bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Jeremiah 32
Jeremiah 32
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 31
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 33 →
1
Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD yn negfed flwyddyn Sedeceia brenin Jwda, a deunawfed flwyddyn Nebuchadnesar.
2
Y pryd hwnnw yr oedd llu brenin Babilon yn gwarchae ar Jerwsalem, a'r proffwyd Jeremeia wedi ei garcharu yng nghyntedd y gwarchodlu yn llys brenin Jwda.
3
Oherwydd yr oedd Sedeceia brenin Jwda wedi ei garcharu, a dweud, "Pam yr wyt yn proffwydo, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Dyma fi'n rhoi'r ddinas hon yng ngafael brenin Babilon, a bydd ef yn ei chymryd;
4
ac ni ddihanga Sedeceia brenin Jwda o afael y Caldeaid, ond fe'i rhoir yn gyfan gwbl yng ngafael brenin Babilon; a bydd yn ymddiddan ag ef wyneb yn wyneb, ac yn edrych arno lygad yn llygad.
5
Bydd yntau'n mynd Sedeceia i Fabilon, ac yno yr erys nes imi ymweld ag ef,' medd yr ARGLWYDD. 'Er ichwi ymladd yn erbyn y Caldeaid, ni chewch lwyddiant'?"
6
Yna dywedodd Jeremeia, "Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
7
'Fe ddaw Hanamel, mab dy ewythr Salum, atat a dweud, "Pryn fy maes yn Anathoth, oherwydd gennyt ti y mae hawl perthynas agosaf i'w brynu."'
8
A daeth Hanamel, fy nghefnder, ataf i gyntedd y gwarchodlu, yn l gair yr ARGLWYDD, a dweud wrthyf, 'Pryn, yn awr, fy maes yn Anathoth, yn nhir Benjamin, oherwydd gennyt ti y mae'r hawl i etifeddu a'r hawl i brynu; pryn ef iti.' Gwyddwn wrth hyn mai gair yr ARGLWYDD ydoedd.
9
Yna prynais y maes yn Anathoth gan fy nghefnder Hanamel, a phwysais iddo yr arian, dau sicl ar bymtheg.
10
Arwyddais y gweithredoedd, a'u selio a chymryd tystion, a phwyso'r arian mewn cloriannau.
11
Yna cymerais weithredoedd y pryniant, yr un a seliwyd yn l deddf a defod, a'r copi agored,
12
a rhois weithredoedd y pryniant i Baruch fab Nereia, fab Maaseia, yng ngu373?ydd Hanamel fy nghefnder, ac yng ngu373?ydd y tystion a arwyddodd weithredoedd y pryniant, ac yng ngu373?ydd yr holl Iddewon oedd yn eistedd yng nghyntedd y gwarchodlu.
13
Gorchmynnais i Baruch yn eu gu373?ydd hwy,
14
'Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Cymer y gweithredoedd hyn, gweithredoedd y pryniant hwn, yr un a seliwyd a'r un agored, a'u dodi mewn llestr pridd, iddynt barhau dros gyfnod hir.'
15
Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, 'Prynir eto dai a meysydd a gwinllannoedd yn y tir hwn.'
16
"Wedi imi roi gweithredoedd y pryniant i Baruch fab Nereia, gweddais ar yr ARGLWYDD fel hyn:
17
'O ARGLWYDD Dduw, gwnaethost y nefoedd a'r ddaear 'th fawr allu a'th fraich estynedig; nid oes dim yn amhosibl i ti.
18
Yr wyt yn ffyddlon i filoedd, yn ad-dalu drygioni'r rhieni i'w plant ar eu hl; Duw mawr, yr Un cadarn, ARGLWYDD y Lluoedd yw dy enw,
19
mawr yn dy gyngor, nerthol yn dy weithred. Y mae dy lygaid ar holl ffyrdd rhai meidrol, i dalu i bob un yn l ei ffyrdd, ac yn l ffrwyth ei weithred-oedd.
20
Gwnaethost arwyddion a rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft, a hyd y dydd hwn yn Israel ac ymhlith pobloedd; gwnaethost i ti'r enw sydd gennyt heddiw.
21
Daethost 'th bobl Israel allan o dir yr Aifft ag arwyddion a rhyfeddodau, ac llaw gref a braich estynedig, a dychryn mawr;
22
rhoist iddynt y wlad hon, y tyngaist wrth eu hynafiaid i'w rhoi iddynt, yn wlad yn llifeirio o laeth a ml.
