardd y brenin, er bod y Caldeaid o amgylch y ddinas. Aethant i gyfeiriad yr Araba.
8
Aeth llu'r Caldeaid i ymlid y brenin, a goddiweddyd Sedeceia yn rhosydd Jericho, a'i holl lu ar wasgar oddi wrtho.
9
Daliwyd y brenin, a'i ddwyn o flaen brenin Babilon yn Ribla, yng ngwlad Hamath; a barnwyd ei achos ef.
10
Lladdodd brenin Babilon feibion Sedeceia o flaen ei lygaid; lladdodd hefyd holl benaethiaid Jwda yn Ribla.
11
Yna fe dynnodd lygaid Sedeceia, a'i rwymo chadwyni, a dygodd brenin Babilon ef i Fabilon, a'i roi mewn carchar hyd ddydd ei farw.
12
Yn y pumed mis, ar y degfed dydd o'r mis, yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg i'r Brenin Nebuchadnesar, brenin Babilon, daeth Nebusaradan, pennaeth y gosgorddlu oedd yn gwasanaethu'r brenin, i Jerwsalem,
13
a llosgi thn du375?'r ARGLWYDD, a thu375?'r brenin, a'r holl dai yn Jerwsalem, sef holl dai y bobl fawr.
14
Drylliodd llu y Caldeaid, a oedd gyda phennaeth y gosgorddlu, yr holl furiau oedd yn amgylchu Jerwsalem.
15
Caethgludodd Nebusaradan, capten y gwarchodlu, weddill y bobl dlawd a adawyd ar l yn y ddinas, a hefyd y rhai a giliodd at frenin Babilon, ynghyd gweddill y crefftwyr.
16
Ond gadawodd Nebusaradan, pennaeth y gosgorddlu, rai o dlodion y wlad i fod yn winllanwyr ac amaethwyr.
17
Drylliodd y Caldeaid y colofnau pres oedd yn nhu375?'r ARGLWYDD, a'r trolau a'r mr pres yn nhu375?'r ARGLWYDD, a chymryd y pres i Fabilon;
18
cymerasant hefyd y crochanau, y rhawiau, y sisyrnau, y cawgiau, y thuserau, a'r holl lestri pres a oedd yng ngwasanaeth y deml.
19
Cymerodd pennaeth y gosgorddlu y celfi o fetel gwerthfawr, yn aur ac yn arian ffiolau, pedyll tn, cawgiau, crochanau, canwyllbrennau, thuserau, a chwpanau diodoffrwm.
20
Nid oedd terfyn ar bwysau'r pres yn yr holl lestri hyn, sef y ddwy golofn, y mr a'r deuddeg ych pres oddi tano, a'r trolau yr oedd Solomon wedi eu gwneud i du375?'r ARGLWYDD.
21
Ynglu375?n 'r colofnau: yr oedd y naill yn ddeunaw cufydd o uchder, a'i hamgylchedd yn ddeuddeg cufydd; yr oedd yn wag o'i mewn, a thrwch y metel yn bedair modfedd.
22
Ar ei phen yr oedd cnap pres, a'i uchder yn bum cufydd, a rhwydwaith a phomgranadau o amgylch y cnap, y cwbl o bres. Ac yr oedd y golofn arall, gyda'i phom-granadau, yr un fath.
23
Yr oedd naw deg a chwech o'r pomgranadau yn y golwg, a chant o bomgranadau i gyd, ar y rhwydwaith o amgylch.
24
Cymerodd pennaeth y gosgorddlu Seraia y prif offeiriad, a Seffaneia yr ail offeiriad, a thri cheidwad y drws;
25
a chymerodd o'r ddinas y swyddog oedd yn gofalu am y gwu375?r rhyfel, a saith o ddynion o blith cynghorwyr y brenin oedd yn parhau yn y ddinas, ac ysgrifennydd pennaeth y fyddin, a fyddai'n galw'r bobl i'r fyddin, a thrigain o'r werin a gafwyd yn y ddinas.
26
Cymerodd Nebusaradan, pennaeth y gosgorddlu, y rhai hyn, a mynd at frenin Babilon yn Ribla.
27
Fflangellodd brenin Babilon hwy i farwolaeth yn Ribla, yng ngwlad Hamath. Felly y caethgludwyd Jwda o'i gwlad ei hun.
28
Dyma'r bobl a gaethgludwyd gan Nebuchadnesar: yn y seithfed flwyddyn, tair mil a thri ar hugain o Iddewon;
29
yn y ddeunawfed flwyddyn i Nebuchadnesar, caethgludwyd o Jerwsalem wyth gant tri deg a dau o bobl;
30
yn y drydedd flwyddyn ar hugain i Nebuchadnesar, caethgludodd Nebusaradan, pennaeth y gosgorddlu, saith gant pedwar deg a phump o Iddewon. Yr oedd y cyfanswm yn bedair mil chwe chant.
31
Yn yr ail flwyddyn ar bymtheg ar hugain o gaethgludiad Jehoiachin brenin Jwda, yn y deuddegfed mis, ar y pumed dydd ar hugain o'r mis, gwnaeth Efil-merodach brenin Babilon, ym mlwyddyn gyntaf ei deyrnasiad, ffafr Jehoiachin brenin Jwda, a'i ddwyn allan o'r carchar,
32
a dweud yn deg wrtho, a pheri iddo eistedd ar sedd uwch na seddau'r brenhinoedd eraill oedd gydag ef ym Mabilon.
33
Felly diosgodd ei ddillad carchar, a bu'n westai i'r brenin weddill ei ddyddiau.
34
Ei gynhaliaeth oedd y dogn dyddiol a roddid iddo gan frenin Babilon, yn l gofyn pob dydd, holl ddyddiau ei einioes hyd ddydd ei farw.
← Chapter 51
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52