bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Jeremiah 42
Jeremiah 42
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 41
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 43 →
1
Nesaodd swyddogion y lluoedd, a Johanan fab Carea a Jesaneia fab Hosaia, a'r holl bobl yn fach a mawr,
2
a dweud wrth y proffwyd Jeremeia, "Os gweli'n dda, ystyria'n cais, a gwedda drosom ni ar yr ARGLWYDD dy Dduw, a thros yr holl weddill hyn, oherwydd gadawyd ni'n ychydig allan o nifer mawr, fel y gweli.
3
Dyweded yr ARGLWYDD dy Dduw wrthym y ffordd y dylem rodio a'r hyn y dylem ei wneud."
4
Atebodd y proffwyd Jeremeia hwy, "Gwnaf, mi weddaf drosoch ar yr ARGLWYDD eich Duw yn l eich cais, a beth bynnag fydd ateb yr ARGLWYDD, fe'i mynegaf heb atal dim oddi wrthych."
5
Dywedasant hwythau wrth Jeremeia, "Bydded yr ARGLWYDD yn dyst cywir a ffyddlon yn ein herbyn os na wnawn yn l pob gair y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei orchymyn inni. Yn sicr, fe'i gwnawn.
6
Boed dda neu ddrwg, fe wrandawn ni ar yr ARGLWYDD ein Duw, yr anfonwn di ato, fel y byddo'n dda inni; gwrandawn ar yr ARGLWYDD ein Duw."
7
Ymhen deg diwrnod daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia,
8
a galwodd ato Johanan fab Carea a swyddogion y lluoedd oedd gydag ef, a'r holl bobl yn fach a mawr,
9
a dweud wrthynt, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, yr anfonasoch fi ato i gyflwyno eich cais iddo:
10
'Os arhoswch yn y wlad hon, fe'ch adeiladaf, ac nid eich tynnu i lawr; fe'ch plannaf, ac nid eich diwreiddio, oherwydd rwy'n gofidio am y drwg a wneuthum i chwi.
11
Peidiwch ag ofni rhag brenin Babilon, yr un y mae arnoch ei ofn; peidiwch 'i ofni ef,' medd yr ARGLWYDD, 'canys byddaf gyda chwi i'ch achub a'ch gwaredu o'i afael.
12
Gwnaf drugaredd chwi, a bydd ef yn trugarhau wrthych ac yn eich adfer i'ch gwlad eich hun.
13
Ond os dywedwch, "Nid arhoswn yn y wlad hon", gan wrthod gwrando ar lais yr ARGLWYDD eich Duw,
14
a dweud, "Nage, ond fe awn i'r Aifft; ni welwn ryfel yno na chlywed sain utgorn na bod mewn newyn am fara, ac yno y trigwn",
15
yna, clywch air yr ARGLWYDD, chwi weddill Jwda. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Os mynnwch droi eich wyneb tua'r Aifft, a mynd yno i drigo,
16
yna bydd y cleddyf a ofnwch yma yn eich goddiweddyd yno yng ngwlad yr Aifft, a'r newyn sy'n peri pryder ichwi yn eich dilyn i'r Aifft. Ac yno y byddwch farw.
17
Trwy gleddyf a newyn a haint bydd farw pob un a dry ei wyneb tua'r Aifft i drigo yno; ni bydd un yn weddill nac yn ddihangol, oherwydd y dialedd a ddygaf arnynt.'
18
"Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: 'Fel y tywalltwyd fy llid a'm digofaint ar drigolion Jerwsalem, felly y tywelltir fy nigofaint arnoch chwithau pan ewch i'r Aifft. Byddwch yn destun melltith ac arswyd, gwawd a gwarth; ac ni chewch weld y lle hwn byth eto.'
19
Dywedodd yr ARGLWYDD wrthych, 'Chwi weddill Jwda, peidiwch mynd i'r Aifft.' Bydded hysbys i chwi i mi eich rhybuddio heddiw.
20
Twyllo'ch hunain yr oeddech wrth fy anfon i at yr ARGLWYDD eich Duw, a dweud, 'Gwedda drosom ar yr ARGLWYDD ein Duw, a mynega i ni bob peth a ddywed yr ARGLWYDD ein Duw; ac fe'i gwnawn.'
21
Mynegais ef i chwi heddiw, ond ni wrandawsoch ar lais yr ARGLWYDD eich Duw mewn dim yr anfonodd fi atoch i'w ddweud.
22
Yn awr, bydded hysbys y byddwch farw trwy gleddyf a newyn a haint yn y lle yr ydych yn dewis mynd iddo i fyw."
← Chapter 41
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 43 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52