23
Daethant hwy a'i meddiannu, ond ni fuont yn ufudd i'th lais, na rhodio yn dy gyfraith. Ni wnaethant ddim oll o'r hyn a orchmynnaist iddynt, a pheraist tithau i'r holl niwed hwn ddigwydd iddynt.
24
Y mae'r cloddiau gwarchae wedi cyrraedd at y ddinas i'w goresgyn; trwy'r cleddyf a newyn a haint rhoir y ddinas yng ngafael y Caldeaid sy'n ymladd yn ei herbyn. Y mae'r hyn a ddywedaist wedi digwydd, fel y gweli.
25
Ac yr wyt ti, O ARGLWYDD Dduw, wedi dweud wrthyf, "Pryn y maes ag arian a chymer dystion", er bod y ddinas i'w rhoi yng ngafael y Caldeaid.'"
26
Daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia a dweud,
27
"Myfi yw'r ARGLWYDD, Duw pob cnawd. A oes dim yn rhy ryfeddol i mi?
28
Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Yr wyf yn rhoi'r ddinas hon yng ngafael y Caldeaid ac yn llaw Nebuchadnesar brenin Babilon, a bydd ef yn ei chymryd.
29
A daw'r Caldeaid i ymladd yn erbyn y ddinas hon, a'i rhoi ar dn, a'i llosgi ynghyd 'r tai y buont ar eu toeau yn arogldarthu i Baal, ac yn tywallt diodoffrwm i dduwiau eraill, i'm digio i.
30
Oblegid o'u mebyd ni wnaeth pobl Israel a Jwda ddim ond yr hyn oedd ddrwg yn fy ngolwg; ni wnaeth pobl Israel ddim ond fy nigio gwaith eu dwylo,' medd yr ARGLWYDD.
31
'Oherwydd enynnodd y ddinas hon fy nigofaint a'm llid o'r dydd yr adeiladwyd hi hyd heddiw; symudaf hi o'm gu373?ydd,
32
o achos yr holl ddrygioni a wnaeth pobl Israel a phobl Jwda i'm digio hwy, eu brenhinoedd, eu tywysogion, eu hoffeiriaid, eu proffwydi, pobl Jwda a phreswylwyr Jerwsalem.
33
Troesant wegil tuag ataf, ac nid wyneb; dysgais hwy yn gyson a thaer, ond ni fynnent wrando na derbyn gwers.
34
Rhoesant eu ffieidd-dra yn y tu375? a alwyd ar fy enw, a'i halogi.
35
Codasant uchelfeydd i Baal yn nyffryn Ben-hinnom, i aberthu eu meibion a'u merched i Moloch; ni orchmynnais hyn iddynt, ac ni ddaeth i'm meddwl iddynt wneud y fath ffieidd-dra, i beri i Jwda bechu.'
36
"Yn awr, gan hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, wrth y ddinas hon, y dywedwch y rhoir hi yng ngafael brenin Babilon trwy'r cleddyf a newyn a haint:
37
'Casglaf hwy o'r holl wledydd y gyrrais hwy iddynt yn fy nig a'm llid a'm soriant mawr, a dychwelaf hwy i'r lle hwn, a gwnaf iddynt breswylio'n ddiogel.
38
Byddant yn bobl i mi, a minnau'n Dduw iddynt hwy.
39
A rhof iddynt un meddwl ac un ffordd, i'm hofni bob amser, er lles iddynt ac i'w plant ar eu hl.
40
Gwnaf hwy gyfamod tragwyddol, ac ni throf ef ymaith oddi wrthynt, ond gwneud yn dda iddynt; rhof fy ofn yn eu calon, rhag iddynt gilio oddi wrthyf.
41
Fy llawenydd fydd gwneud yn dda iddynt; yn wir 'm holl galon ac 'm holl enaid fe'u plannaf yn y tir hwn.'
42
"Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Megis y dygais ar y bobl hyn yr holl ddrwg mawr hwn, felly y dygaf arnynt yr holl ddaioni a addawaf iddynt.
43
Fe brynir meysydd yn y wlad hon y dywedwch amdani, "Anghyfannedd yw, heb ddyn nac anifail, ac wedi ei rhoi yng ngafael y Caldeaid."
44
Prynant feysydd am arian, ac arwyddo'r gweithredoedd, a'u selio a chael tystion, yn nhiriogaeth Benjamin, o amgylch Jerwsalem, yn ninasoedd Jwda, yn ninasoedd y mynydd-dir, yn ninasoedd y Seffela ac yn ninasoedd y Negef. Mi a adferaf eu llwyddiant,' medd yr ARGLWYDD."
← Chapter 31
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 33 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52