bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Jeremiah 39
Jeremiah 39
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 38
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 40 →
1
Yn y nawfed flwyddyn i Sedeceia brenin Jwda, yn y degfed mis, daeth Nebuchadnesar brenin Babilon a'i holl lu yn erbyn Jerwsalem a gwarchae arni;
2
ac yn yr unfed flwyddyn ar ddeg i Sedeceia, yn y pedwerydd mis, ar y nawfed dydd torrwyd bwlch ym mur y ddinas.
3
Daeth holl swyddogion brenin Babilon i mewn a sefyll yn y Porth Canol, sef Nergal-sareser, Samgar-nebo, Sarsechim, Rabsaris, Nergal-sareser, Rabmag, a holl swyddogion eraill brenin Babilon.
4
Pan welodd Sedeceia brenin Jwda a'i holl filwyr hwy, ffoesant a gadael y ddinas liw nos, gan ddilyn ffordd gardd y brenin i'r porth rhwng y ddau fur, ac allan i ffordd Araba.
5
Ond canlynodd llu'r Caldeaid hwy, a goddiweddyd Sedeceia yn rhosydd Jericho a'i ddal, a'i ddwyn at Nebuchadnesar brenin Babilon yn Ribla yng ngwlad Hamath; yno y dyfarnwyd arno.
6
A lladdodd brenin Babilon feibion Sedeceia o flaen ei lygaid yn Ribla; a lladdodd brenin Babilon hefyd holl uchelwyr Jwda.
7
Yna fe dynnodd lygaid Sedeceia, a'i rwymo mewn cadwynau pres i'w ddwyn i Fabilon.
8
Llosgodd y Caldeaid thn blasty'r brenin a thai'r bobl, a dryllio muriau Jerwsalem.
9
Yna caethgludodd Nebusaradan, pennaeth y milwyr, weddill y bobl i Fabilon, sef y rhai oedd wedi eu gadael yn y ddinas, a'r rhai oedd wedi troi ato ef;
10
a gadawodd yng ngwlad Jwda rai pobl dlawd nad oedd ganddynt ddim, a rhoi iddynt yr adeg honno winllannoedd a meysydd.
11
Rhoddodd Nebuchadnesar brenin Babilon orchymyn ynghylch Jeremeia trwy law Nebusaradan, pennaeth y milwyr, a dweud,
12
"Cymer ef a gofala amdano; paid gwneud dim niwed iddo, ond gwneud fel y dywed wrthyt."
13
Yna anfonodd Nebusaradan, pennaeth y milwyr, a Nebusasban, Rabsaris, Nergal-sareser, Rabmag a holl benaethiaid brenin Babilon,
14
a chymryd Jeremeia o gyntedd y gwylwyr, a'i roi i Gedaleia fab Ahicam, fab Saffan, i'w gyrchu adref; a thrigodd ymhlith y bobl.
15
Daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia pan oedd yn garcharor yng nghyntedd y gwylwyr, a dweud,
16
"Dos a dywed wrth Ebed-melech yr Ethiopiad, 'Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Yr wyf yn dwyn fy ngeiriau yn erbyn y ddinas hon er drwg ac nid er lles, a chyflawnir hwy yn dy u373?ydd y dydd hwnnw.
17
Ond gwaredaf di y dydd hwnnw,' medd yr ARGLWYDD, 'ac ni'th roddir yng ngafael y dynion y mae arnat eu hofn.
18
Oherwydd rwy'n sicr o'th waredu, ac ni syrthi trwy'r cleddyf; byddi'n arbed dy fywyd am dy fod wedi ymddiried ynof fi,' medd yr ARGLWYDD."
← Chapter 38
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 40 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52